AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI?
Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu.
PAM YMUNO Â’R CYNLLUN?
Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain. Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw. Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith. Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys sy'n bwysig i filiynau.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rydym ni'n eu cynnig, gallwch chi gofrestru i ymuno ag un o'n gweminarau yma. Sylwch fod y weminar ar gyfer y cynllun hwn yn cael ei chynnal nos Fercher 10 Rhagfyr am 6pm. Os nad ydych chi'n gallu bod yn bresennol, neu os ydych chi wedi gweld hyn ar ôl y dyddiad hwnnw, cadwch lygad ar ein rhestr o weminarau ar Youtube yma lle bydd y fideo'n cael ei uwchlwytho.
PAM YMUNO Â’R TÎM?
BBC Radio Cymru yw gorsaf radio Gymraeg genedlaethol Cymru ac mae’n darlledu ers 1977, gyda Radio Cymru 2 yn lansio yn 2018. Ar gyfartaledd, rydym yn darlledu dros 22 awr o raglenni bob dydd i dros 100,000 o wrandawyr ledled Cymru a’r tu hwnt. Mae Radio Cymru yn gwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oed a diddordeb drwy ddarparu rhaglenni cerddoriaeth, rhaglenni dogfen, sioeau trafod, materion cyfoes a gwleidyddiaeth, crefydd, y celfyddydau, a llawer mwy. Rydym hefyd yn darlledu o ddigwyddiadau o bob math, megis Eisteddfod yr Urdd, Tafwyl, Sioe Frenhinol Cymru, a'r Eisteddfod Genedlaethol. Cerddoriaeth gyfoes yw ffocws Radio Cymru 2.
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD
Fel prentis Cynhyrchu, dyma gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Gallech chi:
* Brofi pob rhan o waith cynhyrchu rhaglenni
* Creu rhestri chwarae
* Trefnu gwesteion
* Golygu
* Gweithio mewn stiwdio ac ar leoliad mewn digwyddiadau amrywiol
* Paratoi a chyflwyno rhaglenni byw a rhaglenni wedi'u recordio ymlaen llaw
* Datblygu sgiliau cynhyrchu, sgiliau cyfathrebu a sgiliau technegol.
* Bydd cyfleoedd hefyd i weithio ar gynnwys aml-lwyfan fel rhan o'r tîm digidol sy'n canolbwyntio ar y cyfryngau cymdeithasol a chynnwys BBC Sounds.
Byddwch chi'n dysgu yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, yn ogystal â dysgu ar eich lleoliad yn y BBC, yn mynychu blociau dysgu (wythnos neu ddwy ar y tro) gyda'n darparwr dysgu, gan weithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant, sef Diploma Lefel 3 mewn Cyfryngau Digidol a Chreadigol. Bydd y blociau dysgu’n cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb.
I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith prentisiaeth y byddwch yn ei astudio, ewch i’r ddolen hon.
EICH SGILIAU A’CH CYMHWYSEDD
Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi’n awyddus i weithio yn y BBC, ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Nid eich cymwysterau sy’n cael ein sylw, yn hytrach chwilio am botensial, a byddwn ni’n rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais. Rydym ni’n chwilio am y canlynol:
* Brwdfrydedd dros ddarlledu yn y Gymraeg
* Creadigrwydd - Meddwl am syniadau newydd a chreadigol ar gyfer rhaglenni ac ymgyrchoedd ar-lein
* Sgiliau cyfathrebu da yn y Gymraeg
* Hunan-gymhelliant a'r gallu i weithio'n annibynnol i gwrdd â therfynau amser.
* Aelodau da o dîm, sy'n gallu cydweithio'n hyblyg ac effeithiol â chydweithwyr, cyflwynwyr a chyfranwyr i sicrhau cynhyrchiad o safon uchel.
* Sylw i’r manylion - cymryd cofnodion cywir a chwblhau tasgau
* Gallu addasu - Addasu i sefyllfaoedd newydd yn gyflym ac effeithlon
Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd a bod gennych chi ddiddordeb mewn rolau tebyg yn y BBC, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am swyddi ar wefan gyrfaoedd y BBC neu’n edrych ar ein cynlluniau prentisiaeth eraill.
MEINI PRAWF CYMHWYSEDD
Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:
* Bod yn 18 oed neu’n hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2026
* Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y 3 blynedd cyn dechrau’r brentisiaeth
* Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithio’n llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth
* Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall sy’n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd
* Nid oes angen unrhyw ddysgu blaenorol i wneud cais.
Ar gyfer ymgeiswyr o dan 19 oed ar 8 Medi 2026: I gwblhau'r brentisiaeth, rhaid i chi fod wedi cael Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn: Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif o fewn 12 mis cyntaf y brentisiaeth.
BAROD I YMGEISIO?
Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chi'n gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon? Cliciwch ‘Ymgeisio Nawr’!
Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn - does dim angen CV na llythyr cais.
Os ydych chi’n gymwys, byddwn ni’n eich tywys drwy’r camau nesaf gan roi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl.
Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol? Edrychwch ar ein hysbysebion eraill - ond cofiwch mai dim ond am un swydd y gallwch chi wneud cais.
OS YW Y TU ALLAN I LUNDAIN: Mae'r BBC yn cydnabod y gallai fod angen i rai pobl sy'n gwneud cais am Gynllun Prentisiaeth y BBC symud i leoliad newydd ar gyfer y rôl, ac efallai na fydd hyn yn bosibl oherwydd eich cyfyngiadau ariannol personol. Cynigir cymorth adleoli i nifer cyfyngedig o brentisiaid bob blwyddyn ac fe fyddai hyn yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon, yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwyso ar gyfer cymorth adleoli. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu ag ymgeiswyr yn ystod y broses recriwtio. Mae manylion y cymorth ehangach sydd ar gael yn y BBC ar gael yma .
Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol - bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun.
Yn ystod eich prentisiaeth, byddwch chi’n cael eich cefnogi i ddatblygu yn eich gyrfa ac yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a chyfleoedd i rwydweithio i’ch helpu i gymryd y camau nesaf - boed hynny gyda’r BBC neu gyda sefydliad arall yn y diwydiant. PRA26
Easy Apply (EA)