Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Darlithydd mewn rheoli strategaeth a marchnata (2526174)

Cardiff
Permanent
Cardiff Metropolitan University
€48,856 a year
Posted: 19 December
Offer description

Darlithydd mewn Rheoli Strategaeth a Marchnata (2526174)

6 days ago Be among the first 25 applicants


Y Cyfle

Mae Ysgol Reoli Caerdydd (YRC) yn ddarparwr uchelgeisiol, achrededig ym myd addysg Busnes a Rheoli. Mae cyfleusterau o'r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheoli a'r Gyfraith; Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Mae staff yn falch o'u cyfraniad sylweddol at adfywio rhanbarthol a thwf economaidd drwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.

Mae'r Adran Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Reoli Caerdydd yn ceisio penodi academydd llawn cymhelliant a brwdfrydig ar lefel y Darlithydd. Elfen allweddol o rôl yr ymgeisydd llwyddiannus fydd gweithio gyda'r Coleg Rhyngwladol Technoleg Busnes (ICBT) yn Sri Lanka ar ei raglen Diploma Uwch. Bydd hyn yn gofyn am adolygu ceisiadau, darparu sicrwydd ansawdd a gwella, gan gynnwys hyfforddiant. Mae parodrwydd i ymgysylltu â lles myfyrwyr a rheoli rhaglenni yn hanfodol.

Wrth ddatblygu'r Diploma Uwch gydag ICBT byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn YRC sy'n ymwneud ag Addysg Drawswladol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda'r Tiwtoriaid Cyswllt ac yn benodol y Tiwtor Cyswllt ar gyfer ICBT, Cadeiryddion Grwpiau Maes, Cyfarwyddwyr Rhaglenni ac academyddion eraill ar draws gwahanol ddisgyblaethau pwnc. Mae gan y Diploma Uwch garfannau lluosog o fyfyrwyr a fydd yn astudio yn un o gampysau niferus ICBT yn Sri Lanka.


Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

* Monitro ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio Diploma Uwch gydag ICBT.
* Goruchwylio cymeradwyo modiwlau newydd cyn eu cyflwyno i'r pwyllgor priodol.
* Cydlynu marcio a chymedroli asesiadau mewn cydweithrediad ag Arweinwyr Modiwlau a Chyfarwyddwyr Rhaglenni
* Sicrhau bod yr holl asesiadau wedi bod yn destun craffu mewnol a bod y ffurflenni priodol yn cael eu llenwi i safon foddhaol o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.
* Sicrhau bod adborth i fyfyrwyr o safon uchel a chyson ac yn cael ei roi mewn modd amserol a phriodol.
* Sicrhau bod papurau arholiad a briffiau aseiniadau o safonau priodol i'w cyflwyno i'r arholwr allanol perthnasol.
* Cynnal cymedroli asesiadau wedi'u marcio yn fewnol i sicrhau bod safonau priodol yn cael eu cynhal yn cyn cyflwyno sampl i arholwyr allanol.


Yr hyn rydym yn chwilio amdano

* Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
* Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
* Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgarwch ysgolheigaidd.
* Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
* Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
* Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
* Y gallu i nodi meysydd i'w gwella ac i defnyddio sgiliau menter a datrys problemau i wella perfformiad.
* Y gallu i gyfathrebu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amrywiaeth o ffyrdd — cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
* Profiad o addysgu Addysg Uwch neu gyfwerth.
* Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chymorth/mentora llinell gyntaf i gydweithwyr eraill.
* Gradd anrhydedd dda.
* Cymhwyster doethurol.
* Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl ac yn bendant o fewn tair blynedd i ddechrau cyflogaeth).


Cysylltwch â ni

Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn cysylltwch â'r Athro Niki Bolton, Pennaeth Marchnata a Strategaeth yr Adran drwy e-bostio njbolton@cardiffmet.ac.uk neu am ragor o wybodaeth am weithio gyda ni yn ein Prifysgol ewch i'n gwefan recriwtio.


Dyddiad Cau

14 Jan 2026


Ysgol/Uned

Academaidd


Cyflog

£46,049 to £51,753 y flwyddyn


Parhaol

Parhaol


Seniority level

Entry level


Employment type

Full-time


Job function

Other


Industries

Higher Education

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Cardiff
jobs Cardiff
jobs Wales
Home > Jobs > Darlithydd mewn Rheoli Strategaeth a Marchnata (2526174)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save