Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Cynorthwyydd digwyddiadau | events assistant

Cardiff
Events assistant
£23,414 - £26,338 a year
Posted: 7h ago
Offer description

*English below* Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Digwyddiadau brwdfrydig ac effeithlon i ymuno â'n sefydliad croesawgar sy'n parhau i dyfu. Dyma gyfle cyffrous i gefnogi gwaith i gynnal amrywiaeth eang o digwyddiadau (ar-lein ac yn y cnawd) i randdeiliaid ar draws bywyd gwleidyddol, cyhoeddus ac academaidd Cymru. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cefnogi cyfathrebu, cyfarfodydd a meysydd eraill oddi mewn i LSW wrth iddynt ddatblygu. Gan hynny, mae'n cynnig profiad cynhwysfawr gwych i rywun sydd eisiau datblygu eu gyrfa. Mae'r rôl hyblyg ac amser llawn hon yn cael ei chynnig am gyfnod penodol o flwyddyn, a bydd yn rhoi cymorth hanfodol i'n tîm bach a chyfeillgar - gan ein galluogi i gyflawni ein strategaeth pum mlynedd er budd Cymru. Rydym yn chwilio am rywun sy'n hyblyg, yn gefnogol ac yn drefnus. Ar gyfer rôl lefel Cynorthwyydd nid ydym yn disgwyl ichi fod wedi cael llawer o brofiad gwaith blaenorol. Er hynny, rydym yn chwilio am rywun hunanysgogol â pharodrwydd i ddysgu, ac mae agwedd ragweithiol at helpu eraill a chanfod atebion yn hanfodol. Sefydliad dwyieithog yw LSW sy'n cefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg gweithredol ar bob lefel. Nid yw'n ofynnol bod yn rhugl yn y Gymraeg ar gyfer y swydd hon, ond mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol, a pharodrwydd i ddysgu yn hanfodol. Ynglŷn â'r rôl Rheolir y rôl gan y Pennaeth Polisi Cyhoeddus, ac fe'i dyluniwyd i weithio ar draws ein tîm bach, gan gefnogi rheolaeth ar amrywiaeth eang o ddigwyddiadau (ar-lein ac yn y cnawd) yn ogystal â rhoi cymorth ar gyfer cyfathrebu, cyfarfodydd ac agweddau eraill wrth iddynt ddatblygu. Rydym yn trefnu ac yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, o ddarlithoedd cyhoeddus mawr i ddigwyddiadau rhwydweithio bach, ciniawau yn y cnawd i seminarau a chyfarfodydd ar-lein. Mae rhai o'r rhain yn ddigwyddiadau blynyddol sefydledig ac eraill yn digwyddiadau untro. Yn y digwyddiadau a'r cyfarfodydd hyn, byddwn yn croesawu rhanddeiliaid o bob rhan o'r byd gwleidyddol a chyhoeddus yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cynnwys ac yn ymgysylltu â'r 700 a mwy o Gymrodyr sydd gennym sy'n cynrychioli rhagoriaeth ar draws y byd academaidd a thu hwnt. Prif ffocws y rôl hon fydd digwyddiadau'n gysylltiedig â Blaenoriaeth Strategol 1 LSW: “Cyfrannu at ddatrysiadau polisi pwysig drwy roi cyngor annibynnol a hwyluso cyfnewid gwybodaeth”. Mae'r digwyddiadau hyn fel arfer yn ymwneud ag un o'r pum pwnc canlynol: 1. Hwyluso darparu tystiolaeth ac arbenigedd i lywio polisi cyhoeddus, gan gynnwys y canlynol fel rhanddeiliaid: Llywodraeth Cymru, Y Senedd, Swyddfa Gymreig Llywodraeth y DU, a Phwyllgor Materion Cymreig San Steffan. 2. Cynnal trafodaethau ar faterion polisi sy'n effeithio ar y sectorau ymchwil ac arloesi, fel Ecwiti, Amrywiaeth ac Arloesi, y diwylliant ymchwil, cyllid, ymchwil agored, ac ymgysylltu â dinasyddion. 3. Eiriol dros bwysigrwydd pob math o ymchwil, arloesi a gwybodaeth oddi mewn i Gymru ac er budd Cymru. 4. Cefnogi ac eiriol dros Astudiaethau Cymru, h.y. ymchwil ynglŷn â Chymru. 5. Ymgysylltu rhyngwladol i godi proffil Cymru ymhlith rhanddeiliaid gwyddoniaeth ac ymchwil yn rhyngwladol, a rhoi llais i Gymru mewn sgyrsiau allweddol mewn gwyddoniaeth ac ymchwil fyd-eang. (Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith cyfredol yn yr Alban ac Iwerddon, gydag ymgysylltiad cynyddol ag Ewrop) Byddwch hefyd yn rhoi cymorth ar draws y tîm - gan gynnwys i'r Prif Weithredwr, y Llywydd, y Pennaeth Ecwiti ac Ymgysylltu, y Swyddog Cyfathrebu, a'r Swyddog Digwyddiadau a Gwobrau os bydd angen cymorth arnynt ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau a chyfathrebu. Byddwch yn gweithio gyda gwahanol aelodau o'r tîm yn dibynnu ar y digwyddiad neu'r gweithgaredd neilltuol, felly byddwch yn rheoli eich