Policy and External Affairs Manager
About the GMC
We work with doctors, physician associates (PAs), anaesthesia associates (AAs), those they care for and other stakeholders to support good, safe patient care across the UK. We set the standards doctors, PAs, AAs and their educators need to meet, and help them achieve them. If there are concerns these standards may not be met or that public confidence in doctors, PAs, or AAs may be at risk, we can investigate, and take action if needed.
The role
The purpose of this role is to lead and manage our policy and external affairs function at GMC Wales. You will be a point of expertise within the organisation on the policy, legislative and stakeholder landscape in Wales as it applies to healthcare and regulation – and play a key role in shaping our response to it. You will lead a team of Policy and External Affairs Officers, providing day to day line management and overseeing delivery of our agreed external affairs activity as part of a Wales business plan, working in an integrated way as part of a Wales team including an outreach function.
This role is part of the GMC’s External Affairs and Engagement function, which is responsible for planning and managing a portfolio of strategic relationships across the UK; as well as country-specific programmes of work managed by teams in Wales, England, Scotland and Northern Ireland. You will work closely and collaboratively with colleagues in a range of engagement, communications, policy and operational teams across the four UK nations to provide timely and accurate intelligence and advice; and identify opportunities to engage and influence effectively as part of a wider, integrated external affairs and engagement function.
The person
We are looking for someone with a strong understanding of the Welsh political, public affairs, and health policy landscape that can lead the proactive management of our external stakeholder relationship in Wales.
This is a hybrid role where you’ll be expected to work a minimum of 2 days per week in the office. Travel to other office locations as well across Wales will also be expected.
We are happy to consider a range of flexible working options. Flexible working requests will be considered in line with the policy.
You can find more detail on the tasks you will undertake, and the essential skills required for the role in the job description.
GMC benefits
You’ll benefit from being part of an organisation that is genuinely committed to its people with several excellent benefits including:
1. 30 days holiday with the option to buy and sell more
2. A generous employer pension contribution of 15%
3. Access to a range of learning and development opportunities designed to support your ongoing progression
4. Hybrid and flexible working
5. Attractive salary that’s reviewed annually
6. Private medical insurance
7. Bike lockers and shower facilities
To find out more please
How to apply for the role
If you are interested in applying for this role, please provide a CV and a supporting statement, which demonstrates your reason for applying and a summary of how you can meet the essential skills listed in the job description, provide examples where possible.
Please note, applications submitted without the above information will be considered incomplete and not shortlisted.
Details on how to complete the application can be found in the attached guidance document.
We let you know whether you will progress to the next stage of the recruitment process.
Applications may be submitted in Welsh, please contact recruitment@gmc-uk.org to access a copy of the translated application form. Please be assured that an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
We recognise that generative AI tools may assist you in refining your job application. It is essential to use these tools responsibly to ensure your application remains authentic and reflective of your personal experiences, so please ensure you read our AI guidance before submitting your application.
Equality, Diversity and Inclusion
The GMC values diversity and has made a public commitment to processes and procedures that are fair, objective, transparent and free from discrimination. We are committed to the Disability Confident Employer scheme, and candidates with a disability who best meet the essential criteria outlined in the person specification will be offered an interview.
The GMC is a charity registered in England and Wales (1089278) and Scotland (SC037750)
Rheolwr Polisi a Materion Allanol
Gwybodaeth am y GMC
Rydym yn gweithio gyda meddygon, cymdeithion meddygol (PA), cymdeithion anaesthesia (AA), y rhai y maent yn gofalu amdanynt a rhanddeiliaid eraill i gefnogi gofal da a diogel i gleifion ledled y DU. Rydym yn gosod y safonau y mae angen i feddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anaesthesia a’u haddysgwyr eu bodloni, ac yn eu helpu i’w cyrraedd. Os oes pryderon na fydd y safonau hyn yn cael eu bodloni o bosibl, neu y gallai hyder y cyhoedd mewn meddygon, cymdeithion meddygol neu gymdeithion anaesthesia fod mewn perygl, gallwn ymchwilio, a chymryd camau os oes angen.
