Y Mudiad: Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o Gyf/ll yn Gymraeg, o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd Cymraeg yw Mudiad Meithrin. Y Mudiad yw’r darparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg mwyaf yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Sefydlwyd y Mudiad ym 1971 gydag oddeutu 50 cylch. Erbyn hyn, wedi tyfu’n aruthrol, mae tua 1000 o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ a meithrinfeydd dan faner Mudiad Meithrin. Mae’r rhain yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 22,000 o blant bob wythnos. Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref. Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl yn genedlaethol, gyda 2000 ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd eu hunain. Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag Awdurdodau Lleol.
Ein gweledigaeth yw creu Mudiad lle mae grŵp amrywiol o bobl dalentog yn dewis ymuno, aros a’n hargymell fel cyflogwyr. Mudiad lle mae ein pobl yn teimlo bod ymddiriedaeth ynddynt ac wedi'u grymuso i roi eu gorau i'n haelodau, i'w gilydd ac i hunain. Rydym yn angerddol am sicrhau bod ein pobl yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu ac er mwyn cyflawni hyn anelwn at ddenu ymgeiswyr amrywiol o bob cefndir er mwyn datblygu.
Y Feithrinfa: Mae Meithrinfa Garth Olwg yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae’r feithrinfa wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan is gwmni Mudiad Meithrin, sef Meithrinfeydd Cymru Cyf.
Gweler y swydd ddisgrifiad ar gyfer y swydd Dirprwy Reolwr a'r swydd Arweinydd Ystafell ar wefan Mudiad Meithrin.
#J-18808-Ljbffr