Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Pennaeth cyfraith a gorfodi (head of legal and enforcement)

Cardiff
Solicitors Regulation Authority
Head of legal
€150,000 - €200,000 a year
Posted: 10 February
Offer description

Pennaeth Cyfraith a Gorfodi (Head of Legal and Enforcement)
Contract Type
Permanent
Working Pattern
Full time
Working Hours
35 hours per week
Salary
£70,000 - £80,000 depending on knowledge, skills and experience with additional London weighting where applicable
Location Options
Cardiff with part of the week working from home
Function Type
Legal
Mae gennyn ni gyfle cyffrous i uwch gyfreithwyr ymuno â'n tîm cyfreithiol fel Pennaeth Cyfraith a Gorfodi .
Beth sydd ar gael i chi?
Gweithio i reoleiddiwr cyfreithiol blaengar ar adeg gyffrous; datblygu'n dull rheoleiddio drwy weithio ar achosion newydd ac amlwg
Arwain tîm o weithwyr proffesiynol cyfreithiol i ddarparu cyngor cyfreithiol a gwaith achosion o ansawdd uchel, gan sicrhau canlyniadau sy'n bodloni'r budd cyhoeddus
Chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a chynnal safonau uchel o wneud penderfyniadau a datblygu achosion ar draws yr SRA
Dangos eich barn broffesiynol a'ch gwybodaeth gyfreithiol arbenigol trwy gynnal yr achosion mwyaf difrifol a chymhleth yn bersonol
Y rôl
Mae'r tîm Cyfraith a Gorfodi yn ymdrin â materion dadleuol gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a'r Uchel Lys. Mae hefyd yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar achosion yn fewnol ar ystod o faterion i'n timau ymchwilio a'n timau rheoleiddio eraill. Gan adrodd i'r Cyfarwyddwr, byddwch yn arwain tîm o hyd at 15 o weithwyr proffesiynol cyfreithiol ac yn gweithio ar y cyd â Phenaethiaid Cyfraith a Gorfodi eraill i wneud gwaith achosion o ansawdd uchel mewn amgylchedd rheoleiddio dadleuol.

Gan oruchwylio ymchwiliadau ac erlyniadau hynod gymhleth ac amlwg, byddwch yn atebol am achosion, gan sicrhau eu bod yn cael eu hymchwilio a'u symud ymlaen yn effeithiol a bod penderfyniadau a chanlyniadau'n cael eu cyflawni er budd y cyhoedd ac yn unol â Strategaeth Gorfodi'r SRA. Byddwch yn cyflawni hyn trwy drin a goruchwylio achosion yn ogystal â darparu a goruchwylio cyfarwyddyd ar achosion i dimau rheoleiddio ar draws yr SRA.

Byddwch yn arwain ac yn helpu timau o gyfreithwyr ac ymchwilwyr i wneud penderfyniadau cyson a phriodol, trwy rannu'ch arbenigedd i hybu diwylliant sy'n uchel ei berfformiad. Byddwch yn dangos eich gallu i ddadansoddi ac amsugno gwybodaeth yn gyflym, gan hoelio sylw ar y ffeithiau a'r materion amlwg, pwyso a mesur tystiolaeth a materion i gyrraedd dyfarniadau amserol, teg, clir a rhesymegol.
Fel arweinydd rhagweithiol, byddwch yn gwerthfawrio manteision cydweithredu gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Yn allanol, gallech fod yn rhan o gyflwyniadau mewn cyfarfodydd â rhanddeiliaid, seminarau a chynadleddau. Yn fewnol byddwch yn darparu cyngor ac arbenigedd cyfreithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn ogystal â chyflwyno papurau a chyflwyniadau i bwyllgorau, byrddau a staff. Byddwch yn defnyddio’ch barn gadarn trwy nodi a ymateb i risgiau cyfreithiol ac ymarferol a risgiau polisi, gan ddangos dealltwriaeth o faterion sensitif ac uwch-gyfeirio'n briodol ac yn effeithiol.
To succed in this role, you will need superb organisational skills and be able to comfortably and effectively manage your own time and that of others. As a credible people leader, you will be familiar with managing a team to handle cases in a KPI driven operational environment.
Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano
Cyfreithiwr, bargyfreithiwr neu gyfreithiwr CILEX (gyda hawliau ymarfer mewn ymgyfreitha troseddol a/neu sifil), a dderbyniwyd yng Nghymru a Lloegr gyda thystysgrif ymarfer gyfredol, dealltwriaeth eithriadol o weithdrefnau ac arferion rheoleiddio, ymgyfreitha a gwaith achosion cyfreithiol cymhleth
Profiad o arwain timau o gyfreithwyr uchel eu perfformiad a/neu uwch weithwyr achosion yn llwyddiannus
Profiad helaeth o gyflwyno a chyfarwyddo gwaith achosion neu ymgyfreitha cymhleth
Profiad cydnabyddedig o ddarparu cyngor cyfreithiol strategol a diduedd o ansawdd uchel, gyda dealltwriaeth o faterion sensitif
Profiad ymarferol o dadansoddi achosion a drafftio cyfreithiol mewn amgylchedd hynod gymhleth neu broffil uchel, dadleuol
Cyfathrebwr medrus, sy'n gallu esbonio materion cyfreithiol neu dechnegol cymhleth yn glir ac ar bob lefel
Profiad o Adolygiadau Barnwrol yn fantais ond nid yn hanfodol

