Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Cynorthwyydd dysgu

Rhymney
Ysgol Y Lawnt
Posted: 1 July
Offer description

DescriptionEmployerLocation

Yn eisiau erbyn 1af o Fedi 2025

2 x Cynnorthwyydd Dysgu Llawn Amser

Nifer disgyblion ar y gofrestr: 190

Prif Raddfa Cyflog

Hyd y Cytundeb: 2 swydd llawn amser – cytundeb blwyddyn.

Sefydlwyd Ysgol y Lawnt yn 1955 ac fe’i lleolir ym mhentref Rhymni yn sir Caerffili. Mae’n ysgol hapus, gynhwysol a chymunedol ac ymfalchïwn yn y berthynas agos sydd gennym gyda’n rhieni a’r gymuned leol.

Mae Ysgol y Lawnt yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egnïol, sy’n cydweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o ffyrdd.

Gwahoddir ceisiadau gan cynorthwywyr dysgu brwdfrydig ac ymroddgar i gefnogi dysgwyr yn yr ysgol lewyrchus hon. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus:

•Yn hollol gymwys yn y Gymraeg

•yn cynorthwyydd dysgu llawn cymhelliant sy’n gosod disgwyliadau uchel a heriol o ran cyflawniad, ymddygiad a datblygiad sgiliau

•yn gallu defnyddio strategaethau asesu effeithiol er mwyn gwella’r dysgu

•yn cynorthwyydd dysgu sydd yn gynnes, yn ofalgar ac sy'n gwneud dysgu ein plant yn bleserus ac hwylus

•yn defnyddio TGCh yn effeithiol i wella’r dysgu ac addysgu

•yn gallu gweithio'n effeithiol fel aelod o dîm Ysgol cydwybodol a chryf

•yn sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda rhieni a gofalwyr, aelodau o'r Corff Llywodraethol a'r gymuned ehangach

•yn cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau allgyrsiol

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Sharon Davies ar 0 1 6 8 5 8 4 0 2 8 5.

Cynigir cyfle i’r ymgeiswyr ar y rhestr fer ymweld â’r ysgol.

Ffurflenni cais ar gael i’w lawrlwytho o wefan Eteach neu ar gais trwy’r ysgol

Dylid eu dychwelyd at y Pennaeth:

Mrs Sharon Davies, Ysgol y Lawnt, Surgery Hill, Rhymni, Tredegar, Caerffili, NP22 5LS

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon neu os am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth – 0 1 6 8 5 8 4 0 2 8 5 neu ebostiwch

Dyddiad cau: 14.07.2025

Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau – 17.04.2025

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.

Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan neu drwy ffonio 0 2 9 2 0 4 6 0 0 9 9. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Safeguarding Statement

Ysgol Y Lawnt is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Rhymney
jobs Caerphilly
jobs Wales
Home > Jobs > Cynorthwyydd Dysgu

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save