Are you interested in a career in Social Work? This is an exciting opportunity to work as a Social Work Assistant in Cardiff Children’s Services Intervention Hub in partnership with Goleudy, a psychology-led service which is joint funded by Cardiff and Vale University Health Board. The Goleudy team supports young people, their families, and wider support systems, who are experiencing high levels of distress. The team's name is derived from the Welsh word for lighthouse and aims to symbolise a ‘beacon of hope’ in the difficult moments for our young people and their families. Goleudy has been developed around core values of providing trauma-informed care, being formulation driven, and attachment focused. The team is comprised of professionals from Psychology, Occupational Therapy, Education and Social Work. Difference is celebrated within the team through the promotion of a culture of learning together. In accordance with trauma informed principles the team receives regular supervision, mentoring, reflective practice, formulation conversations and away days. In this role, you will support children who are working with statutory Cardiff Children’s Services who need help with their emotional well-being and mental health needs. Building, maintaining and growing relationships is key to the team. Emphasis will be placed on working alongside and in partnership with our colleagues in the Emotional Well-Being and Mental Health Service. Becoming a Social Work Assistant offers a great opportunity to become involved in making a real difference to the lives of children, young people and families in Cardiff. Cardiff Children’s Services offer a range of opportunities for career development, including funded secondments to various degree and post graduate training courses. Cardiff offers the opportunity to grow and develop through high quality training, regular and effective supervision, and a wide variety of opportunities to pursue career development, for example we have funded Social Work Assistants to go to university to obtain their Social Work qualification. If you are interested in being part of Cardiff’s journey to becoming one of the most vibrant and successful cities within the UK that puts Children first with the ambition of being a lead force behind practice development in Wales we would be excited to hear from you. A oes diddordeb gennych mewn gyrfa Gwaith Cymdeithasol? Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio fel Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol yn Hwb Ymyrraeth Gwasanaethau Plant Caerdydd mewn partneriaeth â Goleudy, gwasanaeth sy'n cael ei arwain gan seicoleg ac sy'n cael ei ariannu ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae tîm Goleudy yn cefnogi pobl ifanc, eu teuluoedd, a rhwydweithiau cymorth ehangach, sy'n profi lefelau uchel o drallod. Nod enw’r tîm yw bod yn symbol o obaith yn ystod cyfnodau anodd ein pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae Goleudy wedi'i ddatblygu ar sail gwerthoedd craidd darparu gofal sy'n seiliedig ar drawma, wedi’i lywio gan fformiwleiddiad ac sydd â ffocws ar ymlyniad. Mae'r tîm yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o feysydd Seicoleg, Therapi Galwedigaethol, Addysg a Gwaith Cymdeithasol. Mae gwahaniaeth yn cael ei ddathlu o fewn y tîm drwy hyrwyddo diwylliant o ddysgu gyda'n gilydd. Yn unol ag egwyddorion sy'n seiliedig ar drawma, mae'r tîm yn derbyn goruchwyliaeth, mentora, ymarfer myfyriol, sgyrsiau fformiwlieddio a diwrnodau i ffwrdd. Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi plant sy'n gweithio gyda Gwasanaethau Plant statudol Caerdydd sydd angen help gyda'u hanghenion lles emosiynol ac iechyd meddwl. Mae adeiladu, cynnal a thyfu perthnasoedd yn allweddol i'r tîm. Bydd pwyslais ar weithio ochr yn ochr ac mewn partneriaeth â'n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl. Mae dod yn Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol yn cynnig cyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghaerdydd. Mae Gwasanaethau Plant Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa, gan gynnwys secondiadau wedi'u hariannu ar gyfer gwahanol gyrsiau gradd a hyfforddiant ôl-raddedig. Mae Caerdydd yn cynnig cyfle i dyfu a datblygu drwy hyfforddiant o ansawdd uchel, goruchwyliaeth reolaidd ac effeithiol, ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa, er enghraifft rydym wedi ariannu Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol i fynd i'r brifysgol i gael eu cymhwyster Gwaith Cymdeithasol. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.