We do not specify PQE for any of our vacancies but anticipate that this opportunity will suit someone operating at Senior Associate or Partner level (or equivalent).
Gwybodaeth ddefnyddiol ac ychwanegol
Rydym yn recriwtio ar gyfer y rôl hon yn ein swyddfeydd yn Birmingham, Caerdydd a Llundain. Byddwch yn cael eich lleoli yn y swyddfa agosaf at eich lleoliad chi, a disgwylir ichi weithio 2 ddiwrnod yr wythnos yn y swyddfa a gweddill yr wythnos gartref. Bydd y rôl yn gofyn ichi deithio un diwrnod yr wythnos i'r swyddfa yn Birmingham lle mae'r tîm Cyfraith a Gorfodi wedi'i leoli. Yr ystod cyflog y gallwn ei chynnig ar gyfer y rôl hon yw £70,000 - £80,000 depending on relevant knowledge, skills and experience. A 10% London weighting will apply to the salary if applicable.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb yn yr hysbyseb neu ar ein gwefan, neu os hoffech gael sgwrs gyfrinachol, gallwch gysylltu â ni drwy: recruitment@sra.org.uk .
I wneud cais
Cliciwch ar 'apply' i lenwi'r ffurflen gais ar-lein ac uwchlwythwch CV a llythyr eglurhaol, gan fynd i'r afael â sut rydych chi'n bodloni gofynion y rôl. Ni ddylai'ch Llythyr Eglurhaol fod yn fwy na 2 dudalen.
I ddarganfod mwy am y broses recriwtio a dethol a sut i wneud y gorau o'ch cais, ewch i'n tudalennau swyddi.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Chwefror 2026. Rydym yn disgwyl defnyddio proses gyf-weld mewn dau gam a hynny o'r wythnos sy'n dechrau ar 9 Mawrth ymlaen.
Ni fydd ymgeiswyr blaenorol i'r rôl hon yn ystod y 6 mis diwethaf yn cael eu hystyried a gofynnir iddynt beidio ag ail-ymgeisio.
The SRA is the independent regulator of solicitors and law firms in England and Wales, protecting consumers and supporting the rule of law and the administration of justice. We do this by overseeing all education and training requirements necessary to practise as a solicitor, licensing individuals and firms to practise, setting the standards of the profession and regulating and enforcing compliance against these standards.
We offer an inclusive, supportive and friendly working environment and the chance to develop your career within a professional organisation. We are committed to the health and wellbeing of staff, helping everyone to strike a good balance between personal and professional life.
Additionally, we provide a generous flexible benefits package, an excellent defined contribution pension scheme and an additional 3% of annual basic salary upon successful completion of probation.
Diddordebyn?
There is more information about the role in Welsh and English overall; Supporting Documents and Vacancy closing date are listed in the advert. The Solicitors Regulation Authority is an Equal Opportunities Employer. Diversity and inclusion is central to everything we do. Everyone is encouraged to bring their whole self to work to value a diverse workforce.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Head of legal and enforcement
Cardiff
SOLICITORS REGULATION AUTHORITY
Head of legal
Similar job
Head of legal & enforcement — hybrid (cardiff/home)
Cardiff
Permanent
Solicitors Regulation Authority
Head of legal
€75,000 a year
Similar job
Pennaeth cyfraith a gorfodi (head of legal and enforcement)
Cardiff
Permanent
Solicitors Regulation Authority
Head of legal
€75,000 a year
See more jobs
Similar jobs
Legal jobs in Cardiff
jobs Cardiff
jobs Cardiff
jobs Wales
Home > Jobs > Legal jobs > Head of legal jobs > Head of legal jobs in Cardiff > Pennaeth Cyfraith a Gorfodi (Head of Legal and Enforcement)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2026 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save