Summary Rydym yn chwilio am unigolyn cyfeillgar a hyderus i oruchwylio'r traeth a'r harbwr ym Mhorthdinllaen dros dymor yr haf. Ydych chi'n gyfathrebwr ardderchog gyda sgiliau ymarferol da a dealltwriaeth o'r amgylchedd morol? Os ydych chi'n caru'r arfordir, mwynhau gweithio yn yr awyr agored a sgwrsio gyda phobl, yna fe allai'r rôl yma fod i chi. Byddai wythnos waith nodweddiadol yn golygu gweithio 10am-4pm 5 diwrnod yr wythnos (i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc). Sylwch fod gallu sgwrsio yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. We're looking for a friendly and confident individual to supervise the beach and harbour at Porthdinllaen over the summer season. Are you an excellent communicator with good practical skills and an understanding of the marine environment? If you love the coast, enjoy working outdoors and chatting to people then this role could be for you. A typical work week would involve working 10am-4pm 5 days per week (to include weekends and bank holidays). Please note that the ability to converse in Welsh and English is essential for this role. What it's like to work here Mae Porthdinllaen yn gyrchfan adnabyddus ym Mhen Llŷn ac mae'n denu miloedd o ymwelwyr i fwynhau'r lleoliad hardd trwy ymlacio ar y traeth, cerdded llwybrau'r arfordir, mynd i'r dŵr neu ymweld a'r enwog Tŷ Coch y dafarn ar y traeth. Mae'n lle sydd â hanes hynod gyfoethog a dynodiadau cadwraeth natur pwysig fel Ardal Gadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau. Mae hefyd yn gartref i un o'r gwelyau morwellt mwyaf yng Nghymru. Mae harbwr Porthdinllaen yn darparu amddiffyniad rhag amodau gwynt a thonnau ac mae'n cysgodi rhag pob gwynt ond gwynt gogledd-ddwyrain. Mae gan ardal yr harbwr fewnol oddeutu 40 angorfa, gyda oddeutu 80 yn yr harbwr allanol. Mae fflyd fechan o longau pysgota yn gweithredu o bentref Porthdinllaen, ac mae'r bae yn cael ei fynychu gan badau amrywiol gan gynnwys cychod hwylio, cychod sy'n cael eu gyrru gan bŵer, badau dŵr personol a padlfyrdd. Mae mynediad ar gyfer cychod a lansiwyd a threlar ar gael ym Morfa Nefyn. Porthdinllaen is a well-known destination on the Llŷn peninsula and attracts thousands of visitors to relax on the beach, walk the coastal footpaths or take to the water, whilst enjoying the beautiful setting and the famous Tŷ Coch Inn. It's a place with incredibly rich history and important nature conservation designations such as the Pen Llŷn a'r Sarnau Special Area of Conservation. It's also home to one of the largest seagrass beds in Wales. Porthdinllaen harbour provides protection from wind and wave conditions and is sheltered from all but a north-easterly wind. The inner harbour area has around 40 moorings, with the outer harbour area having around 80 moorings. A small fleet of fishing vessels operate from Porthdinllaen village, and the bay is frequented by visiting vessels including sailing boats, power driven vessels, personal watercraft and paddle craft. Occasionally larger commercial craft may anchor in deeper water away in the outer area of harbour. Access for trailer launched vessels is available at Morfa Nefyn. Porthdinllaen | Llŷn Peninsula | Wales | National Trust What you'll be doing Bydd rhan fawr o'ch rôl yn cynnwys ymgysylltu â phobl a rhoi croeso i Borthdinllaen. Byddwch yn wyneb yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorthdinllaen a byddwch yn gallu ateb ymholiadau a rhoi gwybodaeth i bobl a fydd yn gwella'u hymweliad. Byddwch hefyd yn sicrhau safonau uchel ar y safle, gan godi sbwriel yn ddyddiol a sicrhau bod y traeth yn glir o beryglon. Mae diogelwch yn flaenoriaeth a byddwch yn hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o'r ardal ac yn cynghori'r cyhoedd ar is-ddeddfau a pholisïau arfordirol lleol. Bydd y rôl wedi'i lleoli'n bennaf yn fynediad y traeth ym Morfa Nefyn yn goruchwylio lansio cychod, gan sicrhau bod cychod wedi'u cofrestru, a chasglu ffioedd lansio. Gall y rôl hefyd cwmpasu ardal ehangach y traeth a phentref Porthdinllaen ar adegau prysur, gan gymryd