Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Internal only - cognitive behavioural therapy (cbt) therapist

Cbt therapist
Posted: 18h ago
Offer description

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Therapydd Therapi Ymddygiadol Gwybyddol (CBT) ar gyfer Gwasanaeth Canopi (Rhan amser) Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd Rydym yn chwilio am therapyddion Therapi Ymddygiadol Gwybyddol (CBT) i ymuno â thîm Canopi yn yr Ysgol Meddygaeth a leolir yn Adeilad Hadyn Ellis, campws Cathays. Yn y swydd hon, byddwch yn: • Darparu Therapi Ymddygiadol Gwybyddol (CBT) ar gyfer cleientiaid Canopi, a hynny dros y ffôn, ar-lein a wyneb yn wyneb • Gallu dangos gwybodaeth broffesiynol arbenigol ym maes arferion gorau CBT, a chael eich cydnabod fel awdurdod yn y maes. • Cymryd rhan a chefnogi goruchwyliaeth o fewn y tîm CBT. Hoffem glywed gennych os yw’r canlynol yn berthnasol: • Rydych yn therapydd sydd wedi eich achredu gan Gymdeithas Brydeinig Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol (BABCP) neu’n Seicolegydd clinigol sydd wedi eich cofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), ac â phrofiad o weithio fel ymarferydd Therapi Ymddygiadol Gwybyddol (CBT) gan ymdrin â chleifion sy’n ymddangos ag amrywiaeth eang o gyflyrau clinigol • Rydych yn meddu ar brofiad sylweddol o reoli cleifion o fewn gwasanaethau statudol a llwybrau iechyd meddwl a phrofiad o gefnogi cleifion o'r GIG a'r sector gwirfoddol. • Rydych yn meddu ar brofiad o gyfrannu at arferion gorau o fewn gwasanaeth iechyd meddwl Gallwn gynnig y cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Rydym yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw. Am drafodaeth gyfrinachol anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Naomi Marfell (Rheolwr Canopi) (marfelln@caerdydd.ac.uk). Mae hwn yn swydd rhan-amser (7 awr yr wythnos) sydd ar gael ar unwaith am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2027. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gyrraedd cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer gweithio'n hyblyg neu drefniadau rhannu swydd. Cyflog: £51,039 - £55,755 y flwyddyn, yn gymesur (Gradd 7) Fel arfer, mae unigolion a benodir i swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar gwaelod y raddfa gyflog, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Mae’r swydd hon yn gymwys i gael ei chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch dreulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn i chi allu sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sydd yn cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol yn gymesur (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynnydd blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous ac bywiog i weithio gyda llawer o heriau amrywiol. Mae'r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw. Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r swydd hon – Mae’n rhaid i chi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd hon (gweler yr adran ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu sgiliau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y gwaith. Rydym am eich cefnogi a’ch datblygu ar ôl i chi ddechrau yn y swydd drwy ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i sicrhau eich bod yn gallu rhoi o’ch gorau: 1. Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda'ch rheolwr 2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas 3. Hyfforddiant sy’n berthnasol i’r gwaith a chyfleoedd i ddatblygu 4. Cynllun mentora Dyddad cau: Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2026 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd. Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Diben y Swydd Cefnogi'r Brifysgol o fewn gwasanaeth Canopi i ddarparu ymyriadau CBT unigol 1:1 i gleientiaid Canopi, gan ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth, ac arwain prosiectau o fewn y maes hwn Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Prif Ddyletswyddau • Darparu therapi CBT cyfyngedig o ran amser (uchafswm o 8 sesiwn) i gleientiaid Canopi. Cyflwynir sesiynau dros y ffôn, ar-lein a wyneb yn wyneb yn ôl dewis y cleient. • Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau Canopi yn cael eu dilyn, yn benodol mewn perthynas â diogelu data a diogelu, gan ymateb mewn modd amserol i faterion sy'n codi. • Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i sicrhau bod cofnodion a data cleientiaid yn cael eu cadw’n gyfredol a sicrhau bod mesurau canlyniadau yn cael eu cwblhau ar gyfer cleientiaid a'u defnyddio i gefnogi sesiynau CBT y cleient. • Sicrhau cynnal safonau ymarfer rhagorol, gan lynu wrth