Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Rydyn ni Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo.
Cyfrifoldeba’r swydd: Bydd yr Uwch Reolwr Caffael yn gyfrifol am gyflawni gofynion caffael cymhleth a gwella polisïau a phrosesau caffael yn barhaus, gan weithio ar draws Trafnidiaeth Cymru (TrC) i sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth berthnasol a datblygu’r tîm fel y bo’n briodol.
* Ysgwyddo perchnogaeth dros biblinellau caffael ar draws TrC a’u cynnal a’u cadw drwy weithio mewn partneriaeth â phob Cyfarwyddiaeth wrth ddatblygu, rhaglennu a goruchwylio gweithgareddau er mwyn llywio a datblygu gweithgarwch caffael y sefydliad.
* Rheoli, hyfforddi a mentora tîm o staff caffael sy’n ymgymryd ag ystod eang o brosiectau a thasgau wrth ddarparu gwasanaeth caffael mewn ffordd gyfrifol a chost-effeithiol, gan gyfrannu at feithrin y tîm a chynghori ar yr arferion gorau er mwyn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir ar gyfer y prosiect.
Am bwy rydym ni’n chwilio: Cymhwyster proffesiynol perthnasol fel gradd berthnasol, MCIPS neu MRICS neu brofiad perthnasol amlwg. Gwybodaeth arbenigol a phrofiad o weithio yn y Sector Cyhoeddus a/neu amgylchedd caffael rheoledig, gan gynnwys gwybodaeth am gaffael a chyfraith contractau mewn perthynas â PCR2015.
* Gwybodaeth am reoliadau, gweithdrefnau a fframweithiau ariannol y sector cyhoeddus.
* Profiad o ddarparu digwyddiadau caffael cymhleth ar gyfer ystod eang o ofynion a bod yn gyfrifol am brosesau caffael gyda blaenoriaethau a disgwyliadau heriol gan randdeiliaid.
Sgil_resolver Iaith Gymraeg: Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Y camau nesaf: A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
#J-18808-Ljbffr