Job Description
Goruwchwyliwr Dosbarth Cyfrwng Cymraeg – Ysgolion Uwchradd/ Welsh Speakin Cover Supervisor
Disgrifiad Swydd
Mae New Directions Addysg yn chwilio am Oruwchyliwr Dosbarth i weithio mewn ysgolion uwchradd yn ardal Caerdydd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Bydd elfen o reoli ymddygiad a disgyblu yn rhan o’r swydd felly byddai’r ymgeisydd delfrydol yn meddu ar sgiliau rhyngberthnasol gwych ac ar sgiliau rheoli hefyd. Gall New Directions gynnig hyfforddiant ar-lein ‘Goruchwylio Dosbarth’ a ‘Rheolaeth Dosbarth’ i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Byddwch yn gyfrifol am:
1. Ymgymryd â goruchwyliaeth dosbarth cyfan yn ystod absenoldeb athro dosbarth
2. Adrodd nôl am unrhyw anawsterau i’r athro dosbarth
3. Gosod gwaith cartref a osodwyd gan yr athro dosbarth
4. Cynorthwyo athrawon dosbarth â chynorthwyo gyda gwaith gweinyddol yn ôl y gofyn.
Mae’r rôl yma’n berffaith i rywun sydd yn chwilio i ddatblygu ei ph/brofiad ymhellach ym myd addysg h.y. cynorthwy-ydd dysgu neu ddarpar athro heb gymhwyster TAR. Byddwn hefyd yn ystyried ymgeisydd sydd â phrofiad o weithio â phobl ifanc neu hyfforddi chwaraeon ieuenctid.
Gwybodaeth Ychwanegol
5. Mae disgwyl i chi fod yn unigolyn cyfrifol iawn ond fe fydd athro gerllaw ar bob adeg.
6. Goruwchwilio a marcio profion dosbarth.
7. Arolygu gwaith cynorthwyydd dosbarth.
8. Arsylwi ar ddisgyblion a chyfrannu at gofnodion y disgyblion.
9. Marcio elfennau o waith dosbarth a gwaith cartref o dan oruchwyliaeth athro dosbarth.
Beth allwch ddisgwyl gan New Directions Addysg?
10. Rheolwr Cyfrif personol
11. Gwaith cyflenwi cyson ac amrywiol
12. Graddfa dal gystadleuol
13. Y posibilrwydd o waith hir-dymor
14. Swyddfeydd dros y DU
15. Enw da ym myd addysg a’r diwydiant recriwtio
Cysylltwch â New Directions Addysg am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r swydd hon ar 029 2039 0133 opsiwn 4
This role is for a Welsh speaking Cover Supervisor where the ability to speak Welsh is essential.
New Directions Education Ltd is acting as an Employment Business in relation to this vacancy.
New Directions Education Ltd is acting as an Employment Agency in relationto this vacancy.