cyfrifoldeb am gadw Caban Griff (ein hystafell dehongli fach) a gweithdy'r harbwr feistr yn daclus. Nod Prosiect Morwellt Porthdinllaen yw gwarchod y morwellt yn y bae. Byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ac yn gallu hyrwyddo'r gwaith gyda'r cyhoedd gan gynyddu eu dealltwriaeth o'r cynefin pwysig hwn. Rydym yn prydlesu'r angorfeydd harbwr mewnol allan yn flynyddol. Byddwch yn monitro defnydd a chyflwr yr angorfeydd hyn yn rheolaidd drwy'r tymor. Byddwch yn gyfforddus yn gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc. Darllenwch y proffil rôl lawn hefyd, ynghlwm â'r hysbyseb hon. A big part of your role will involve engaging with people and providing a welcome to Porthdinllaen. You'll be the face of the National Trust at Porthdinllaen and will be able to answer queries and provide people with information that will enhance their visit. You'll also ensure high standards of presentation, carrying out daily litter picks and making sure the beach is clear of hazards. Safety is a priority and you'll be promoting safe and responsible use of the area and advising the public on local coastal by-laws and policies. The role will mainly be based at the beach access point at Morfa Nefyn supervising the launching of vessels, ensuring vessels are registered and collecting launching fees. The role may also cover the wider beach area and the village of Porthdinllaen at busier times and be responsible for keeping Caban Griff (our small interpretation space) and the harbour master's workshop presentable. The Porthdinllaen Seagrass Project aims to protect the seagrass in the bay. You'll keep up to date with the project and be able to promote the work with the public increasing their understanding of this important habitat. We lease out the inner harbour moorings out annually. You'll monitor the use and condition of these moorings regularly through the season. Weekend and bank holiday working will be required. Please also read the full role profile, attached to this advert. Who we're looking forEr mwyn cyflawni'r rôl hon yn llwyddiannus, dylech gael: Sgiliau cyfathrebu rhagorol Y gallu i sgwrsio'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg Ymrwymiad i safonau uchel o wasanaeth cwsmeriaid Dull gweithgar gyda phrofiad o weithio'n annibynnol mewn sefyllfaoedd prysur ac ar dasgau ymarferol Gwybodaeth am weithgarwch morwrol e.e. cychod, angorfeydd, lansio a diddordeb yn yr amgylchedd morol. To deliver this role successfully, you should have: Excellent communication skills The ability to converse fluently in Welsh and English A commitment to high standards of customer service A hard-working approach with experience of working independently in busy situations and on practical tasks Knowledge of maritime activity e.g. boats, moorings, launching and an interest in the marine environment. The package The National Trust has the motto 'For everyone, for ever' at its heart. We're working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It's important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we're for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too. Substantial pension scheme of up to 10% basic salary Free entry to National Trust properties for you, a guest and your children (under 18) Tax free childcare scheme Rental deposit loan scheme Season ticket loan Perks at work discounts i.e. gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria. Flexible working whenever possible Employee assistance programme Free parking at most locations Independent financial advice Click here to find out more about the benefits we offer to support you. Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd. Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed) Cynllun gofal plant di-dreth Cynllun benthyciad blaendal rhent Benthyciad tocyn tymor Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl Rhaglen cynorthwyo cyflogai Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau Cyngor ariannol annibynnol Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i'ch cefnogi chi.