Heddlu Heddlu Dyfed Powys Math o rôl Staff Heddlu Maes Busnes / Adran Uned Gwella Gwasanaethau Lleoliad Pencadlys Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg Gradd G Cyflog £41,907 - £45,147 Rhan/Llawn Amser Llawn Amser Oriau'r Wythnos 37 Math o Gytundeb Dros Dro Dyddiad Gorffen Cytundeb Dros Dro 10 Gorffennaf 2026 Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 2 Dyddiad Cyfweliad 15 Medi 2025 Dyddiad cau 25/08/25 23:55 Disgrifiad Hysbysiad Swydd Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Rheolwr Prosiect yn Uned Gwella Gwasanaeth. Beth fyddwch chi’n ei wneud? Bydd y daliwr swydd yn gyfrifol am reoli cyflenwi prosiectau, o’r cysyniad gwreiddiol hyd at y cam gweithredu, gan gynnwys prosiectau, newid sefydliadol, a gwella, nodi buddiannau, rheoli ac adrodd. Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer). Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais. Beth allwch chi ddisgwyl? Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd) Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd) Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas Cynllun Beicio i’r Gwaith Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi Cynllun pensiwn Rhwydweithiau Cymorth Staff Cyfleoedd gweithio hyblyg Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael Darpariaethau tâl salwch Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio. Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata. https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf Amrywiaeth a’r Gymraeg Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona. Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol. Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio. Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Pwynt gwybodaeth: Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.