Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Swyddog ymchwilio atal gwyngalchu arian

Birmingham (West Midlands)
Permanent
Posted: 18 February
Offer description

Swyddog Ymchwilio Atal Gwyngalchu Arian Contract Type Permanent Working Pattern Full time - flexible working may be considered Working Hours 35 hours per week Salary £42,446 y flwyddyn Location Options Birmingham with part of the week working from home, Cardiff with part of the week working from home, London with part of the week working from home Function Type Investigations Yr SRA yw rheoleiddiwr annibynnol cyfreithwyr a ffyrmiau cyfraith Cymru a Lloegr. Rydym yn rheoleiddio er budd y cyhoedd i sicrhau bod cyfreithwyr a ffyrmiau cyfraith yn cadw at safonau proffesiynol uchel, i weithredu yn erbyn y rhai sy'n methu â chydymffurfio â'u rhwymedigaethau rheoleiddiol ac i amddiffyn y cyhoedd rhag risg. Mae'r gyfarwyddiaeth AML yn cynnwys tri thîm: Polisi AML, Goruchwyliaeth Ragweithiol AML ac Ymchwiliadau AML. Ar hyn o bryd mae 14 o bobl yn y tîm Ymchwiliadau AML. Mae'r tîm arbenigol hwn yn canolbwyntio ar ymchwiliadau, lle mae honiadau yn cael eu gwneud mewn perthynas â thorri'r. Dyma faes gwaith uchel ei broffil sy'n symud yn gyflym. Ynglŷn â'r rôl Rydym yn chwilio am Swyddog Ymchwilio AML i ymuno â'n tîm Ymchwiliadau AML. Swydd wrth ddesg yw hon, gartref yn bennaf gyda phresenoldeb yn y swyddfa un neu ddau ddiwrnod yr wythnos. Fel Swyddog Ymchwilio AML, byddwch yn arwain ac yn ymchwilio i achosion cymhleth ac iddyn nhw nifer o faterion a fydd gan amlaf yn cynnwys materion AML. Byddwch yn datblygu ac yn gweithredu cynlluniau ar gyfer ymchwilio, gan gysylltu â ffyrmiau cyfraith ac unigolion, i gasglu gwybodaeth er mwyn bwrw ymlaen â'ch ymchwiliadau. Byddwch yn dadansoddi'r wybodaeth ac yn gyfrifol am wneud penderfyniadau teg a chymesur ar sail Strategaeth Gorfodi'r SRA. Byddwch yn drafftio adroddiadau a llythyrau yn ôl safon uchel yn rheolaidd, a'r rheiny wedi'u seilio ar dystiolaeth ac yn dangos sgiliau dadansoddol cadarn. Bydd cymhlethdod y gwaith yn cynyddu wrth i'ch profiad dyfu. Mae Swyddogion Ymchwilio yn ymuno â'r tîm Ymchwiliadau AML o amryw o wahanol gefndiroedd gan gynnwys cydymffurfiaeth, cyfrifydda, y gyfraith, ymchwiliadau, asiantaethau'r llywodraeth a'r Heddlu. Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano Hanfodol Profiad o arwain achosion cymhleth sy'n cynnwys nifer o faterion ac ymchwilio'n llwyddiannus iddyn nhw. Y gallu i dreulio a dadansoddi symiau mawr o wybodaeth. Y gallu i ddeall a darparu lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid. Sgiliau rheoli gwaith rhagorol a'r gallu i addasu at flaenoriaethau sy'n newid ar fyr rybudd. Dymunol Profiad neu wybodaeth o'r proffesiwn cyfreithiol a / neu'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Profiad neu wybodaeth o'r Rheoliadau Gwyngalchu Arian. Cymwysterau AML megis ICA. Beth sydd ar gael i chi Cyfle i ddatblygu'ch gyrfa ym maes atal gwyngalchu arian a chael hyfforddiant arbenigol. Gweithio ar y cyd â thimau eraill yr SRA, megis Ymchwiliadau Fforensig (sy'n cynnal archwiliadau ar y safle yn yr ymchwiliadau mwyaf difrifol a