fframwaith moesegol BABCP a/neu ganllawiau eraill, a chadw golwg ar yr wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion/canllawiau newydd a osodir gan yr Adran Iechyd • Bod yn gyfrifol am ddatrys problemau’n annibynnol yn ystod sesiynau CBT cleientiaid, lle mae'r problemau'n ymwneud ag amcanion penodol y swydd, gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu gorau a gofalu bod cleientiaid yn deall materion ac atebion cymhleth a chysyniadol • Cyfrannu at ddatblygu arferion gorau o fewn y gwasanaeth gan greu argymhellion a chefnogi datblygiadau o fewn gwasanaeth Canopi. • Meithrin perthynas â chysylltiadau allweddol i sicrhau bod modd cyflawni amcanion y swydd, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau’r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen • Cymryd rhan weithredol mewn datblygiad personol a phroffesiynol parhaus, gan wneud defnydd llawn o oruchwylio, arfarnu, a chyfleoedd dysgu. Cymryd rhan a chefnogi goruchwyliaeth o fewn tîm CBT Canopi. • Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill o fewn gwasanaeth Canopi yn ôl yr angen. • Datblygu a darparu hyfforddiant ym maes CBT i dîm ehangach Canopi Dyletswyddau Cyffredinol • Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd • Glynu wrth bolisïau'r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd Gwybodaeth ychwanegol PWYSIG: Tystiolaeth o Feini Prawf Mae'n bolisi gan yr Ysgol Meddygaeth ddefnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai’r ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni’r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â’r meini prawf dymunol, pan fo hynny’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn ichi roi’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon/ei hatodi i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn y teitl. Yn achos y swydd hon, y cyfeirnod yw 21187BR Os na fydd ymgeiswyr yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig sy’n dangos eu bod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol, ni fydd eu cais yn symud ymlaen. Mae'r Ysgol Meddygaeth yn croesawu derbyn CVs i ategu tystiolaeth o feini prawf y swydd. Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau ac Addysg 1. Cymhwyster CBT wedi’i achredu gan BABCP neu ddoethuriaeth ôl-raddedig mewn seicoleg glinigol neu gymhwyster cyfatebol gyda’r gallu i ddarparu therapi CBT. Cofrestriad gyda'r BABCP fel therapydd CBT neu gyda HCPC i ymarfer fel seicolegydd clinigol yn y DU. Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad 2. Profiad sylweddol o reoli cleifion o fewn gwasanaethau statudol, llwybrau iechyd meddwl a chefnogi cleifion o'r GIG a'r sector gwirfoddol. 3. Gallu dangos gwybodaeth broffesiynol arbenigol ym maes CBT, a chael eich cydnabod fel awdurdod yn y maes 4. Profiad diamheuol o gynnal asesiadau ar gyfer gwasanaeth, gan gynnwys asesiadau cychwynnol ac asesiadau risg a diogelu cynhwysfawr Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm. 5. Gallu dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel uwch a chyfrannu at ddatblygu arferion gorau o fewn gwasanaeth Canopi 6. Tystiolaeth o'r gallu i archwilio anghenion cleifion/cleientiaid, addasu'r gwasanaeth, a gosod disgwyliadau cleifion/cleientiaid 7. Gallu diamheuol i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau 8. Tystiolaeth o'r gallu i reoli llwyth achos yn effeithiol a sicrhau bod holl gofnodion cleientiaid yn cael eu cadw’n gyfoes 9. Tystiolaeth o wybodaeth y gellir ei dangos o ddatblygiadau allweddol yn y ddisgyblaeth arbenigol, gan sicrhau eich bod yn dilyn arferion cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth 10. Tystiolaeth o’r gallu i gynnal a chyflawni prosiectau penodol a arwain goruchwyliaeth glinigol Meini Prawf Dymunol 1. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch 2. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar 3. Profiad sylweddol o weithio fel ymarferydd CBT gan ymdrin â chleifion sy’n ymddangos ag amrywiaeth eang o gyflyrau clinigol

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Remote high-intensity cbt therapist – iapt
Wallsend
Permanent
NHS
Cbt therapist
€45,000 a year
Similar job
Specialist camhs clinician psychologist or cbt therapist
London
Permanent
The Tavistock and Portman NHS Foundation Trust
Cbt therapist
€59,776 a year
Similar job
Senior cbt therapist and ltc lead
Cannock
Midlands Partnership University NHS Foundation Trust
Cbt therapist
See more jobs
Similar jobs
Home > Jobs > Nhs jobs > Cbt therapist jobs > Internal Only - Cognitive Behavioural Therapy (CBT) Therapist

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2026 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save