Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Prentis saer coed / apprentice joiner x 2

Wales
Joiner
Posted: 14 June
Offer description

Diolch am eich diddordeb yn y swyddi uchod. Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. ​ Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydym yn gwneud cam sylweddol i ehangu ein tîm Gwasanaeth Cynnal a Chadw Mewnol (DLO) sydd yn rhan o'n strategaeth ehangach i wella a chyflymu'r broses o addasu eiddo gwag yn barod i'w osod i denantiaid newydd. ​ Rydym yn chwilio am unigolion angerddol a gofalgar i fod yn rhan o'r siwrne ac i ymuno â’n tîm Cynnal a Chadw. Mae'r swyddi hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i unigolion ddatblygu a chael blas ar waith mewn gymdeithas dai tra'n cwblhau cymhwyster cydnabyddedig. Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, dyma'r swydd i chi. Os hoffech sgwrs pellach am y swyddi hyn, cysylltwch â Shaun Jones, Rheolwr Atgyweiriadau a Cynnal a Chadw Cynlluniedig, ar 0300 111 2122. Cewch gyfle i gyfarfod y tîm a thrafod y swyddi yn ystod dwy noson agored ar 17/06/2025 a 2 4/06/2025 (manylion isod). Byddwn hefyd yn cynnig cymorth gyda CV ac i gyflwyno 'ch cais yn ystod y nosweithiau hyn. Bydd aelodau staff o'r Coleg Llandrillo ar gael ar y nosweithiau i ddarparu mwy o wybodaeth am y cymwysterau fel rhan o'r prentisiaethau hyn. ​ Y Pecyn Math o gytundeb: Cytundeb dros dro Cyflog: £7.55 yr awr Lleoliad:Gogledd Cymru Oriau Gweithio: 40 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau ​ banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddio cerbyd, a ddarperir gan y cwmni, sy’n cyd-fynd â’r dibenion gwaith, i'w ddefnyddio yn amser Grŵp Cynefin yn unig. Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) ​ Disgrifiad Swydd ​DS Prentis Saer Coed JD Apprentice Joiner Datblygiad Personol: ​ Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais.pdf Cyfweliadau: w/c 07/07/2025 Nosweithiau Agored (cyfle i alw heibio a chael sgwrs hefo'r tîm am y swyddi): 17/06/2025 17:00 - 19:30 Swyddfa Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn,​Unit 8/9, Llys y Fedwen,Parc Menai, Bangor,Gwynedd LL57 4BL ​ 24/06/2025 17:00 - 19:30 Swyddfa Grŵp Cynefin, Tŷ John Glyn, 54 Vale Street, Dinbych LL16 3BW ​ ​ Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swyddi hyn.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Joiner (self-employed)
Barnsley
Freelance
MyJobQuote
Joiner
Similar job
Joiner (self-employed)
Mansfield
Freelance
MyJobQuote
Joiner
Similar job
Joiner (self-employed)
Rotherham
Freelance
MyJobQuote
Joiner
See more jobs
Similar jobs
Construction jobs in Wales
jobs Wales
jobs South Yorkshire
jobs England
Home > Jobs > Construction jobs > Joiner jobs > Joiner jobs in Wales > Prentis Saer Coed / Apprentice Joiner x 2

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save