Welsh version (please scroll for English version)
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn chwilio am Arddwriaethwr
Ystâd ymarferol i helpu gofalu am ein paradwys o 568 erw o
goedlannau, dolydd a thirweddau hanesyddol. Os oes gennych chi
sgiliau cwympo coed, gofalu am y pridd, a brwdfrydedd dros
fioamrywiaeth (heb ofni bod yn y mwd a’r baw), gall hon fod yn swydd
ddelfrydol i chi. Byddwch yn gweithio gyda thîm brwdfrydig i warchod
a gwella ein hystâd, cefnogi gwirfoddolwyr ac weithiau’n rhyfeddu’r
cyhoedd â’ch gwybodaeth am ein planhigion. Mae cymhwyster
garddwriaeth Lefel 2, profiad o weithio gyda choed a thir yn hanfodol.
Dewch aton ni, mae’r coed yn disgwyl amdanoch.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Disgrifiad Swydd
Adran: Garddwriaeth, Dysgu a Natur
Cyfrifol am: Coedlannau, Coed a’r Tiroedd
Lefel (os yw’n gymwys): Garddwriaethwr
Oriau yr wythnos: 37.5
Cyflog: £24,715 ynghyd â budd-daliadau
Disgrifiad o’r Swydd
Rydym yn chwilio am Arddwriaethwr Ystâd profiadol, rhagweithiol i
ymuno â’n Tîm Ystâd a Choedlannau ymroddedig. Byddwch yn helpu
darparu ein strategaethau gofal tymor hir ar gyfer coedlannau, dolydd
a thiroedd, gan gyfuno technegau traddodiadol ac egwyddorion
cadwraeth modern. Bydd eich gwaith yn cwmpasu popeth o reoli coed
ac adfer glaswelltir i greu cynefinoedd ac ymgysylltu ag ymwelwyr.
Mae hon yn swydd ymarferol yn yr awyr agored ac yn amrywio yn ôl y
tymhorau — un wythnos gallech fod yn tocio coed cyll, wedyn yn
plannu dolydd blodau gwylltion neu'n helpu rhedeg diwrnod
gwirfoddol i blannu coed. Byddwch yn rhan o dîm cydweithredol sy’n
cynnwys staff, prentisiaid, gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr sy’n ymweld.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Helpu gyda thrin, cynnal a chadw a gwarchod mannau penodedig,
prosiectau a digwyddiadau yn ôl y cyfarwyddyd, sicrhau bod
planhigion, tirweddau a chynefinoedd yn cael eu cynnal a’u datblygu
yn unol â gwerthoedd, polisïau a gweithdrefnau GFGC.
Ymgymryd â thasgau coedyddiaeth gan gynnwys plannu coed, eu
cwympo, tocio ffurf a rheoli plâu/afiechydon.
Cynnal a chadw’r tiroedd a thorri’r borfa mewn cynefinoedd glaswelltir
ffurfiol, naturiol a lled naturiol.
Helpu gyda gweithredu rhaglenni plannu newydd, cynlluniau tirweddu,
cynlluniau cynnal a chadw a chamau i reoli plâu/afiechydon sy’n
cyfoethogi, yn cynnal ac yn gwarchod casgliadau byw a choedlannau
GFGC.
Helpu cydweithwyr mewn rhannau eraill o GFGC, lle bydd angen sgiliau
garddwriaeth i gefnogi rhaglenni addysgol, digwyddiadau, prosiectau
ymchwil, arddangosiadau a arddangosfeydd sy’n gwella mwynhad
ymwelwyr.
Helpu gyda chyflwyno prentisiaid newydd, pobl dan hyfforddiant a
gwirfoddolwyr i sicrhau bod tasgau a gweithgareddau garddwriaeth
sylfaenol yn cael eu cyflawni gyda digon o hyfforddiant gan fodloni’r
rheoliadau Iechyd Diogelwch perthnasol.
Helpu gyda pharatoi a darparu sgyrsiau ac arddangosiadau
garddwriaeth i ymwelwyr, cydweithwyr, swyddogion lleol a chyrff
allanol yn ôl y cyfarwyddyd.
Ymgysylltu ag ymwelwyr a chydweithwyr a rhyngweithio â nhw gan
ateb cwestiynau, darparu arweiniad a chyflwyno gwybodaeth i
hyrwyddo a gwella enw da GFGC fel atyniad botanegol o fri.
Hyrwyddo’n rhagweithiol y gwaith garddwriaeth o fewn rhannau eraill
o’r sefydliad, gan ddatblygu a chynnal y diwylliant o gydweithredu a
chydweithio ar draws pob adran a swyddogaeth.
Mae disgrifiad llawn o'r swyddi ar gael ar ein gwefan
Sylwch os yw diddordeb yn sylweddol, rydym yn cadw’r opsiwn i gau’r
swydd wag yn gynnar a chynnal cyfweliadau ar sail ôl yr angen.
E-bostiwch eich CV a llythyr eglurhaol at:
Donald.Murray@gardenofwales.org.uk
The National Botanic Garden of Wales is on the hunt for a hands-on
Estate Horticulturist to help care for our 568-acre paradise of
woodlands, meadows, and historic landscapes. If you’ve got tree-
felling skills, a knack for ground care, and a passion for biodiversity
(and don’t mind getting muddy), this could be your dream job. You’ll
work with an enthusiastic team to conserve and enhance our estate,
support volunteers, and occasionally wow the public with your plant
knowledge. A Level 2 horticultural qualification, experience in tree and
ground work are essential. Come join us, the trees are waiting.
National Botanic Garden of Wales
Job Description
Department: Horticulture, Learning and Nature
Responsible for: Woodlands, Trees and Grounds
Level (if applicable): Horticulturist
Hours per week: 37.5
Salary: £24,715 plus benefits
Description of Role
We are looking for an experienced, proactive Estate Horticulturist to
join our dedicated Estate and Woodlands Team. You will help deliver
our long-term woodland, meadow, and grounds care strategies,
blending traditional techniques with modern conservation principles.
Your work will span everything from tree management and grassland
restoration to habitat creation and visitor engagement.
This role is hands-on, outdoors, and varies with the seasons — one
week you might be coppicing hazel, the next planting wildflower
meadows or helping to run a volunteer tree-planting day. You'll be part
of a collaborative team that includes staff, apprentices, volunteers,
and visiting researchers.
Main Duties and Responsibilities
Assists with the cultivation, maintenance and conservation of allocated
areas, projects and events as instructed, ensuring plants, landscapes
and habitats are maintained and developed in accordance with
NBGW's values, policies and procedures.
Undertake arboricultural tasks including tree planting, felling,
formative pruning, and pest/disease control.
Undertake grounds maintenance and mowing formal, natural and
semi-natural grassland habitats.
Assists with the implementation of new planting programs,
landscaping schemes, maintenance plans and pest/disease control
measures which enrich, maintain and preserve NBGW's living
collections and woodlands.
Assists colleagues in other areas of NBGW, where horticultural skills
are required, to support educational programs, events, research
projects, displays and exhibitions which enhance visitor enjoyment.
Assists with the preparation and delivery of horticultural talks and
demonstrations to visitors, colleagues, local officials and external
bodies as directed.
Engages and interacts with visitors and colleagues answering
questions, providing guidance and imparting knowledge to promote
and enhance NBGW’s reputation as a leading botanical attraction.
Actively promotes the work of horticulture within other areas of the
organisation, thereby developing and maintaining the culture of
collaboration and co-operation across all departments and functions.
A full job description is available on our website.
Please note: If interest is significant, we reserve the option to close the
vacancy early and conduct interviews on an as required basis.
Please email your CV and a covering letter to:
Donald.Murray@gardenofwales.org.uk