Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Rheolwr llywodraethu / governance manager

Penygroes
Governance manager
£45,041 - £50,695 a year
Posted: 29 June
Offer description

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. ​ Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. ​ Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. ​ Byddwch yn arwain systemau llywodraethu strategol a chorfforaethol a chynorthwyo’r Pennaeth Llywodraethu i weithredu yn unol â’r Rheoliadau Cofrestredig, â’r Cod Lywodraethu. Byddwch yn Cynorthwyo’r Pennaeth Llywodraethu ac arwain ar weithredu’r Fframwaith Sicrwydd Bwrdd, sydd yn cynnwys bod systemau rheoli risg, a rheolaethau mewnol effeithiol ar draws y grŵp. ​Byddwch yn r heoli’r T îm Llywodraethu a gweithredu fel rheolydd llinell i’r Uwch Swyddog Llywodraeth, yr Uwch Swyddog Perfformiad a Risg, a’r Swyddog Iaith ​. Byddwch yn m onitro gwariant y g yllideb r efeniw ​ ​ a gweithredu fel Dirprwy-Ysgrifennydd ar gyfer y grŵp. ​ Rydym yn chwilio am rhywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw. ​ Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni ac rydyn ni’n chwilio am reolwr fydd yn buddsoddi yn eu tîm hefyd. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Helen Jones, Pennaeth Llwyodraethu, ar 0300 111 2122. ​ Y Pecyn Math o gytundeb: Parhaol Cyflog: £45,041 - £50,695 y flwyddyn Lleoliad: Dinbych/Penygroes/Gweithio o gartref Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau ​ banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) ​ Disgrifiad Swydd DS Rheolwr Llywodraethu 0625.pdf ​ JD Governance Manager 0625.pdf ​ ​ Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Datblygiad Personol: ​ Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! ​ ​ Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais.pdf Cyfweliadau: 25.07.25 ​ ​ Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
Management jobs in Pembrokeshire
jobs Pembrokeshire
jobs Penygroes
jobs Wales
Home > Jobs > Management jobs > Governance manager jobs > Governance manager jobs in Pembrokeshire > Rheolwr Llywodraethu / Governance Manager

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save