Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Technegydd: amaethyddiaeth

Newtown (Powys)
€24,425 - €24,824 a year
Posted: 3 September
Offer description

Mae cyfle cyffrous i ymuno â'n tîm Amaethyddiaeth wedi codi lle byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno addysg yng Ngholeg y Drenewydd a Fferm y Coleg. Graddfa 2, Pwyntiau 14-16, £24,425 - £24,824 y flwyddyn. Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol). Contract: Amser llawn, parhaol. Ynglyn â chi: Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster Lefel 2/3 mewn Amaethyddiaeth a bydd gennych brofiad a gwybodaeth berthnasol am dasgau ymarferol Amaethyddiaeth a gweithredu peiriannau a gofynion Iechyd a Diogelwch. Mae gwybodaeth am dasgau ymarferol Amaethyddiaeth a gweithredu peiriannau a gofynion Iechyd a Diogelwch yn hanfodol. Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru. Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig. Pam y dylech chi weithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £20 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill. Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim. Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd. Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd. Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu. Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Newtown (Powys)
jobs Powys
jobs Wales
Home > Jobs > Technegydd: Amaethyddiaeth

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save