Be you
Be empowered
Be a Transport for Wales Apprentice
Business Data Analytics Apprentice Apprenticeship
Contract type: this is a 3-year fixed-term contract
**Note: You must hold the relevant right to work in the UK for the duration of the Apprenticeship Academy. We are not currently able to provide sponsorship.**
Our Apprenticeship Academy
Whether you're making your first transition into employment or changing careers and would like the opportunity to gain further qualifications without following the traditional educational route, an apprenticeship with us could be just the ticket to help you achieve your career goals and aspirations.
We firmly believe that everybody deserves opportunities to access apprenticeships and our aim is moving towards a diverse organisation at all levels. We want to be fully representative of our diverse communities across Wales.
The Role
The Data Analytics Apprentice will develop core analytical, technical, and reporting skills while contributing to improvements in business performance and data-driven practice, whilst undertaking a professional qualification in line with their programme to support their development.
Role responsibilities
* Assist in producing and maintaining business reports and analytics dashboards by using data tools and reporting systems to compile, validate, and present accurate information for stakeholders, to enable informed decision-making and improve organisational performance through reliable insights.
* You'll support in increasing colleague understanding of how data-driven approaches can enhance work, by sharing reports, visualisations, and insights and through explaining trends and patterns in accessible ways, to empower teams to make evidence-based decisions that improve financial and operational outcomes.
* Contribute to building and analysing datasets and monitoring KPIs, by assisting in data collection, cleaning, and through interpretation and collaborating on system improvements, to ensure accurate performance tracking and support continuous improvement across initiatives.
* You'll help to maintain the consistency and compliance of data processes and interactions, by following organisational standards and frameworks, to achieve intended results aligned with the organisation's strategic direction and ensure data integrity.
Who we're looking for
* The ability to manage multiple tasks and meet deadlines.
* Experience of using Microsoft Office Word, Excel and PowerPoint.
* Ability to interpret data and identify trends
* Problem-solving skills.
* Pass the testing within the initial application process. This testing is used to uncover alignment to our values, behaviour and core apprentice attributes, all of which can be found above.
* You'll need to be available to start the Apprenticeship Scheme in early September 2026.
*Please include all your relevant qualifications as listed in the essential and desirable criteria for the role. We won't be able to consider your application otherwise.
Is it right for me?
To help you decide, have a think if these apply to you.
* Most of our apprenticeships are open to anyone over the age of 16 and there's no upper age limit. Please note that for safety critical roles the minimum age will be higher.
* You must not have already achieved a similar or higher-level qualification in the apprenticeship role you have applied for. For example, if you have a degree in Engineering, you will not be eligible to apply for an Engineering apprenticeship. However, you could apply for another apprenticeship in a different profession, such as Finance.
* You will not be eligible for an apprenticeship if you are enrolled in/studying towards another qualification, as the apprenticeship is a full-time role with study commitments.
Welsh Language Skills
While not essential for this role, Welsh language skills would make a great addition to your application.
TfW support anyone who wants to learn Welsh or improve their skills. We offer online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Equal Opportunities
We're changing the way the transport industry looks. By celebrating and embracing differences, we're building a workforce that represents Wales. We need talented people from all backgrounds and cultures to bring their perspectives and experiences. Diverse teams make better decisions and drive innovation. Join us in transforming the way Wales travels."
Who we are
Transport for Wales is changing the way Wales travels, making sustainable transport the first choice. We're building a multimodal integrated transport network called the T Network, making it easier for people to travel by train, bus, walking, wheeling and cycling.
Next steps
See attached Job Description for further details and how to apply. If you want to find out more about what we're doing in Wales, see our Annual Report.
Once you've submitted your application, we'll invite you to a friendly and relaxed assessment day, followed by a final interview.
We're a Disability Confident Leader. Let us know about any reasonable adjustments you may need in the recruitment process and as part of the role if you are successful.
This advert will close at 23:59 on the day of the application closing date stated above.
However, we reserve the right to close this vacancy early if we receive enough applications. We encourage you to submit your application as early as possible.
At TfW, we're looking to see your skills, potential, and enthusiasm. While we fully support the use of AI as a tool for learning, we want to assess applicants based on their own abilities. Therefore, applications must be completed without AI assistance. If AI content is identified, unfortunately, we won't be able to consider the application.
Byddwch yn chi eich hun
Byddwch yn rymus
Byddwch yn Brentis Trafnidiaeth Cymru
Prentisiaeth Dadansoddi Data Busnes
Math o gontract: mae hwn yn gontract cyfnod penodol am 3 blynedd
**Sylwch: Mae'n rhaid i chi fod â'r hawl berthnasol i weithio yn y DU drwy gydol yr Academi Prentisiaeth. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**
Ein Hacademi Prentisiaeth
Os ydych chi'n symud i fyd gwaith am y tro cyntaf, neu'n newid gyrfa ac yn awyddus i gael rhagor o gymwysterau heb ddilyn y llwybr addysgol traddodiadol, mae'n bosib mai prentisiaeth gyda ni yw'r union beth i'ch helpu i gyflawni eich nodau a'ch dyheadau o ran gyrfa.
