Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys ar gyfer swydd llawn amser, dros dro am flwyddyn o Fedi 2025 fel athro/ Athrawes Dosbarth. Rydym yn ysgol sydd yn ymfalchïo yn ein llwyddiant i sicrhau dysgu a datblygiad proffesiynol effeithiol iawn i ymarferwyr. Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn awyddus i apwyntio athro/ athrawes sydd yn arddangos sgiliau addysgu ardderchog ar lawr y dosbarth i ychwanegu at ein tîm brwdfrydig, gweithgar a hapus am gyfnod pendoedig tan Awst 2026. Cyniga'r swydd yma gyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus: fod yn frwd, yn ofalgar ac yn gallu sicrhau cyfleoedd datblygiadol, cyfoethog a hwylus i'r holl ddysgwyr, osod disgwyliadau uchaf i'r dysgwyr o ran ymddygiad, cyflawniadau a datblygiad medrau, cynnal dysgu ac addysgu o’r safon uchaf i gwrdd ag anghenion ein holl ddysgwyr, weithio'n effeithiol fel aelod o dîm ein hysgol, arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o Gwricwlwm i Gymru a’r fframweithiau sgiliau, dangos safonau uchel wrth ddefnyddio TGCh i gefnogi dysgu, sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda'n rhieni a gofalwyr, aelodau o'n Corff Llywodraethol a'n gymuned ehangach, cyfrannu tuag at a chefnogi holl weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yr ysgol. Mae Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol ofalgar a hapus, lle rhoddir blaenoriaeth ar les disgyblion a staff. Mae hybu’r Iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn allweddol i’n Cwricwlwm. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu’r Gymraeg yn rhugl yn hanfodol i’r swydd. I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau. Dylid dychwelyd ffurflenni gais at y Pennaeth: Mrs K Matthews - Pennaeth, Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Beech Grove, Oakdale, Caerphilly NP12 3UP neu trwy e-bost: ysgolgymraegcwmderwen@sch.caerphilly.gov.uk Gall ymgeiswyr wneud cais drwy Eteach, neu gofynnwch am ffurflen gais trwy’r e-bost uchod. Am fanylion pellach, ffoniwch 01495 226062 Cyfweliadau: 1 af Gorffennaf 2025 Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006. Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.