Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Cynorthwyydd cymorth anghenion arbennig dros dro - ygg ynyswen

Treorchy
Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen
Posted: 17 November
Offer description

DescriptionEmployerLocation

YSGOL GYNRADD GYMRAEG YNYSWEN

Clinic Rd, Ynyswen, Treorci,

Rhondda Cynon Taf

CF42 6ED

Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig Dros Dro

Nifer yr oriau fesul wythnos: 20 Oriau (Tymor yr ysgol yn unig)

Cyflog: Gradd 3 £25,185 x 47.47%

Gontract: Dros Dro – 31/08/2026

Dyddiad dechrau'r swydd: Cyn gynted â phosibl

Dymuna Corff Llywodraethol Ynyswen apwyntio gynorthwyydd brwdfrydig, sensitif a chydwybodol.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio dan arweiniad y staff Addysgu a defnyddio ei flaengaredd i weithredu rhaglenni gwaith cytûn, gydag unigolion/grwpiau, yn yr ystafell ddosbarth a’r ardal tu allan. Disgwylir i’r ymgeisydd sefydlu perthynas gadarnhaol gyda disgyblion, gan fod yn esiampl dda a gosod disgwyliadau uchel trwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwylir i’r ymgeisydd weithio gyda'r athrawes a staff cefnogi er mwyn sefydlu amgylchedd dysgu priodol yn unol â chynlluniau gwersi a chynorthwyo ag arddangos gwaith disgyblion. Edrychwn ymlaen at groesawu aelod newydd i dîm llwyddiannus Ynyswen.Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos (12pm) ar 21/11/2025.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos (12pm) ar 21/11/2025.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Safeguarding Statement

Ysgol G.G. Ynyswen is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Treorchy
jobs Rhondda Cynon Taf
jobs Wales
Home > Jobs > Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig Dros Dro - YGG Ynyswen

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save