*Nid ydym yn derbyn CV. Bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen gais cywir oddi ar ein gwefan. Cyfeiriad isod.*
*We do not accept CVs. Please use the correct application form available on our website. Address below.*
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant bach Cymru?
Dewch i ymuno â theulu Mudiad Meithrin – rydyn ni'n angerddol am roi'r dechrau gorau i blant.
Mae Meithrinfa Medra, Llangefni yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae'r feithrinfa wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan is gwmni Mudiad Meithrin, sef Meithrinfeydd Cymru Cyf.
Dyletswyddau'r Swydd: Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Rheolwr am gyflawni'r dyletswyddau canlynol:
Dilyn arweiniad yr Arweinydd Ystafell i:
* Sicrhau bod pob plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o'r safon uchaf
* Sicrhau bod trefniadau bwydo a newid plant yn cael eu gweithredu yn briodol
* Sicrhau bod sylw manwl yn cael ei roi at hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg
* Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i orffwys neu gysgu yn ôl ei anghenion
* Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd â'u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol
* Sicrhau bod adnoddau o fewn cyrraedd hwylus, ac yn addas i oedran y plant
* Sicrhau fod amseroedd bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i'r plant
* Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol ac yn meithrin ymwybyddiaeth y plant o'u hamgylchedd
* Croesawu rhieni i'r Feithrinfa
* Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon ac fel rhan o'r tîm
* Cydweithio i weithredu'r Cwricwlwm Newydd
* Sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd a gyflwynir i'r plant o fewn y feithrinfa a gweithredu'r Dull Trochi
* Disgwylir i bob aelod o staff gyfathrebu'n Gymraeg gyda'u cyd-weithwyr
* Cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch
* Dilyn a gweithredu holl weithdrefnau a pholisïau'r Feithrinfa
* Sicrhau bod yr ystafell a'r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar
* Parchu a gweithredu polisi Cyfrinachedd y Feithrinfa
* Ymddwyn yn broffesiynol ar bob adeg
* Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo angen.
* Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn ôl cyfarwyddyd Rheolwr y feithrinfa
Am fwy o wybodaeth dilynwch y ddolen yma
Job Type: Zero hours contract
Pay: £12.21 per hour
Benefits:
* Free parking
* On-site parking
* Sick pay
Ability to commute/relocate:
* Llangefni LL77 7LP: reliably commute or plan to relocate before starting work (required)
Language:
* Cymraeg / Welsh (required)
Work Location: In person