Y rôl
Pwrpas y rôl hon yw arwain a rheoli ein swyddogaeth polisi a materion allanol yn GMC Cymru. Byddwch yn bwynt arbenigedd yn y sefydliad ar y dirwedd polisi, deddfwriaethol a rhanddeiliaid yng Nghymru fel y mae’n berthnasol i ofal iechyd a rheoleiddio a byddwch yn rhan allweddol o'r gwaith o lunio ein hymateb iddi. Byddwch yn arwain tîm o Swyddogion Polisi a Materion Allanol, gan ddarparu rheolaeth llinell o ddydd i ddydd a goruchwylio’r gwaith o gyflawni ein gweithgarwch materion allanol y cytunwyd arno fel rhan o gynllun busnes Cymru, gan weithio mewn ffordd integredig fel rhan o dîm yng Nghymru, gan gynnwys swyddogaeth allgymorth.
Mae’r rôl hon yn rhan o swyddogaeth Materion Allanol ac Ymgysylltu’r GMC, sy’n gyfrifol am gynllunio a rheoli portffolio o gysylltiadau strategol ledled y DU; yn ogystal â rhaglenni gwaith sy’n benodol i’r gwledydd ac sy’n cael eu rheoli gan dimau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Byddwch yn gweithio’n agos ac ar y cyd â chydweithwyr mewn amrywiaeth o dimau ymgysylltu, cyfathrebu, polisi a gweithredol ar draws pedair gwlad y DU i ddarparu gwybodaeth a chyngor amserol a chywir; a nodi cyfleoedd i ymgysylltu a dylanwadu’n effeithiol fel rhan o swyddogaeth materion allanol ac ymgysylltu ehangach ac integredig.
Yr unigolyn
Rydym yn chwilio am rywun sydd â dealltwriaeth gadarn o dirwedd polisi gwleidyddol, materion cyhoeddus ac iechyd Cymru a all arwain y gwaith o reoli ein perthynas â rhanddeiliaid allanol yn rhagweithiol yng Nghymru.
Mae hon yn swydd hybrid lle bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos yn y swyddfa. Disgwylir i chi deithio i swyddfeydd eraill ledled Cymru hefyd.
Rydym yn hapus i ystyried amrywiaeth o opsiynau gweithio’n hyblyg. Bydd ceisiadau i weithio’n hyblyg yn cael eu hystyried yn unol â’r polisi.
Gallwch gael rhagor o fanylion am y tasgau y byddwch yn eu cyflawni - a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y swydd - yn y disgrifiad swydd.
Buddion GMC
Byddwch yn elwa o fod yn aelod o sefydliad sydd wir wedi ymrwymo i’w bobl ac sydd â llawer o fuddion gwych, gan gynnwys y canlynol:
8. 30 diwrnod o wyliau gyda’r dewis i brynu a gwerthu rhagor o wyliau
9. Cyfraniad pensiwn hael o 15% gan y cyflogwr
10. Mynediad at amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu sydd wedi’u cynllunio i gefnogi eich datblygiad parhaus
11. Gweithio hybrid a hyblyg
12. Cyflog deniadol sy’n cael ei adolygu’n flynyddol
13. Yswiriant meddygol preifat
14. Loceri beiciau a chyfleusterau cawod
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Sut mae gwneud cais am y swydd
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y swydd hon, darparwch CV a datganiad ategol, sy'n dangos eich rheswm dros wneud cais a chrynodeb o sut y gallwch fodloni'r sgiliau hanfodol a restrir yn y disgrifiad swydd, gan roi enghreifftiau lle bo hynny'n bosibl.
Bydd ceisiadau a gyflwynir heb yr wybodaeth a nodir uchod yn cael eu hystyried yn anghyflawn ac ni fyddant yn cyrraedd y rhestr fer.
Mae manylion am sut i lenwi’r cais ar gael yn y ddogfen ganllaw sydd ynghlwm.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a fyddwch yn symud ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg; cysylltwch â recruitment@gmc-uk.org i gael copi o’r ffurflen gais wedi ei chyfieithu. Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd cais yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais yn y Saesneg.
Rydym yn cydnabod y gallai offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol eich helpu i fireinio eich cais am swydd. Mae'n hanfodol defnyddio'r adnoddau hyn yn gyfrifol i sicrhau bod eich cais yn parhau i fod yn ddilys ac yn adlewyrchu eich profiadau personol, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen ein canllawiau AI cyn cyflwyno eich cais.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae’r GMC yn gwerthfawrogi amrywiaeth, ac mae wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i brosesau a gweithdrefnau sy’n deg, yn wrthrychol, yn dryloyw ac yn rhydd o wahaniaethu. Rydym wedi ymrwymo i'r cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, a chynigir cyfweliad i ymgeiswyr ag anabledd sy'n bodloni orau y meini prawf hanfodol a amlinellir ym manyleb y person.
Mae’r GMC yn elusen sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (1089278) ac yn yr Alban (SC037750)