Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Cynorthwyydd marchnata a chyfathrebu

Ebbw Vale
Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
€30,106 a year
Posted: 12h ago
Offer description

Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu

Llawn amser 35 awr yr wythnos (gellir ystyried ceisiadau i rannu swydd neu rhan amser)

Parhaol

Graddfa Cyflog: £28,672 - £31,541 y flwyddyn (dyfarniad cyflog blynyddol yn yr arfaeth)

Yn ychwanegol â phecyn gwyliau a buddianau hael

Ymunwch gyda Ni yn Addysg Oedolion Cymru – Lle Mae Dysgu’n Trawsnewid Bywydau

Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn fod addysg yn arf pwerus ar gyfer trawsnewid personol a chymunedol. Fel prif ddarparwr Cymru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n grymuso unigolion i wireddu eu potensial a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu mynediad at ddysgu a sgiliau, gan feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pawb ffynnu.

Rydym yn falch o'n gwerthoedd a'n hethos, sydd wedi'u gwreiddio mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch. Gwerthfawrogwn ein staff fel ein hased mwyaf ac rydym yn ymroddedig i greu gweithle cadarnhaol, cydweithredol a deinamig lle mae pob aelod o'r tîm yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a'i ysgogi i gyflawni ei orau.


Y Rôl: Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno gyda ni fel ein Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu, gan ei fod yn gyfle i ddefnyddio eich creadigrwydd i drawsnewid a llunio ein hymgysylltiad gyda dysgwyr, aelodau a rhanddeiliaid, ac i godi ein proffil fel darparwr cenedlaethol dysgu cymunedol i oedolion yng Nghymru o fewn ein cymunedau, a hefyd yn fasnachol.

Byddwch yn chwarae rhan hanfodol o fewn y sefydliad, ynghyd â chefnogi’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu i gyflawni strategaeth farchnata'r sefydliad. Byddwch yn allweddol i gefnogi ein timau cwricwlwm drwy hyrwyddo ein cynnig cwricwlwm yn effeithiol ar draws sianeli lluosog, gan gynnwys llwyfannau digidol a chyfryngau cymdeithasol.

Os ydych yn mwynhau gweithio gyda phobl mewn amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil gyda’r rhyddid i ddefnyddio’ch sgiliau creadigol, dyma'r cyfle perffaith i ymuno gyda ni wrth i ni ddatblygu dull cyffrous ac arloesol i'r gweithgareddau marchnata a’n cynnig aelodaeth. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle amrywiol a chynhwysol lle mae pob llais yn cael ei glywed a’i werthfawrogi. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, profiad a phersbectif i ymgeisio.


Sut i wneud cais

Ymgeisiwch erbyn 12:00 Dydd Gwener 21ain Tachwedd gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Cyfweliadau i'w trefnu yn ystod yr wythnos yn dechrau 8fed Rhagfyr.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.


Croesawn geisiadau a ddymunir

Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Gellir trafod unrhyw gais penodol yn ystod y cyfweliad.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon. Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Ebbw Vale
jobs Blaenau Gwent
jobs Wales
Home > Jobs > Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save