Rydyn ni'n credu'n gryf bod pawb yn haeddu cyfleoedd i gael prentisiaethau, a'n nod yw symud tuag at sefydliad amrywiol ar bob lefel. Rydyn ni am fod yn gwbl gynrychiadol o'n cymunedau amrywiol ledled Cymru.
Y Swydd
Bydd y Prentis Dadansoddi Data yn datblygu sgiliau dadansoddi, technegol ac adrodd craidd, ac yn cyfrannu ar yr un pryd at welliannau mewn perfformiad busnes ac ymarfer sy'n seiliedig ar ddata, gan ymgymryd â chymhwyster proffesiynol sy'n cyd-fynd â'u rhaglen i gefnogi eu datblygiad.
Cyfrifoldebau'r swydd
* Helpu i gynhyrchu a chynnal adroddiadau busnes a dangosfyrddau dadansoddi drwy ddefnyddio adnoddau data a systemau adrodd i gasglu, dilysu a chyflwyno gwybodaeth gywir i randdeiliaid, er mwyn ei gwneud hi'n bosib gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a gwella perfformiad sefydliadol drwy wybodaeth ddibynadwy.
* Byddwch yn cefnogi'r gwaith o wella dealltwriaeth cyd-weithwyr o sut gall dulliau sy'n seiliedig ar ddata wella gwaith, drwy rannu adroddiadau, delweddau a gwybodaeth, a drwy egluro tueddiadau a phatrymau mewn ffyrdd hygyrch, i rymuso timau i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n gwella canlyniadau ariannol a gweithredol.
* Cyfrannu at adeiladu a dadansoddi setiau data a monitro dangosyddion perfformiad allweddol drwy helpu i gasglu a glanhau data, a drwy ddehongli a chydweithio ar welliannau i systemau er mwyn sicrhau bod perfformiad yn cael ei dracio'n gywir a chefnogi gwelliant parhaus ar draws mentrau.
* Byddwch yn helpu i gynnal cysondeb a chydymffurfedd prosesau a rhyngweithiadau data drwy ddilyn safonau a fframweithiau'r sefydliad er mwyn cyflawni'r canlyniadau a fwriedir sy'n cyd-fynd â chyfeiriad strategol y sefydliad, a sicrhau cywirdeb y data.
Am beth rydyn ni'n chwilio
* Y gallu i reoli nifer o dasgau a chwrdd â therfynau amser.
* Profiad o ddefnyddio Microsoft Office fel Word, Excel a PowerPoint.
* Gallu dehongli data a sylwi ar dueddiadau.
* Sgiliau datrys problemau.
* Pasio'r profion yn y broses ymgeisio gychwynnol. Mae'r profion hyn yn cael eu defnyddio i edrych am gysondeb â'n gwerthoedd, ein hymddygiad a'n priodoleddau craidd fel prentisiaid, sydd i gyd i'w gweld uchod.
* Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau'r Cynllun Prentisiaeth ddechrau mis Medi 2026.
*Dylech chi gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol fel y maen nhw wedi'u rhestru yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Ni fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall.
A yw'n addas i mi?
I'ch helpu i benderfynu, meddyliwch a yw'r canlynol yn berthnasol i chi.
* Mae'r rhan fwyaf o'n prentisiaethau ar agor i unrhyw un dros 16 oed ac nid oes terfyn oedran uchaf. Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd yr isafswm oedran yn uwch ar gyfer swyddi sydd â chyfrifoldebau diogelwch hollbwysig.
* Ni ddylech fod eisoes wedi ennill cymhwyster ar lefel debyg neu uwch na'r brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Er enghraifft, os oes gennych chi radd mewn Peirianneg, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am brentisiaeth Peirianneg. Fodd bynnag, gallech chi ymgeisio am brentisiaeth arall mewn proffesiwn gwahanol, fel Cyllid.
* Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer prentisiaeth os ydych wedi cofrestru ar gyfer cymhwyster arall/yn gweithio tuag at gymhwyster arall, oherwydd mae'r brentisiaeth yn swydd lawn-amser gydag ymrwymiadau astudio.
Sgiliau Cymraeg
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Cyfle Cyfartal
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio.
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Y camau nesaf
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwn yn eich gwahodd i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn.
Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch yn llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod.
Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosib.
Yn TrC, rydyn ni'n awyddus i weld eich sgiliau, eich potensial, a'ch brwdfrydedd. Er ein bod yn llwyr gefnogi defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) fel adnodd dysgu, rydyn ni eisiau asesu ymgeiswyr ar sail eu galluoedd eu hunain. Felly, rhaid cwblhau ceisiadau heb gymorth AI. Os byddwn yn canfod cynnwys sydd wedi'i baratoi gan ddefnyddio AI, ni fyddwn yn gallu ystyried y cais, yn anffodus.
Job Types: Full-time, Fixed term contract, Apprenticeship
Contract length: 36 months
Pay: From £23,810.00 per year
Benefits:
* Company pension
* Cycle to work scheme
* Employee discount
* Employee mentoring programme
* Free flu jabs
* Free or subsidised travel
* Health & wellbeing programme
* Sick pay
* Store discount
* Work from home
Work Location: In person
Reference ID: 0364
Expected start date: 01/09/2026