Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Internal applicants only - administrative officer (student support)

Administrative officer
Posted: 11h ago
Offer description

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Gweinyddol (Cymorth Myfyrwyr) Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Mae’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd am recriwtio Swyddog Gweinyddol i ymuno â’n Tîm Cefnogi Addysg. Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa mewn rôl sy’n canolbwyntio ar gefnogi a datblygu gweithgareddau dysgu ac addysgu. Gan weithio ochr yn ochr â’n Swyddogion Gweinyddol eraill, byddwch yn gyfrifol am roi cefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr a staff ar bopeth sy’n ymwneud â gweithgareddau dysgu ac addysgu yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. Bydd y rhain yn cynnwys cefnogi Ymchwil Ôl-raddedig (PGR), Amgylchiadau Esgusodol, Ymarfer Annheg, ISAN, Derbyn Myfyrwyr, Amserlennu, Modelu Llwyth Gwaith a Rhoi Llais i Fyfyrwyr (gweithio gyda chynrychiolwyr myfyrwyr, cynnal gwerthusiadau ac arolygon, paneli myfyrwyr/staff). Bydd angen sgiliau trefnu a chyfathrebu ardderchog arnoch. Bydd angen i chi hefyd allu trin a dadansoddi data, blaenoriaethu eich llwyth gwaith, gweithio o dan bwysau ac ymddwyn mewn modd sensitif a phroffesiynol wrth gyfathrebu ag amrywiaeth o randdeiliaid. Byddwch yn unigolyn creadigol, hyblyg, brwdfrydig a chyfrifol, sy’n gallu gweithio’n effeithiol yn rhan o dîm ac yn annibynnol. Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sy’n gallu hunan-ysgogi, ac sydd â’r gallu i addasu i newidiadau cyflym o ran blaenoriaethau ac ymateb iddynt. Ar yr un pryd, byddwch hefyd sicrhau bod busnes yn mynd rhagddo’n llyfn. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch. Os oes gennych ymholiadau anffurfiol cysylltwch â naill ai Charlotte Walker/ Asadur Rahman, Rheolwr Tîm (SHARE-TeamManagers@caerdydd.ac.uk) neu Samantha Haines, Rheolwr Addysg (HainesS4@caerdydd.ac.uk) Gellir anfon ymholiadau anffurfiol mewn perthynas â'r broses recriwtio / ymgeisio at Leah Fowler, Gweinyddwr AD - SHARE-HR@caerdydd.ac.uk. Mae'r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos), yn gyfnod sefydlog tan 31/07/2026 ac mae ar gael yn syth. Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 4). Rydym yn rhagweld y bydd y swydd hon yn dechrau ar waelod y raddfa. Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 5 Ionawr 2026 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Diben y Swydd Darparu cymorth gweinyddol proffesiynol cynhwysfawr i’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yn ogystal a chymorth ac arweiniad ar gyfer yr holl weithgareddau addysgu a dysgu ar draws yr Ysgol, a all gynnwys sicrhau ansawdd, amserlennu, gweinyddu ymchwil ôl-raddedig, cymorth i fyfyrwyr, recriwtio myfyrwyr, astudio dramor, modelu llwyth gwaith, diwrnodau agored, a gweithgareddau/prosiectau gweinyddol eraill. Bydd y rôl hon yn rhan allweddol o dîm Gwasanaethau Proffesiynol yr Ysgol, gan weithio'n agos ag aelodau eraill o'r Tîm Addysg, Rheolwyr Tîm, y Rheolwr Addysg, ac arweinwyr academaidd. Gellir cynnig y swydd hon ar sail gweithio gyfunol, sy’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch ddewis treulio rhywfaint o’r amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn gwneud hynny’n bosibl, a hynny er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol. Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac rydym yn gyflogwr o bwys, sydd â mwy na 7,000 o staff. Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd sy’n ffynnu. Gallwn gynnig y cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Prif Ddyletswyddau Darparu cyngor ac arweiniad manwl ar brosesau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â gweithgareddau addysgu a dysgu ar gyfer cwsmeriaid mewnol ac allanol (e.e. staff, myfyrwyr neu aelodau'r cyhoedd), gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol lle bo'n briodol. Drwy weithio gydag eraill bydd yn sefydlu a chynnal systemau a phrosesau gweithio mewn swyddfa gan awgrymu gwelliannau a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus staff, a gwneud y gwelliannau hynny. Sefydlu perthynas waith effeithiol gyda chysylltiadau allweddol gan gynnwys gwasanaethau proffesiynol a chydweithwyr academaidd o fewn yr Ysgol a'r Coleg, y Gofrestrfa, y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr, ac adrannau canolog eraill i helpu i wella lefel y gwasanaeth a ddarperir gan y tîm. Casglu a dadansoddi data i wneud argymhellion ar gyfer rheoli a llywio penderfyniadau, sefydlu tueddiadau a phatrymau sylfaenol mewn data a chreu adroddiadau gan ddefnyddio SIMS, Business Objects a systemau TG eraill fel y bo'n briodol. Sicrhau bod tasgau cefnogaeth academaidd yn cael eu cwblhau, gan gynnwys creu amserlenni gwaith lle bo'n briodol Gweithio'n hyblyg ar draws tîm gweinyddol yr Ysgol, gan gyfrannu at gyflawni amcanion y tîm, datblygu arferion da, cefnogi eraill a gwneud gwaith cyflenwi i gydweithwyr yn ôl yr angen. Creu amrywiaeth eang o ddogfennau gan gynnwys dogfennau sy'n ymwneud â pholisi a gweithdrefn, adroddiadau, cofnodion a deunyddiau eraill gan ddefnyddio rhaglenni fel Word, Excel, Access a PowerPoint. Sicrhau bod amcanion a dyddiadau cau yn cael eu cyrraedd yn ystod y flwyddyn academaidd, ac yn cael eu cyfathrebu i Gyfarwyddiaethau a Rheolaeth yr Ysgol yn ôl yr angen Dyletswyddau Penodol Gweithio'n agos gyda'r Rheolwyr Tîm a'r Rheolwr Addysg, gan eu cefnogi i gyflawni eu rolau'n effeithiol a dirprwyo ar ran y Rheolwyr Tîm (e.e. mewn cyfarfodydd) lle bo'n briodol. Cefnogi'r Rheolwyr Tîm wrth adolygu gweinyddiaeth academaidd yn barhaus ac wrth weithredu gweithdrefnau newydd i sicrhau bod safonau gwasanaeth yn diwallu anghenion myfyrwyr a staff yn barhaus yn ogystal â chydymffurfio â safonau a rheoliadau sicrhau ansawdd. Ymgymryd â gweithgareddau cymorth academaidd gan gynnwys meysydd megis cymorth ymchwil ôl-raddedig gweinyddol (PGR), diwrnodau agored, amserlennu (‘Fy Amserlen’ - My Timetable), monitro ac ymgysylltu â myfyrwyr, Athena SWAN, Deddf yr Iaith Gymraeg, gweithgareddau astudio dramor, a’r model dyrannu llwyth gwaith, arwain tasgau arwyddocaol a chymryd cyfrifoldeb am feysydd gwaith fel y bo'n briodol. Gwirio a chasglu'n fanwl gywir y cofnodion a'r dogfennau sydd eu hangen ar gyfer gweithdrefnau Ansawdd Academaidd gan gynnwys yr Adolygiad Sefydliadol, Adolygiad Blynyddol (ARE) a'r Adolygiad Cyfnodol (PR). Trefnu a chynnal cyfarfodydd a phwyllgorau ffurfiol ac anffurfiol a pharatoi agendâu, gwneud cofnodion a chamau gweithredu dilynol. Cynrychioli’r Ysgol mewn cyfarfodydd, digwyddiadau, pwyllgorau a gweithgorau, fel y bo’n briodol. Darparu cefnogaeth i fentrau’r Coleg, yn ôl yr angen/lle bo’n briodol. Dyletswyddau Cyffredinol Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol ac ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol priodol. Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd. Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau'r Gwasanaethau Proffesiynol neu werthoedd ac ymddygiadau cyfatebol yn lleol Gwybodaeth Ychwanegol Sut y byddwn yn eich cefnogi i gyflawin'r rôl hon Rydym am eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd, gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial: Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas. Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich Rheolwr Llinell. Gallai hyn fod yn anffurfiol neu gallai fod yn brentisiaeth sy'n arwain at gymhwyster ffurfiol, megis NVQ ym maes Gweinyddu Busnes. Cynllun mentora staff. Cymorth i ddysgu Cymraeg neu ddiweddaru eich sgiliau iaith Manyleb Unigolyn Rydym yn awyddus i gyflogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu gred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu bod yn rhan o dîm, a fydd yn cydweithio ag eraill i roi gwasanaeth gwych i’r staff a’r myfyrwyr. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio i Brifysgol o'r blaen; dyma gyfle i chi ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â’ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd. Gall y rôl hon fod yn gyfle i chi adeiladu ar eich profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd gweinyddol blaenorol gyda diddordeb arbennig mewn adnoddau dynol, gan ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch gallu i fod yn llwyddiannus yn y rôl. Dylech fod yn frwdfrydig dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ddod yn aelod gwerthfawr o'r tîm. Bydd eich cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Copïwch yr adran hon a’i gludo i mewn i ddogfen newydd, a rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn gallu dangos tystiolaeth o fodloni pob maen prawf, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Gallwch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol), cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i'r swydd. Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [[EICH ENW-RHIF BR -TEITL SWYDD] a'i rhoi ynghlwm wrth eich cais yn y system recriwtio, sydd ar gael yma. Nodwch mai dyma'r meini prawf hefyd y bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu hasesu yn eu herbyn mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau). Meini Prawf Hanfodol Gallu cyfathrebu'n ysgrifenedig yn glir, yn gryno, ac yn effeithiol i roi cyngor ac arweiniad manwl ar weinyddiaeth a chymorth ymchwil. Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd cyfrifiadurol da. Profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd gweinyddol ac o allu sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol. Gallu i ddatblygu dealltwriaeth arbenigol o brosesau gweinyddol a'r rheoliadau sy'n ymwneud ag addysg uwch a sicrwydd ansawdd. Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid â lefelau dealltwriaeth amrywiol. Gallu i gynghori rhanddeiliaid allweddol yn eich maes gwaith a dylanwadu arnynt. Gallu ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu’r gwasanaeth rydych chi’n ei ddarparu yn unol â hynny er mwyn sicrhau eich bod yn cynnig gwasanaeth o safon. Gallu defnyddio mentergarwch a bod yn greadigol er mwyn datrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan nodi a chynnig atebion ymarferol. Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth a chyflwyno gwaith mewn pryd, gan gynllunio a monitro eich blaenoriaethau chi a’r tîm. Tystiolaeth o allu i ddadansoddi prosesau a gweithdrefnau, ac argymell gwelliannau Meini Prawf Dymunol Profiad o weithio mewn amgylchedd tebyg, e.e. Addysg Uwch Gallu siarad/deall Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu. NVQ Lefel 3/Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol Gwybodaeth arbenigol am brosesau gweinyddol a rheoliadau sy'n ymwneud ag addysg uwch a sicrhau ansawdd

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Bank administrative officer
Dunoon
Permanent
NHS National Services Scotland
Administrative officer
Similar job
Administrative officer
Dundee
Permanent
Action for Children
Administrative officer
€23,151.5 a year
Similar job
Administrative officer
Permanent
Brook Street
Administrative officer
€12.36 an hour
See more jobs
Similar jobs
Home > Jobs > Administration jobs > Administrative officer jobs > Internal Applicants Only - Administrative Officer (Student Support)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save