Diolch am eich diddordeb yn y swydd Trydanwr Aml-Grefft hefo Canllaw. Mae’r swydd yma gyda’r tîm Canllaw Addasu. Nod ' Canllaw ' yw “galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau”. Rydym yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol Mae Canllaw yn is-gwmni i Grŵp Cynefin. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys: 'Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn ' – Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd i’w cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru. Canllaw Addasu - Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth. Canllaw Technegol - Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid sy’n bobl hŷn neu bobl fregus. Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai mewn awyrgylch Gymreig lle mae’r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i’r teulu. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch a Gwenno Jones, Rheolwr Canllaw Addasu ar 0300 1110210. Cewch gyfle i gyfarfod y tîm a thrafod y swyddi mewn dwy noson agored ar 17/06/2025 a 2 4/06/2025 (manylion isod). Byddwn hefyd yn cynnig cymorth gyda CV ac i gyflwyno'ch cais yn ystod y nosweithiau hyn. Mwy o wybodaeth - E wch ar ein gwefan : www.grwpcynefin.org Y Swydd: Math o gytundeb: Parhaol Cyflog Spot: £37,020 y flwyddyn Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddio cerbyd, a ddarperir gan y cwmni, sy’n cyd-fynd â’r dibenion gwaith, i'w ddefnyddio yn amser Canllaw yn unig. Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) Disgrifiad Swydd: DS Trydanwr Aml-Grefft.pdf JD Multiskilled Electrician.pdf Buddiannau: Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais.pdf Cyfweliadau: w/c 07/07/2025 Nosweithiau Agored: 17/06/2025 17:00 - 19:30 Swyddfa Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn, Uned 8/9, Llys y Fedwen, Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4BL 24/06/2025 17:00 - 19:30 Swyddfa Grŵp Cynefin, Tŷ John Glyn, 54 Vale Street, Dinbych LL16 3BW Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.