Diolch am eich diddordeb yn y swydd yma gyda Canllaw. Mae’r swydd yma gyda’r tîm Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn. Mae Canllaw yn is-gwmni i Grŵp Cynefin. Nod ' Canllaw ' yw “galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau”. Rydym yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys: Canllaw Addasu - Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth. Canllaw Technegol - Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid sy’n bobl hŷn neu bobl fregus. 'Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn ' – Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd i’w cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru. Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Fel aelod o’r Tîm cewch gyfle i gyfrannu at rediad a llwyddiant Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn i gyrraedd ei Amcanion Perfformiad trwy ddarparu cefnogaeth gweinyddol i'r Tîm. Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Wynn Roberts, Rheolwr ar 01286 889360. Y Pecyn Math o gytundeb: Parhaol Cyflog: £24,939 - £28,069 (pro rata) Lleoliad: Penygroes / Gweithio o Gartref Oriau Gweithio: 21 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd (pro rata) Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon Disgrifiad Swydd DS Swyddog Gweinyddol 0126.pdf JD Administrative Officer 0126.pdf Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf Datblygiad Personol: Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf Dyddiad y cyfweliadau: 24.02.26 Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno. Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.