Cwmni Da is advertising for a member of the social media team for which the ability to communicate through the medium of Welsh is essential.
Ydych chi’n berson creadigol sy’n awchu i ymuno gydag un o gynhyrchwyr cyfryngau mwyaf Cymru fel aelod o’n tîm digidol? Mae Cwmni Da yn chwilio am unigolyn i helpu ddatblygu strategaethau cyfryngau cymdeithasol, i weinyddu cyfrifon amrywiol ar draws bob platfform ac i gyfrannu syniadau fel rhan o’n timau creadigol.
Byddwch yn drefnus, yn angerddol am greu cynnwys, yn aml-fedrus yn y maes cyfryngau cymdeithasolac yn awyddus i weithio yn y diwydiant cyfryngau a theledu.
Beth bynnag eich cefndir, eich cymwysterauneueichprofiadynymaes–os ydych yn frwdfrydig am y diwydiant, cysylltwch â ni!
Os ydych yn ysu am rôl ym maes cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu cynnwys digidol, llenwch y ffurflen i gyflwyno’ch hun ar ein gwefan ac anfon CV cyn 07/11/2025.
https://cwmnida.cymru/jobs/aelod-o-dim-cyfryngau-cymdeithasol/
Edrych ymlaeniglywed gennych!
Cwmni Da
Mae Cwmni Da yn gwmni cynhyrchu annibynnol wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Mae’n cynhyrchu rhaglenni adloniant, adloniant ffeithiol, dogfen, plant, chwaraeon, comedi a drama. Mae cynhyrchiadau’r cwmni wedi ennill gwobrau yng Nhymru, y DU a thu hwnt ac wedi derbyn canmoliaeth am eu safonnau cynhyrchu uchel. Ymysg cynhyrchiadau diweddar Cwmni Da mae Deian a Loli, Bwyd Epic Chris, Chris Cooks Cymru, Garddio a Mwy, Gogglebocs Cymru a Noson Lawen.
Mae’r cwmni yn gwmni sydd ym mherchnogaeth y gweithlu a bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn dod yn rhan o’r strwythur perchnogaeth.
#J-18808-Ljbffr