Lleoliad gwaith: Bae Colwyn/Rhuthun/Amrywiol/Hybrid
Mae Gwasanaethau Addysg Conwy a Sir Ddynbich yn chwilio am ymarferwyr addysg profiadol i ymuno â’r Gwasanaeth Gwella Addysg i ymgymryd â rôl hanfodol wrth gefnogi a sicrhau addysg o’r ansawdd gorau i holl bobl ifanc ysgolion uwchradd Conwy a Sir Ddynbich.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gydag arweinwyr ysgolion uwchradd a staff i ddatblygu a gweithredu strategaeth i wella sgiliau rhifedd dysgwyr ar draws y cwricwlwm 11-16 oed, yn ogystal â chefnogi arweinyddiaeth ac addysgu cymwysterau rhifedd a mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 4.
Mae hon yn swydd rhan amser cyfnod penodol i gyfoethogi'r Gwasanaeth Gwella Addysg yn ystod cyfnod cyffrous o drawsnewid a datblygu. Mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth a her ddwyieithog er mwyn parhau i wella cyrhaeddiad a phrofiad yr holl blant a phobl ifanc yn ein hysgolion a'n lleoliadau. Rydym yn edrych ymlaen at groesewis cydweithwyr profiadol, arloesol sy'n canolbwyntio ar atebion i ymuno â'r Gwasanaeth.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd gennych y sgiliau a’r arbenigedd i arwain a chefnogi agweddau statudol ac anstatudol perthnasol ar addysg, i sicrhau bod ysgolion uwchradd yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn cael y gefnogaeth a'r her o ansawdd uchel sydd eu hangen i wneud cynnydd parhaus. Byddwch yn gweithio’n agos gydag ysgolion, lleoliadau, rhanddeiliaid a Swyddogion Awrdudodau Lleol i gasglu a rhannu gwybodaeth a chynllunio a chyflwyno gwelliannau i sicrhau’r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Mae’r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn ddymunol (lefel 3) ar gyfer y swydd hon.
Telir y swydd ar raddfa Proffesiynol Gwella Addysg Soulbury, a chroesewir ceisiadau gan arweinwyr ysgol profiadol sydd â hanes profedig o reoli ymyriadau addysg yn llwyddiannus i wella perfformiad ysgolion. Gallai hyn fod mewn lleoliad ysgol neu fel gweithiwr proffesiynol o fewn Awdurdod Lleol neu Gonsortia Rhanbarthol. Amlinellir rhagor o fanylion am ddyletswyddau a chyfrifoldebau swydd-benodol yn y ddogfennaeth ychwanegol.
Oherwydd natur y gwaith, mae'r swydd yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Clare Scanlon, Rheolwr Gwasanaeth Gwella Addysg, 01492 575343, clare.scanlon@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
#J-18808-Ljbffr