Equal Opportunities At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of. Who we are At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing. We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs. Role responsibilities Lead and develop the planning and scheduling team and service across TfW and its subsidiaries by facilitating collaborative planning workshops with internal and external stakeholders to robustly plan project outputs and realise project outcomes. Deliver the enhancement and renewals investment pipeline by working closely with others to integrate schedule and cost management to continuously challenge and improve TfWs planning, scheduling and control principles and processes. Monitor and maintain TfWs Integrated Master Schedule including vertical and horizontal integration of supporting plans to highlight trends and variances against schedule metrics and undertaking what-if scenarios to assist management intervention. Act as the second line of defence in accordance with TfWs project assurance requirements by ensuring all planning resources, systems, and processes are adhered both internally and across the supply chain, undertaking peer reviews of schedules in accordance with TfWs investment lifecycle to build confidence in the projects deliverability and stands up to scrutiny. Challenge the progress and performance of projects, ensuring project schedules meet NEC contract obligations and client expectations. Develop, maintain and continuously improve planning KPIs by identifying trends in internal and external performance to enable business insight and management action. Maintain and support the delivery of projects to time and cost by participating in Directorate and project performance reviews ensuring project schedules meet NEC contract obligations and the performance measurement baseline Develop inputs to allow Quantitative Schedule Risk Analysis (QSRA) to be undertaken to inform investment decisions and critical work planning, incorporating schedule contingency is monitored to support the delivery of projects to time. Drive delivery, performance and continuous improvement by supporting the team with professional development and being their source for subject matter expertise. Who we’re looking for A relevant qualification in Planning and Scheduling or a project/programme management qualification e.g. APM, PMP or similar. Demonstrable evidence in the application of planning tools (e.g., Primavera P6, MS Project). Acting as a system administrator. Excellent knowledge and demonstrable experience of creating integrated master schedules across multiple projects and programmes in a portfolio Demonstrable evidence and knowledge in the application of NEC contract suite Proven track record of leading a team and driving delivery, performance and continuous improvement Welsh Language Skills The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role. Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses. Next steps Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details. Transport for Wales is a disability leader. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful. This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible. Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications. Cyfle Cyfartal Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. Pwy ydyn ni Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb. Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw. Cyfrifoldebau’r swydd Arwain a datblygu'r tîm a'r gwasanaeth cynllunio ac amserlennu ar draws TrC a'i is-gwmnïau drwy hwyluso gweithdai cynllunio cydweithredol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gynllunio allbynnau prosiectau'n gadarn a gwireddu canlyniadau prosiectau. Cyflawni'r biblinell buddsoddiadau ar gyfer gwella ac adnewyddu drwy weithio'n agos gydag eraill i integreiddio'r gwaith o reoli amserlenni a chostau er mwyn herio a gwella egwyddorion a phrosesau cynllunio, amserlennu a rheoli TrC yn barhaus. Monitro a chynnal Prif Amserlen Integredig TrC gan gynnwys integreiddio cynlluniau ategol yn fertigol ac yn llorweddol i dynnu sylw at dueddiadau ac amrywiadau yn erbyn metrigau amserlenni a chynnal senarios beth-os i gynorthwyo ymyriadau rheoli. Gweithredu fel yr ail linell amddiffyn yn unol â gofynion sicrwydd prosiectau TrC drwy sicrhau y glynir wrth yr holl adnoddau, systemau a phrosesau cynllunio yn fewnol ac ar draws y gadwyn gyflenwi, gan gynnal adolygiadau o amserlenni gan gymheiriaid yn unol â chylch bywyd buddsoddi TrC i feithrin hyder yn y gallu i gyflawni'r prosiectau a gwrthsefyll craffu. Herio cynnydd a pherfformiad prosiectau, gan sicrhau bod amserlenni prosiectau'n bodloni rhwymedigaethau contractau NEC a disgwyliadau cleientiaid. Datblygu, cynnal a gwella dangosyddion perfformiad allweddol cynllunio yn barhaus drwy nodi tueddiadau mewn perfformiad mewnol ac allanol er mwyn gwella gwybodaeth y busnes a chamau gweithredu sy’n gysylltiedig â rheoli. Cynnal a chefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau yn unol â'r amserlen a'r gyllideb drwy gymryd rhan mewn adolygiadau perfformiad prosiectau a Chyfarwyddiaethau gan sicrhau bod amserlenni prosiectau'n bodloni rhwymedigaethau contractau NEC a'r llinell sylfaen ar gyfer mesur perfformiad. Datblygu mewnbwn er mwyn gallu cynnal Dadansoddiad Risg o Restrau Meintiol i lywio penderfyniadau buddsoddi a chynllunio gwaith hanfodol, gan sicrhau bod trefniadau wrth gefn yn cael eu monitro i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau'n brydlon. Sbarduno darpariaeth, perfformiad a gwelliant parhaus drwy gefnogi'r tîm gyda datblygiad proffesiynol a bod yn ffynhonnell ar gyfer arbenigedd pwnc. Am bwy rydyn ni’n chwilio Cymhwyster perthnasol mewn Cynllunio ac Amserlennu neu gymhwyster rheoli prosiect/rhaglen, ee APM, PMP neu debyg. Tystiolaeth amlwg o ddefnyddio offer cynllunio (ee Primavera P6, MS Project). Gweithredu fel gweinyddwr system. Gwybodaeth ragorol a phrofiad amlwg o greu amserlenni meistr integredig ar draws nifer o brosiectau a rhaglenni mewn portffolio. Tystiolaeth a gwybodaeth amlwg o ran defnyddio cyfres contractau NEC. Llwyddiant blaenorol o arwain tîm a gyrru perfformiad, gwelliant parhaus a chyflawni. Sgiliau Iaith Gymraeg Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol