Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Swyddog casglu incwm

Denbigh
Grwp Cynefin
Posted: 26 December
Offer description

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.


Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy'n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu'r iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i'r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy'n sicrhau dyfodol cynaliadwy.


Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â'n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r person cywir a rhywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Bydd deilydd y swydd yn uchafu incwm rhent a thâl gwasanaeth Grŵp Cynefin gan weithredu fel y prif gyswllt i'r Gymdeithas ar gyfer tenantiaid (darpar, cyfredol a chyn) ar gyfer materion rhent a thâl gwasanaeth. Disgwylir i chi weithio'n effeithiol fel rhan o'r tîm tai er mwyn darparu gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol ac effeithlon i denantiaid a chleientiaid eraill, yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a safonau Gofal Cwsmer y Gymdeithas a datblygu cyfleoedd cyfranogiad effeithiol i denantiaid.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Mererid Ellis-Williams, Arweinydd Tîm Casgu Incwm ar

Y Pecyn

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £28,911 - £32,539

Lleoliad: Dinbych / Gweithio o gartref

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Disgrifiad Swydd

DS Swyddog Casglu Incwm 35ayw

JD Income Collection Officer 35hpw

Buddiannau

Pecyn

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd


Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Canllawiau cwblhau

Cyfweliadau:

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Denbigh
jobs Denbighshire
jobs Wales
Home > Jobs > Swyddog Casglu Incwm

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2026 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save