Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Cynghorydd cyswllt busnes dan hyfforddiant / cynghorydd...

Deeside
Careers Wales
Posted: 6h ago
Offer description

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen Cymru’n Gweithio.

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.

Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru

Rydym yn recriwtio Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant / Cynghorydd Cyswllt Busnes

Ydych chi’n mwynhau gweithio mewn partneriaeth â busnesau a chyflogwyr?

Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu rhagorol?

Allwch chi egluro sut gall busnesau a chyflogwyr ymgysylltu ag addysg?

Ydych chi am wneud cyfraniad allweddol at godi ymwybyddiaeth dysgwyr o natur newidiol y byd gwaith, y sgiliau sydd eu hangen a’r cyfleoedd sydd ar gael?

Gallai’r rôl hon fod yn ddelfrydol i chi!

Cyflog: £29,873 y flwyddyn (Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant); £31,096 - £35,981 (Cynghorydd Cyswllt Busnes Cymwys)

Lleoliad: Gogledd-ddwyrain Cymru (Rhyl, Y Fferi Isaf/Queensferry neu Wrecsam)

Oriau gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Ceir buddiannau deniadol, gan gynnwys gweithio ystwyth, amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol, a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.

GWYBODAETH AM Y SWYDD:

Fel Cynghorydd Cyswllt Busnes/Dan Hyfforddiant, byddwch yn helpu i lywio, ysbrydoli a chymell pobl ifanc gyda’u cyfleoedd gyrfa gan weithio ar ein Prosiect Profiad Gwaith wedi’i Deilwra.

Bydd eich sgiliau fel Cynghorydd Cyswllt Busnes/Dan Hyfforddiant yn helpu i:

* Newid agweddau disgyblion at addysg
* Cymell pobl ifanc i astudio yn galetach a sicrhau graddau gwell o bosibl
* Dylanwadu ar gynlluniau gyrfa disgyblion a’u dewisiadau pwnc
* Dod â rhannau o’r cwricwlwm yn fyw
* Helpu pobl ifanc i greu cysylltiadau rhwng eu gwersi a’r byd gwaith
* Codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gyrfa amrywiol sydd ar gael a sut i fanteisio arnynt
* Cyflwyno pobl ifanc i fodelau rôl a fydd yn eu hysbrydoli
* Herio syniadau am rywedd, hil ac anabledd sy’n cyfyngu ar ddewisiadau gyrfa.

Bydd Cynghorwyr Cyswllt Busnes / dan Hyfforddiant sy'n gweithio yn y rôl hon yn gweithio'n benodol ar y prosiect Profiad Gwaith wedi'i Deilwra, gan gysylltu ag ysgolion, dysgwyr a chyflogwyr i drefnu lleoliadau gwaith parhaus i bobl ifanc.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol i gadw mewn cysylltiad â chyflogwyr a chydweithwyr gan sicrhau bod gwasanaethau ymgysylltu â chyflogwyr yn cael eu cydlynu, eu cofnodi a’u rheoli yn briodol.

Dylai ymgeiswyr ar gyfer Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant fod wedi'u haddysgu i lefel gradd neu safon gyfatebol megis cymwysterau proffesiynol neu feddu ar brofiad amlwg o gysylltu a delio â chyflogwyr. Os cewch eich penodi fel hyfforddai byddwch yn cael eich cefnogi i gwblhau'r Diploma Lefel 6 mewn Cyswllt Busnes.

Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd Cynghorydd Cyswllt Busnes Cymwys feddu ar y Diploma Lefel 6 mewn Cyswllt Busnes.

PROSES YMGEISIO:

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd:

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 10/08/25 (hanner nôs). Cynhelir prawf asesu ar 27/08/25 a chyfweliadau ar 28/08/25.

Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.

Er gwybodaeth, nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV .

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Deeside
jobs Flintshire
jobs Wales
Home > Jobs > Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant / Cynghorydd...

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save