About the role
The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Yn eisiau erbyn 13eg o Ebrill neu cyn gynted â phosib
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Talgarreg yn dymuno penodi Pennaeth Cynorthwyol brwdfrydig, angerddol a blaengar sydd yn barod i gefnogi a hyrwyddo gweledigaeth a Chymreictod yr ysgol a’r gymuned ehangach er mwyn Llywio’r Ffordd at Ddyfodol Disglair i bob dysgwr.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â rôl y Pennaeth Cynorthwyol yn ogystal â dyletswyddau addysgu llawn. Bydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn yr iaith Gymraeg ynghyd â sgiliau rheolaethol effeithiol a phersonoliaeth gynnes a hawddgar.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o dîm brwdfrydig a gweithgar sy’n cydweithio’n ddiwyd er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus ein hysgol fach ni. Nodwyd gan Estyn ym mis Mawrth bod Ysgol Talgarreg yn “gymuned weithgar, hapus a chynhwysol ble mae ymdeimlad cryf bod pob disgybl yn aelod o deulu mawr clòs”. Rydym yn chwilio am unigolyn ac arweinydd creadigol ac ysgogol sy’n hyrwyddo addysgeg o’r radd flaenaf, ac yn cydweithio gyda’r holl rhanddeiliaid er mwyn dathlu ac ymfalchïo yn etifeddiaeth a threftadaeth Gymreig yr ysgol unigryw hon o fewn cyfoeth nodedig ei milltir sgwâr. Mae Ysgol Talgarreg yn ysgol gymunedol yng ngwir ystyr y gair.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n ceisio secondiad. Argymhellir gofyn am ganiatâd rheolwr llinell/cyflogwr cyn gwneud cais i sicrhau y gallwch ddychwelyd i’ch swydd barhaol unwaith y bydd y secondiad wedi dod i ben.
Disgrifiad Swydd
Manyleb Person
Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth, Bethan Morgan-Jenkins ar / neu Gadeirydd y Llywodraethwyr, Mr Gareth Lloyd ar
Dyddiad cau: Canol nos Iau, 5 Chwefror am 11.59yh
Dyddiad cyfweld: Dydd Gwener, 13 Chwefror
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
What we offer
Work-life balance
Lifestyle savings scheme
Generous employer pension scheme
Cycle to work scheme
Learning and development
Where you'll work
Schools and Culture
We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows:
1. School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
2. Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
3. Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
4. Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
5. School Admissions
6. Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
7. Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
8. Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
9. Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Llandysul Historically, Llandysul was the hub of the Welsh woollen industry where thousands of people were employed in the water driven mills during the industrial revolution.