Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig, gweithgar a chydwybodol i ymgymryd â swydd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin ar drothwy cyfnod lansio ein strategaeth newydd, Meithriniaith.
Ein pennaf nod fydd i ysbrydoli newid dros y 5 mlynedd nesaf er mwyn cynyddu nifer y plant sy’n dechrau taith iaith gyda ni yng nghymuned Mudiad Meithrin gan gofio mai’r blynyddoedd ffurfiannol yw’r cyfnod gorau i ddylanwadu ar arferion iaith am oes.
Bydd ein Prif Weithredwr newydd yn gyfathrebwr heb ei ail, yn ddylanwadwr dawnus ac yn bartner dibynadwy sydd â hanes llwyddiannus o gyflawni ar across ystod o brosiectau croestoriadol.
Byddant yn unigolyn sydd wedi’u hysgogi gan werthoedd Mudiad Meithrin a’u cymell gan yr awydd i wireddu’r uchelgais fod y Gymraeg yn perthyn i bawb.
Cyflog:Band cyflog MMPW1 £81,412 – MMPW5 £89,791 gan gychwyn ar y pwynt cyflog cyntaf sef £81,412.
Cymwysterau: ar lefel gradd Baglor neu gyffelyb, neu brofiad ar lefel cyffelyb .
Lleoliad:
Angorir y swydd yn un o swyddfeydd Mudiad Meithrin, sydd yn Aberystwyth, Caerdydd, Cross Hands, Llangefni a Rhuthun. Disgwylir i ddeiliad y swydd fod ym mhrif swyddfa Mudiad Meithrin yn Aberystwyth yn rheolaidd. Bydd gofyn i’r sawl a benodir deithio yn helaeth ac yn rheolaidd trwy Gymru.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fanylion llawn.
Pe hoffech drafod y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu gyda Chadeirydd Mudiad Meithrincadeirydd@meithrin.cymruneu ddeilydd presennol y swydd, Dr Gwenllian Lansdown Davies argwenllian@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gyrrwch lythyr dwy ochr neu fideo 3 munud o hyd yn esbonio sut rydych yn cyrraedd y meini prawf a chopi o’ch CV er sylw Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin i adnoddaudynol@meithrin.cymru erbynMedi 26 2025 am hanner dydd.
Dyddiadau allweddol tebygol:
* Dyddiad cau– Medi 26 2025 am hanner dydd
* Dewis rhestr fer– Hydref 1 2025
* Cyfweliad gyda rhanddeiliaid allweddol ar ‘Teams’– ar ddyddiad i’w gadarnhau wythnos yn cychwyn Hydref 6 2025
* Prawf, cyflwyniad a chyfweliad ffurfiol wyneb yn wyneb yn Aberystwyth– ar Hydref 13 2025
#J-18808-Ljbffr