Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Producer (welsh language programmes)

Cardiff
Screen Alliance Wales
Producer
Posted: 14 October
Offer description

Overview

Cynhyrchydd (Rhaglenni Cymraeg) – ITV Cymru Wales

9 mis (cyfnod mamolaeth)

Lleoliad: Caerdydd

Ystod llogi: 39697 – 45697


Y rôl

Rydym yn chwilio am gynhyrchydd uchelgeisiol i ymuno a’r tîm rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru Wales. Mae’r rôl yn berffaith ar gyfer newyddiadurwr creadigol sydd yn ysu am y cyfle i arddangos sgiliau cynhyrchu ar draws ein prif frandiau materion cyfoes (Y Byd ar Bedwar & Y Byd Yn Ei Le). O ddatblygu ymchwiliadau heriol i ymateb i rai o’r straeon mawr rhyngwladol, mae’r rôl yn berffaith i gynhyrchydd creadigol sydd eisiau torri straeon newydd sy’n gosod yr agenda newyddion.

Yn newyddiadurwr profiadol, gyda chysylltiadau eang bydd gennych ymwybyddiaeth wych o faterion cyfoes Cymru a thu hwnt a phrofiad o dorri straeon gwreiddiol. Bydd hefyd gennych ddealltwriaeth da o wleidyddiaeth a thirwedd gwleidyddol Cymru. Bydd gennych brofiad a dealltwriaeth o anghenion cydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu a’r gallu i weithio yn annibynnol dan amgylchiadau heriol.

Yn ddelfrydol bydd gennych sgiliau camera a golygu da a/neu brofiad o gyfarwyddo timau cynhyrchu. Yn ddibynol ar brofiad, mae’n bosib y bydd angen i chi gymryd rhai cyfrifoldebau rheoli llinell.


Sgiliau allweddol

* Rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig)
* Hanes profedig o gynhyrchu newyddiaduraeth wreiddiol a chreadigol
* Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o gydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu
* Dealltwriaeth dda o blatfformau digidol gyda syniadau am sut i ddenu cynulleidfaoedd newydd i ein cynnwys


Gofynion eraill y rôl

* Sgiliau hunan saethu cryf a golygu sylfaenol yn ddymunol ond ddim yn anghenrheidiol
* Y gallu i ddefnyddio cysylltiadau amrywiol i gynhyrchu syniadau gwreiddiol
* Sgiliau cyfathrebu da er mwyn arwain a chyd-weithio gyda thîm o newyddiadurwyr llai profiadol

Mae Amrywiaeth, Ecwiti a Chynhwysiant wrth wraidd unrhyw waith ITV Cymru Wales ac rydym am sicrhau ein bod yn adlewyrchu ein cynulleidfaoedd ar y sgrin ac yn ein gweithlu. Mae ITV i Bawb ac rydym yn annog ceisiadau gan bobl Fyddar, Anabl a Niwroamrywiol a Phobl o Liw i wneud cais am y rôl hon. Mae’n rhaid inni brofi’r sgiliau hyn yn ystod y cyfweliad er mwyn gweld sut fydd ymgeiswyr yn ymateb pan maen nhw’n gweithio mewn sefyllfa dan bwysau. Mae hyn yn rhan hanfodol o’r swydd. Byddwn ni bob amser yn ystyried unrhyw gais am addasiadau rhesymol fel rhan o’r broses gyfweld – er enghraifft, rhannu prif themâu pan fydd hynny’n cael ei ofyn mewn perthynas â chyflwr niwroamrywiol – ond eto gan sicrhau ein bod ni’n gallu profi gallu ymgeisydd i weithio’n effeithiol yn yr ystafell newyddion.

Yn ITV, rydyn ni’n gwerthfawrogi’r defnydd o dechnoleg ar gyfer ymchwil wrth wneud cais. Rydyn ni’n deall bod AI, gan gynnwys ChatGPT, yn gallu bod yn adnoddau defnyddiol. Ond, mae gwirionedd a chywirdeb yn bwysig i ni, ac rydyn ni’n disgwyl i ymgeiswyr ddangos eu syniadau a’u profiadau eu hunain. Gall ceisiadau sy’n ymddangos eu bod wedi’u copïo’n uniongyrchol o gynnwys a gynhyrchwyd gan AI gael eu gwrthod. Rydyn ni’n credu mewn proses asesu deg a gonest – ac mae eich unigoliaeth yn allweddol i sefyll allan yn ein dewis.


I wneud cais

Anfonwch eich CV, llythyr cais yn ogystal â chynnwys enghreifftiau o’ch gwaith yn eich cais. Gall hyn gynnwys showreel, dolenni i raglenni neu bortffolio sy’n dangos eich gwaith.

Dyddiad cau: 24/10/25

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Producer
Cardiff
ITV
Producer
Similar job
Freelance job opportunity - creative youth producer
Cardiff
Freelance
arts.wales
Producer
Similar job
Producer (welsh language programmes)
Cardiff
The Production Guild
Producer
See more jobs
Similar jobs
Media jobs in Cardiff
jobs Cardiff
jobs Cardiff
jobs Wales
Home > Jobs > Media jobs > Producer jobs > Producer jobs in Cardiff > Producer (Welsh Language Programmes)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save