amser eich hun - gyda chefnogaeth eich rheolwr llinell. We are seeking a motivated and efficient Events Assistant to join our growing and welcoming organisation. This is an exciting opportunity to support the delivery of a wide range of events (online and in person) for stakeholders across Wales’ political, public and academic life. The role also includes support for communications, meetings and other areas within LSW as they develop. As such, it offers a great all-round experience for someone looking to develop their career. This flexible, full-time role is fixed term for one year and will provide essential support to our small and friendly team – enabling us to deliver our ambitious five-year strategy to benefit Wales. We are looking for someone who is adaptable, supportive and organised. For an Assistant-level role we do not expect you to have substantial previous work experience, but we are looking for a self-starter with a keenness to learn, and a proactive attitude to assisting others and finding solutions is essential. LSW is a bilingual organisation that supports active Welsh speakers and learners at all levels. Fluency in Welsh is not a requirement of this post, but the ability to communicate in Welsh is desirable, and a willingness to learn is essential. About the role Managed by the Head of Public Policy, this is a role which is designed to work across our small team, supporting the management of a wide range of events (online and in person) as well as providing some support for communications, meetings and other areas as they develop. We organise and host a wide variety of events from large public lectures to small networking events, in-person dinners to online seminars and meetings. Some of these are established annual events and some are one-off. At these events and meetings, we host stakeholders from across Welsh political and public spheres as well as engaging and involving our 700 Fellows who represent excellence across academia and beyond. This role will focus primarily on events relating to LSW’s Strategic Priority 1: “Contribute to major policy solutions by providing independent advice and facilitating knowledge exchange”. These events typically relate to one of the following five topics: 1. Facilitating the provision of evidence and expertise to inform public policy, with stakeholders including Welsh Government, the Senedd, the UK Government Wales Office, and the Westminster Welsh Affairs Committee. 2. Convening discussions on policy matters impacting research and innovation sectors, such as EDI, research culture, funding, open research, and civic engagement. 3. Advocating for the importance of all research, innovation, and knowledge in and for Wales. 4. Supporting and advocating for Wales Studies, i.e. research about Wales. 5. International engagement to raise Wales’s profile among science and research stakeholders internationally, and give Wales a voice in key conversations in the global science and research world. (Most current work is in Scotland and Ireland, with increasing European engagement) You will also provide support across the team – including for the CEO, President, Head of Equity and Engagement, Communications Officer, and Events and Awards Officer where they require assistance with meetings, events and communications. You will be working with different members of the team depending on the particular event or activity so you will manage your own time – with support from your line manager.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Events assistant - cardiff
Cardiff
Tiger Recruitment
Events assistant
Similar job
Meeting & events assistant
Cardiff
Village Hotels
Events assistant
Similar job
Events assistant
Pontyclun
The Vale Resort
Events assistant
See more jobs
Similar jobs
Marketing jobs in Cardiff
jobs Cardiff
jobs Cardiff
jobs Wales
Home > Jobs > Marketing jobs > Events assistant jobs > Events assistant jobs in Cardiff > Cynorthwyydd Digwyddiadau | Events Assistant

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save