We are looking for a Service Support Officer to join our EFM team at the Senedd.
You will play an integral part of the Service Team providing general support to your colleagues, and assisting with the large number of meetings and events held on the estate.
Through a wide range of duties this role provides an exciting opportunity to work alongside colleagues as part of the Senedd Commission, the Porters and the Sustainability & Governance officer, whilst also working closely with the wider EFM team.
The Estates and Facilities Management (EFM) Team is responsible for ensuring that the functions of the Senedd, Tŷ Hywel and the Pierhead Buildings are operated as smoothly as possible and that the estate and buildings always look their best.
Additionally, you will provide first-class customer service to Senedd Members, and their support staff, as well as Commission staff and visitors to the estate.
Job Specific criteria:
1. Flexible and efficient with a positive approach to meet the varying demands of this multi-skilled role.
2. Ability to communicate effectively and tactfully with all customers.
3. Ability to apply attention to detail to daily working practice, and work to tight deadlines.
The below job specific criteria will be assessed at pre-employment stage with a medical undertaken by our Occupational Health Nurse.
* Fulfil the physical requirements of the role, which includes being able to lift, carry, push, pull and bend to set up meeting rooms and events, delivering goods and collection of recycling and other materials throughout the estate and other facilities services tasks.
Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Gwasanaeth i ymuno â'n tîm Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau yn y Senedd.
Byddwch yn chwarae rhan annatod o'r Tîm Gwasanaeth gan ddarparu cefnogaeth gyffredinol i'ch cydweithwyr, a chynorthwyo gyda'r nifer fawr o gyfarfodydd a digwyddiadau a gynhelir ar yr ystad.
Trwy ystod eang o ddyletswyddau, mae'r rôl hon yn gyfle cyffrous i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr fel rhan o Gomisiwn y Senedd, y Porthorion a'r swyddog Cynaliadwyedd a Llywodraethiant, tra hefyd yn gweithio'n agos gyda'r tîm Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau yn fwy eang.
Mae'r tîm Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau'n gyfrifol am sicrhau bod swyddogaethau adeiladau'r Senedd, Tŷ Hywel a'r Pierhead yn gweithredu mor ddidrafferth â phosibl, a bod yr ystad a'r adeiladau'n edrych ar eu gorau bob amser.
At hynny, byddwch yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf i Aelodau'r Senedd, a'u staff cymorth, yn ogystal â staff y Comisiwn ac ymwelwyr â'r ystad.
Penodol i'r swydd:
1. Bod yn hyblyg ac effeithlon gydag agwedd gadarnhaol at fodloni gofynion amrywiol y rôl aml-sgil hon.
2. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn ystyriol gyda'r holl gwsmeriaid.
3. Y gallu i roi sylw i fanylion mewn arferion gwaith dyddiol, a gweithio i derfynau amser tynn.
Bydd y meini prawf isod sy'n benodol i'r swydd yn cael eu hasesu ar y cam cyn-cyflogaeth a bydd ein Nyrs Iechyd Galwedigaethol yn cynnal archwiliad meddygol.
* Bodloni gofynion corfforol y rôl, sy'n cynnwys gallu codi, cario, gwthio, tynnu a phlygu i baratoi ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau, danfon nwyddau, casglu deunydd ailgylchu ac eitemau eraill ar draws yr ystad, a chyflawni tasgau eraill y gwasanaeth cyfleusterau.