Cyflog: £40,000 y flwyddyn
Dyddiad Cychwyn: Medi 2025
Llawn Amser: 37 awr yr wythnos
Cytundeb: 1 flwyddyn gyda phosibiliad o ymestyn am 4 mlynedd pellach
️ Dyddiad cau: 23 Gorffennaf 2025
Trosolwg
Ydych chi'n angerddol dros addysg a grymuso dysgwyr? Mae Academi Seren Llywodraeth Cymru yn sefydlu Tîm Cyflawni newydd i Gymru. Bydd y tîm cyflawni yn cynnwys chwech rheolwr cyflawni a fydd yn cydweithio i ddarparu cynnig Seren Cymru gyfan i'n dysgwyr disgleiriaf yng Nghymru.
Mwy am Academi Seren
Gweledigaeth Academi Seren yw i ddysgwyr, waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol, gael yr uchelgais, y gallu a'r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial a rhagori yn nodau addysgol y dyfodol ar y lefel uchaf.
Y genhadaeth yw i gefnogi dysgwyr Seren wrth iddynt geisio rhagori drwy dri amcan strategol:
* Tanio chwilfrydedd a chymhelliant dysgwyr ar gyfer eu dysgu
* Grymuso dysgwyr i wneud dewisiadau uchelgeisiol, gwybodus am eu llwybr addysgol yn y dyfodol.
* Datblygu gallu dysgwyr i gyrraedd eu potensial a llwyddo mewn prifysgolion blaenllaw iawn
Mae Academi Seren yn darparu rhaglen o gefnogaeth arbenigol a anelir at anghenion ein dysgwyr disgleiriaf ac yn darparu rhaglen hybrid o weithgareddau gorgyrsiol i ymestyn a herio dysgwyr, sy'n datblygu o Flwyddyn 8 i Flwyddyn 13.
Swyddogaeth a Chyfrifoldebau
Pwrpas y swydd hon yw i:
* Ymgysylltu gyda a magu perthnasau gyda'ch ysgolion a cholegau AB dynodedig a'u cefnogi i ddethol y dysgwyr priodol ar gyfer Academi Seren
* Fod yn wyneb i Seren ar gyfer eich canolfannau dynodedig, gan ateb cwestiynau, darparu cyfleoedd yn yr ardal leol i ddysgwyr gael ymgysylltu gyda'i gilydd, codi uchelgeisiau a hunaneffeithiolrwydd dysgwyr i anelu'n uchel
* Sicrhau bod y dysgwyr a'r canolfannau yn ymwybodol o'r holl gyfleoedd, gweithgareddau a'r profiadau sydd ar gael iddynt fel rhan o'r academi.
* Fanteisio ar yr adnoddau sydd ar gael i ysbrydoli dysgwyr a'u dyheadau am eu dyfodol
* Ddathlu llwyddiannau dysgwyr a'u canolfannau.
Y cyfrifoldebau yw i:
* Sicrhau bod yr holl ddysgwyr Seren a nodir wedi cofrestru gyda'r academi
* Gadw at reoliadau diogelu ar gyfer y grwpiau oedran gwahanol
* Weithio ar draws y tîm cyflawni i ddarparu cynnig Cymru gyfan gydgysylltiedig i ddysgwyr
* Ymgysylltu gyda dysgwyr i'w hysbysu o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, sut a phryd i wneud y penderfyniadau cywir ac agor drysau iddynt ymgysylltu gyda'r bobl, sefydliadau ac adnoddau cywir i gefnogi eu llwybrau o ddewis
* Annog dysgwyr i ymgysylltu gydag adeiladu'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y cyrchfan o'u dewis.
* Adnabod anghenion y dysgwyr o fewn eich canolfannau dynodedig a gweithio gyda'r tîm i gydweithio ar gyfleoedd
* Ddod ag athrawon eich canolfannau dynodedig at ei gilydd i gydweithio ar gyfleoedd
* Ymgysylltu gyda a hysbysu rhieni/gofalwyr Seren am sut allant gefnogi eu plentyn y ffordd orau.
* Bod yn rhagweithiol o fewn y tîm i gefnogi eraill a rhannu gwybodaeth arbenigol ac arferion da.
* Nodi enghreifftiau o ddarpariaeth dda ac astudiaethau achos i ddathlu llwyddiannau
* Casglu ac adrodd ar ddata a gwariant i gefnogi gwerthuso a gwelliant parhaus y rhaglen
Requirements
Am Beth Rydym yn Chwilio:
Rydym yn chwilio am unigolion sydd gan:
* Brofiad mewn addysg, gwaith ieuenctid neu allgymorth (mae profiad o weithio gydag ysgolion/colegau yn hanfodol).
* Sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i ymgysylltu gyda ac ysbrydoli pobl ifanc, athrawon a rhanddeiliaid ehangach
* Llwyddiant blaenorol yn trefnu a darparu gweithgareddau cyfoethogi, gweithdai neu ddigwyddiadau
* Sgiliau cynllunio, trefnu a rheoli amser cryf - gyda'r gallu i weithio'n annibynnol ar draws nifer o leoliadau
* Angerdd gwirioneddol dros gydraddoldeb mewn addysg, symudedd cymdeithasol a chefnogaeth i ddysgwyr.
* Dealltwriaeth o'r tirwedd addysg yng Nghymru ac ymrwymiad i gefnogi dysgwyr yng Nghymru.
* Trwydded yrru lawn a'r parodrwydd i deithio yn eang ar draws y rhanbarth a ddynodir.
* Parodrwydd i weithio'n hyblyg, gan y bydd y swydd yn golygu peth gwaith yn ystod y penwythnos a gyda'r nos, yn ogystal ag amser yn gweithio i ffwrdd i gefnogi cyflawniad cyrsiau preswyl mewn prifysgolion yn y DU
Dymunol (ond nid yn angenrheidiol)
* Statws Athro Cymwysiedig (SAC)
* Profiad o weithio ar raglenni mynediad i AU neu ehangu cyfranogiad.
* Siaradwr Cymraeg (ceir cefnogaeth gydag ysgrifennu a chyfieithu ar y pryd)
Benefits
* Cyflog blynyddol o £40,000
* 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc
* Gweithio hybrid
* TOIL am waith gyda'r nos a'r penwythnos
To view this advert in English, please click HERE #J-18808-Ljbffr