Cardiff Safeguarding and Children looked after teams are now based in 3 localities across the city at St Mellons in the East, Fairwater in the North and Cardiff Bay in the South enabling staff to be based within the communities that they serve. Within the team's geographical area you will support children and young people through robust assessment, outcome focused planning and effective intervention to support them in achieving positive outcomes within their families and communities. Working within a restorative practice approach, you will work in partnership with families and multi-agency colleagues in intervening to address both the presenting concerns and underlying difficulties. We are looking for experienced Social Workers. The successful candidates must have robust safeguarding, child protection experience and be confident with court proceedings. As a child protection social worker, you must be flexible and able to work under pressure. Due to the nature of the role candidates must have front line post qualifying experience in child protection services. A degree in Social Work is essential for this role, as well as excellent skills in assessment and the ability to write concise records and reports. You will be a good team player, have excellent communication, organisation skills and IT skills. Mae timau Diogelu a Phlant Caerdydd bellach wedi'u lleoli mewn 3 ardal ar draws y ddinas, yn Llaneirwg yn y Dwyrain, y Tyllgoed yn y Gogledd a Bae Caerdydd yn y De gan alluogi staff i fod wedi'u lleoli yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O fewn ardal ddaearyddol y tîm, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy gynnal asesiadau cadarn, cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac ymyriadau effeithiol i'w cefnogi wrth gyflawni deilliannau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Gan weithio o fewn dull ymarfer adferol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a chydweithwyr amlasiantaethol wrth ymyrryd i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n codi a’r anawsterau sy’n sail iddynt. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol profiadol. Mae'n rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar brofiad cadarn o ddiogelu ac amddiffyn plant a bod yn hyderus o ran achosion llys. Fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, rhaid i chi fod yn hyblyg a gallu gweithio dan bwysau. Oherwydd natur y rôl, mae'n rhaid bod gan ymgeiswyr brofiad ôl-gymhwyso rheng flaen mewn gwasanaethau amddiffyn plant. Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â sgiliau asesu rhagorol a’r gallu i ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG. Rydym hefyd yn hysbysebu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Gradd 7. Er eich bod yn gwneud cais am y rôl hon, byddwn hefyd yn eich ystyried ar gyfer y swydd Gradd 7 a'r cyflog cysylltiedig os byddwn yn credu, drwy'r broses gyfweld, fod eich sgiliau a'ch profiad yn fwy addas i'r rôl honno.