Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn dinas fywiog ac amrywiol a bod yn rhan o uwch dîm rheoli dinas cyhoeddus arweiniol sydd â 15,000 o gyflogeion, yn darparu dros 700 o wasanaethau unigol i dros 362,000 o breswylwyr. Canfu adolygiad annibynnol gan gymheiriaid yn ddiweddar fod Cyngor Caerdydd yn “Gyngor da ac uchelgeisiol” gyda diwylliant “cadarnhaol ac optimistaidd”.
Ynglŷn â’r Swydd
Gan adrodd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau, byddwch yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol ar drawsnewid y gwasanaethau a ddarperir i ddinasyddion ledled Caerdydd, gan sbarduno’r gwaith o gyflawni Rhaglen Newid y Cyngor mewn ymateb i'r galw dybryd a phwysau ariannol. Byddwch hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth weithio gydag Aelodau'r Cabinet a Chynghorwyr i sicrhau y gall y rhoddir ymrwymiadau Cryfach, Tech, Gwyrddach y Cyngor ar waith, sy'n sail i’n Cynllun Corfforaethol.
Fel aelod o Uwch Dîm Rheoli'r Cyngor byddwch yn chwarae rhan strategol annatod wrth arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau trawsnewid hynod effeithiol, gan ail-lunio'r Cyngor a sbarduno perfformiad er mwyn sicrhau ffocws parhaus ar welliant.
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Byddwch yn gallu perfformio ar eich gorau yn gweithio ar lefel strategol mewn sefydliad mawr. Mae’r swydd yn gofyn am unigolyn sydd â dealltwriaeth fanwl o wasanaethau cyhoeddus ac sydd â phrofiad o weithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus, yn ogystal â newid strategol a thrawsnewidiol ym maes cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n sicrhau bod dewisiadau strategol y Cyngor yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ac yn effeithlon gan wella’n barhaus ganlyniadau i fywydau pobl Caerdydd.
Byddwch yn huawdl, yn gredadwy ac yn gallu ennill parch drwy roi cyngor arbenigol clir. Bydd gennych y gallu i feddwl yn strategol ac ymdrin â materion cymhleth yn rhwydd. Byddwch yn gyfathrebwr hyderus ac yn sefydlu perthynas broffesiynol effeithiol yn gyflym ar draws y Cyngor, yn ogystal â chyda sefydliadau partner.
Mae’r swydd hon wedi’i chyfyngu’n wleidyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009).
Closing Date
19 Rhagfyr 2025 am 11.59pm
Additional Information
Am rhagor o wybodaeth am y swydd, ewch i www.gatenbysanderson.com a chwiliwch am ‘Cardiff’. Am sgwrs gyfrinachol, cysylltwch â Paul Orders, Prif Weithredwr ar (029)20 872401.
Job Details
Director, Strategy, Partnerships and Transformation
Salary £147,524 per annum
Expires 19/12/2025
Location Cardiff (Caerdydd)
Job Type Full Time
About The Service (English)
This is an exciting opportunity to work in a vibrant and diverse city and to be part of a dynamic senior management team of a leading public sector organisation with 15,000 employees delivering over 700 individual services to over 362,000 residents. A recent independent peer review found that Cardiff Council is a ‘good and ambitious Council’ with a ‘can-do and optimistic’ culture.
About The Job (English)
Reporting to the Corporate Director Resources, you will provide strategic leadership and direction on the transformation of services provided to citizens across Cardiff, driving the delivery of the Council’s Change Programme in response to pressing demand and financial pressures. You will also play a key role in working with Cabinet Members and Councillors to ensure the implementation of the Council’s Stronger, Fairer, Greener commitments that underpin our Corporate Plan.
What We Are Looking for From You (English)
You will be able to perform at your best working at a strategic level in a large organisation. The role requires an individual who has an in-depth understanding of public services and is experienced in delivering partnership working across the public sector as well as strategic and transformational change in public service delivery, which ensures the effective and efficient implementation of the Council’s strategic choices and achieves continually improving outcomes in the lives of people within Cardiff.
You will be articulate, credible and able to win respect by giving clear expert advice. You will have the ability to think strategically and handle complex issues with ease. A confident communicator, you will quickly establish effective professional relationships across the Council, as well as with partner organisations.
This post is politically restricted in accordance with the Local Government and Housing Act 1989 (as amended by Local Democracy, Economic Development and Construction Act 2009).
Closing Date (English)
19 December 2025 at 11.59pm
Additional Information (English)
For further information about this role visit www.gatenbysanderson.com and search ‘Cardiff’. For a confidential discussion, please contact Paul Orders, Chief Executive on (029)20 872401.
#J-18808-Ljbffr