Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw. Byddwch yn c efnogi Adran Pobl a Diwylliant Grŵp Cynefin, sy'n cynnwys timoedd Adnoddau Dynol, Mentrau Cymunedol, Cyfathrebu a Marchnata, Gwasanaeth Cwsmer a Iechyd a Diogelwch. Cewch f las ar holl agweddau Adran Pobol a Diwylliant a deall mwy am waith a chyfleoedd o fewn cymdeithas dai a ch ynorthwyo gyda'r gwaith o ymgysylltu gyda'n tenantiaid a chwsmeriaid mewn amrywiol ffyrdd. Dyma gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl a chael blas ar waith amrywiol mewn cymdeithas dai cefnogol a chyfeillgar. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol, ar 0300 111 2122. Y Pecyn Math o gytundeb: Cytundeb 2 flynedd Cyflog: Isafswm Cyflog Cenedlaethol Lleoliad: Dinbych Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd (pro rata) Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) Disgrifiad Swydd DS Prentis Pobl a Diwylliant 0625.pdf JD Apprentice People and Culture 0625.pdf Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Datblygiad Personol: Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais.pdf Cyfweliadau: dyddiad i'w gadarnhau Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.