Overview
Yn Freedom Leisure gallwn gynnig amgylchedd gwaith cyfeillgar a llawer o amrywiaeth bob dydd.
At Freedom Leisure we can offer a friendly working environment that brings lots of variety every day.
Os ydych chi’n hoffi siarad â phobl yna dyma’r rôl i chi yn bendant. Rydyn ni’n deall nad yw meithrin perthynas â chwsmeriaid a chydweithwyr mor hawdd ag y mae’n swnio a weithiau fe ddaw gyda phrofiad. Byddwn yn darparu’r holl hyfforddiant angenrheidiol i fod yn Achubwr Bywyd llwyddiannus ond rydyn ni hefyd yn credu fod cyflogi pobl o gymysgedd o gefndiroedd cyflogaeth yn gallu bod yn fwy buddiol i’n tîm, efallai bydd rhai yn eu swydd gyntaf erioed ag angen rhagor o gefnogaeth oddi wrth eu cydweithwyr.
Yn eich rôl fel Achubwr Bywyd, byddwch yn sicrhau bod y lefelau gorau o wasanaeth yn cael eu cyflawni i’n cwsmeriaid drwy gynnig cyfleusterau cyfeillgar, glân a diogel.
Role and Requirements
Dydyn ni ddim yn chwilio am y Duncan Goodhew nesaf ond bydd yn angenrheidiol eich bod chi’n gallu nofio’n bur dda. Os oes angen hyfforddiant ychwanegol arnoch chi i gyrraedd y lefel angenrheidiol i fod yn achubwr bywyd, peidiwch â phoeni, achos bydd un o’n hathrawon nofio ardderchog yn gallu’ch cefnogi chi i wella.
Os ydych am wneud cynnydd pellach, byddwn yn cefnogi hyn drwy hyfforddiant ychwanegol, yn ffurfiol ac fel rhan o’r swydd. Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi nad yw pawb am ‘ddringo’r ysgol’ ac mae hynny’n hollol iawn gyda ni. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw eich bod chi’n hapus yn eich gwaith.
Yn Freedom Leisure rydyn ni’n croesawu ein cymuned leol amrywiol i’n canolfannau bob dydd ac rydym am adlewyrchu’r un gymysgedd amlddiwylliannol y tu fewn i’n busnes hefyd. Ymdrechwn i greu gweithle cynhwysol ac amrywiol ble gall pobl fod yn nhw eu hunain, cael yr un cyfleoedd a ffynnu gyda’i gilydd. Achos yn Freedom Leisure, Rydych Chi’n Bwysig!
Gyda’n gilydd, rydym ni’n creu gweithle ble mae pawb yn teimlo wedi ei werthfawrogi, waeth beth yw ei oed, hil, rhywedd, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol. Ein nod yw bod y cyflogwr dewisol o fewn ein diwydiant ac ymdrechwn i gyrraedd y nod hwnnw bob dydd.
Os byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas, mae’n bosibl y bydd y swydd yn cau cyn y dyddiad cau penodol. Ymgeisiwch cyn gynted ag sy’n bosibl os oes diddordeb gennych.
Oriau: Oriau Achlysurol – fel a phryd sy’n ofynnol
Responsibilities
Os ydych am cynnydd pellach, rydym yn cynnwys hyfforddiant ar waith a chefnogaeth i ddatblygu eich gyrfa mewn canolfannau hamdden.
Gofynion / Qualifications
* Gallu a dealltwriaeth o sut i ymwneud â chwsmeriaid o bob oed a gallu, a hefyd pob lefel o staff
* Sgiliau rhyngbersonol datblygedig
* Agwedd o weithio fel tîm, yn gallu gweithio ar draws ffiniau’r sefydiad a dangos diddordeb a chefnogi gwaith staff a chydweithwyr
* Gallu gweithio’n hyblyg a deall cyfarwyddiadau gan reolwyr
* Dangos angerdd ac egni i'r diwydiant hamdden
* Yn hyblyg ac ystwyth
* Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
* Gwiriad DBS
Benefits
* Oriau gwaith hyblyg
* Darperir hyfforddiant a datblygiad
* Gwyliau blynyddiol gyda thâl
* Amgylchedd hwyliog a phrysur
* Aelodaeth gyda Gostyngiad i Staff
* Potensial am gyfleoedd gwaith parhaol
* Cyfleoedd i feithrin gyrfa gyffrous
* Rôl gwerth chweil sy’n cefnogi iechyd a ffitrwydd yn y gymuned
Dyddiad cau / Closing date: 7th October 2025
Cyflog: hyd at £12.21 yr awr / Salary: up to £12.21 per hour
#J-18808-Ljbffr