Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Arweinydd cyfathrebu strategol - strategic communications lead

Cardiff
Welsh National Opera Ltd
Posted: 9 October
Offer description

Arweinydd Cyfathrebiadau Strategol

Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Arweinydd Cyfathrebu Strategol er mwyn gyrru strategaeth gyfathrebu Opera Cenedlaethol Cymru a chwarae rhan hanfodol yn llunio sut rydym yn ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach. Mae'r rôl hon yn ganolog i gyfathrebu ein gweledigaeth artistig, atgyfnerthu ein brand, a sicrhau bod ein stori'n cael ei dweud gydag eglurder, creadigrwydd a thraweffaith

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

* Datblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu effeithiol sy'n alinio gyda gweledigaeth ac amcanion WNO.
* Rheoli cysylltiadau gyda'r wasg, gan fod yn weithredol wrth ddatblygu cyfleoedd newydd a goruchwylio safon holl ddeunydd y wasg.
* Arwain ar gyfathrebu mewn argyfwng, rheoli enw da, a materion cyhoeddus, gan gynnwys ymgysylltu gyda rhanddeiliaid gwleidyddol yng Nghymru a thu hwnt.
* Adeiladu a chynnal perthnasoedd gyda chynghorau celfyddydau, sefydliadau diwylliannol, cyrff o fewn y diwydiant, rhoddwyr noddwyr a phartneriaid corfforaethol.
* Goruchwylio cyfathrebiadau mewnol er mwyn cadw cydweithwyr wedi'i diweddaru ac yn teimlo'n rhan o bethau, gan gefnogi diwylliant agored a chydweithredol.
* Bod yn rheolwr llinell i'r Rheolwr Cyfathrebu a goruchwylio'r gyllideb cyfathrebu.
* Cynrychioli WNO mewn cyfarfodydd allanol, fforymau a digwyddiadau yn y sector gan eirioli dros y Cwmni a'r celfyddydau yn ehangach.
* Monitro perfformiad cyfathrebu, gan sicrhau bod brand yn cael ei ddefnyddio'n gyson ar draws yr holl ddeunyddiau.

Beth sydd ei angen arnoch?

* Cefndir cyfathrebu neu faterion cyhoeddus cryf, yn ddelfrydol o fewn y celfyddydau, diwylliant neu'r sector cyhoeddus.
* Profiad gyda pherthynas â'r llywodraeth ac ymgysylltiad gwleidyddol, gydag ymwybyddiaeth wleidyddol gref a rhwydweithiau cryf.
* Gallu profedig i ddylunio a darparu cynlluniau cyfathrebu strategol.
* Hanes profedig cadarn o fod â pherthynas â'r wasg, gyda chysylltiadau sefydledig gyda'r wasg.
* Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar (sgiliau Cymraeg yn hynod ddymunol).
* Profiad gyda chyfathrebu mewn argyfwng a gweithio o dan bwysau.
* Sgiliau trefniadaeth a rheoli prosiect cryf, gyda'r gallu i addasu mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.
* Sgiliau rhyngbersonol a medrus er mwyn adeiladu perthnasoedd effeithiol ar bob lefel.
* Profiad gyda chyfathrebu mewnol, rheoli newid ac ymgyrchoedd cylchrennog (dymunol).
* Dealltwriaeth dda o'r sector celfyddydau, opera o ddewis, sioeau cerdd, neu theatr (dymunol).
* Sgiliau TG a gwybodaeth o gydymffurfio gyda GDPR ardderchog.
* Y gallu i weithio’n annibynnol ac ar y cyd fel aelod o dîm.

Beth ydym ni’n gallu ei gynnig i chi?

* Cyflog Cystadleuol: £42,000-£45,000 y flwyddyn/pro rata
* Gwyliau Blynyddol: 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n mynd o 1af Medi i 31 Awst. Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn. Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.
* Pensiwn: Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y Cynllun) neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
* ostíngiadau: Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwesty Future Inn yng Nghaerdydd.
* Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park: Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).
* Rhaglen Cymorth i Weithwyr: Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori cyfrinachol am ddim sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.
* Gwersi Cymraeg: Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg fel ei gilydd.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Cardiff
jobs Cardiff
jobs Wales
Home > Jobs > Arweinydd Cyfathrebu Strategol - Strategic Communications Lead

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save