Rydym am benodi Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i’n cynorthwyo, i gefnogi a chyflwyno dysgu, ar gytundeb llawn amser yn Ysgol Dyffryn Aeron. Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Cyfle swydd
Dyma gyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o’r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o’r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru. Mae Corff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Aeron yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu – Cefnogi a Chyflwyno Dysgu, Lefel 2.
Rôl a chyfrifoldebau
1. Gweithio o dan arweiniad uwch aelodau o’r staff/staff addysgu ac o fewn system gytunedig o oruchwyliaeth.
2. Gweithredu rhaglenni gwaith cytunedig gydag unigolion/grwpiau, oddi mewn neu oddi allan i’r ystafell ddosbarth.
3. Cynorthwyo’r athro neu’r athrawes gyda’r cylch cynllunio cyflawn, a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol megis ymyrraethau fel Trandep a Chyfrif Ceredigion a.y.y.b.
4. Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu’r athrawes.
5. Annog a chymhell disgyblion mewn modd bositif gan fedru cynnal disgyblaeth dda a chadw’r disgyblion wrth eu gwaith. Bydd angen i Oruchwylwyr Llanw ymateb i gwestiynau a rhoi cymorth cyffredinol i’r disgyblion wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau penodol.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr