Y rôl yw arwain Taith Gerdded Rhaeadrau Rho Gynnig Arni ar 15 fed Tachwedd. Bydd angen i chi hefyd fynychu sesiwn briffio fer (tua 30 munud) a sesiwn ôl-drafodaeth (tua 15 munud) yn Undeb y Myfyrwyr yn y dyddiau cyn ac ar ôl y daith. Gellir trefnu hyn ar amser sy'n gyfleus i chi a chydlynydd Rho Gynnig Arni.
Cofiwch gynnwys manylion am unrhyw brofiad perthnasol ac a ydych chi wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf/cymorth cyntaf mynydd
* Y man cyfarfod a'r lleoliad ar gyfer y briffio/ôl-drafodaethau yw Undeb y Myfyrwyr (Cathays). Darperir cludiant i Ardal y Rhaeadrau
* Arwain Taith Gerdded Rhaeadrau Rho Gynnig Arni
* Croesawu myfyrwyr ar y daith, gwneud cyhoeddiadau clir i grŵp mawr, a darparu gwybodaeth hanfodol am y daith
* Byddwch yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ar y daith
* Hefyd yn gyfrifol am reoli gwirfoddolwyr RhGA ar y daith
* Cymorth cyntaf os bydd angen
* Cyflwyno sesiwn briffio ar ddiogelwch i bob myfyriwr ar y daith
* Trefnu bod pob radio symudol, y pecyn cymorth cyntaf a dogfennaeth yn cael eu dychwelyd i Rho Gynnig Arni
* Meithrin cysylltiadau cyfeillgar â mynychwyr tra’n cynnal ffiniau proffesiynol
* Dilyn y gweithdrefnau ar gyfer arwain taith bob amser
Meini prawf hanfodol
* Rhaid i chi fod yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd neu wedi bod yn un o fewn y 3 mis diwethaf
* Wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf – cymorth cyntaf mynydd yn ddelfrydol
* Y gallu i wneud penderfyniadau am ddiogelwch y daith gerdded ar ddiwrnod y daith
* Y gallu i gerdded 6 milltir yn yr awyr agored (rhai bryniau, mwd a llwybrau troed)
* Yn hyderus wrth siarad yn gyhoeddus â thua 55 o fyfyrwyr (darperir nodiadau)
Meini Prawf y Dymunir eu Bodloni
* Y gallu i siarad Cymraeg ar lefel sgwrsio.
#J-18808-Ljbffr