DescriptionSupporting documentsEmployerLocation
Athro/ Athrawes - Ysgol Gymraeg Cwm Derwen
Athro/ Athrawes Dosbarth Y Ganolfan (Dosbarth anghenion Dysgu ychwanegol arbennigol) – Secondiad am 2 dymor (Ionawr – Awst) gyda Lwfans ADY 1 ychwanegol
Llawn amser- Prif Raddfa Gyflog Athrawon TM02-UPS3
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys ar gyfer secondiad llawn amser, am ddau dymor (Ionawr – Awst) fel Athro/ Athrawes Dosbarth Y Ganolfan (dosbarth arbennigol Anghenion Dysgu Ychwanegol). Bydd cyfle i’r swydd fod yn barhaol i’r person cywir yn dilyn y secondiad.
Mae Corff Llywodraethol yr ysgol lwyddiannus hon yn awyddus i apwyntio athro / athrawes sydd yn arddangos sgiliau addysgu ardderchog ar lawr y dosbarth gyda phrofiad a dealltwriaeth helaeth o weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol gan gynnwys anawsterau ymddygiad.
Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu yn ein dosbarth arbenigol fel rhan o dîm profiadol i gefnogi dysgwyr gydag amrywiaeth o anawsterau dysgu/ cymdeithasol.
Cyniga'r swydd yma gyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:
•fod yn frwd, yn ofalgar ac yn gallu sicrhau cyfleoedd datblygiadol, cyfoethog a hwylus i'r holl ddysgwyr,
•osod disgwyliadau uchaf i'r dysgwyr o ran ymddygiad, cyflawniadau a datblygiad sgiliau,
•cynnal dysgu ac addysgu o’r safon uchaf i gwrdd ag anghenion ein holl ddysgwyr,
•arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol,
•weithio'n effeithiol fel aelod o dîm ein hysgol
•arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o Gwricwlwm i Gymru a’r fframweithiau sgiliau,
•dangos safonau uchel wrth ddefnyddio TGCh i gefnogi dysgu,
•sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda'n rhieni a gofalwyr, aelodau o'n Corff Llywodraethol a'n gymuned ehangach,
•cyfrannu tuag at a chefnogi holl weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yr ysgol.
Mae Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol ofalgar a hapus, lle rhoddir blaenoriaeth ar les disgyblion a staff er mwyn sicrhau cyfleodd orau i’n disgyblion. Mae hybu’r Iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn allweddol i’n Cwricwlwm. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu’r Gymraeg yn rhugl yn hanfodol i’r swydd.
Dylid dychwelyd ffurflenni gais at y Pennaeth: Mrs K Matthews, Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Beech Grove, Oakdale, Caerphilly NP12 3UP
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Mrs K Matthews ar 01 49 5 22 60 62
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 1af Rhagfyr 2025
Gall ymgeiswyr wneud cais drwy Eteach.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.
Swyddi sydd angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg:
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg 02 92 0 4 60 09 9. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.
Safeguarding Statement
Ysgol Gymraeg Cwm Derwen is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.