chymhleth), Cudd-wybodaeth a Chyfraith a Gorfodi, yn ogystal ag asiantaethau allanol, fel yr NCA, yr FCA a'r Heddlu. Diogelu'r cyhoedd a gorfodi safonau proffesiynol uchel trwy ymgysylltu â ffyrmiau ac unigolion sy'n cael eu rheoleiddio yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd. Cyfle i symud ymlaen o fewn y gyfarwyddiaeth AML a'r SRA ehangach. Chwarae rhan wrth ddatblygu'r 'arferion gorau' a gweithio fel rhan o dîm cyfeillgar. Casgliad achosion amrywiol a diddorol. 3% yn ychwanegol at y cyflog sylfaenol blynyddol i'w wario ar fuddion sy'n gweddu i'ch ffordd o fyw Cynllun pensiwn hael - byddwn ni'n cyfrannu 1½ - 2 waith eich cyfraniad chi, hyd at 12.25%. Felly, os byddwch chi'n cyfrannu 7%, byddwch yn cael yr uchafswm cyfraniad cyfun o 19.25% 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â gwyliau banc a chynllun prynu/gwerthu/arbed gwyliau. Mynediad at dalebau disgownt gweithwyr i arbed arian ar frandiau'r Stryd Fawr, teithio ac archfarchnadoedd. Yswiriant Bywyd o 4 gwaith y cyflog sylfaenol. Diogelu Incwm Gwybodaeth ddefnyddiol ac ychwanegol Mae proffil rôl llawn ynghlwm wrth waelod yr hysbyseb hon ar ein gwefan. Mae hon yn rôl hybrid a all gael ei lleoli yn unrhyw un o'n swyddfeydd (Birmingham, Caerdydd a Llundain) 1-2 ddiwrnod yr wythnos. Rydym yn recriwtio ar gyfer y rôl hon ar sail amser llawn, gan weithio 35 awr yr wythnos. Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb yn yr hysbyseb hon neu ar ein gwefan, neu os hoffech gael sgwrs ragarweiniol gyda'r rheolwr cyflogi, cysylltwch â ni drwy recruitment@sra.org.uk. Bydd y cyflog a gynigir ar gyfer y rôl hon yn ymestyn o £42,446.00 y flwyddyn ar gyfer Birmingham a Chaerdydd ac o £46,690.60 y flwyddyn ar gyfer Llundain (lle bo'n berthnasol), gan ddibynnu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad, ynghyd â buddion deniadol iawn. Ymgeisio Dewiswch y botwm 'apply' ar waelod yr hysbyseb. Bydd angen ichi uwchlwytho CV a darparu tystiolaeth o'ch gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad a sut mae'r rhain yn cysylltu'n benodol â gofynion allweddol y rôl, yn enwedig yr hyn rydyn ni wedi'i amlygu o dan yr adran 'Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano', mewn dim mwy na 250 o eiriau ar gyfer pob maen prawf. Bydd yr ymatebion y byddwch chi'n eu rhoi yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i greu rhestr fer. Os na fyddwch chi'n rhoi atebion, fydd eich cais ddim yn cael ei roi ar y rhestr fer. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 2 Mawrth 2026 am 09.00am. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar sail cymhwysedd ac asesiad. Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal yn yr wythnos sy'n dechrau 30 Mawrth 2026. Efallai y bydd ail gyfweliad os ydyn ni'n teimlo bod hynny'n angenrheidiol. Rhagwelir y bydd y rôl yn un amser-llawn (35 awr) gydag un diwrnod yn y swyddfa bob wythnos a gweddill eich amser yn gweithio o bell. Bydd patrymau gweithio hyblyg ac oriau rhan-amser yn cael eu hystyried ar gais unigol. Y nifer isaf o oriau yr wythnos y byddem yn ei ystyried yw 28. I gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio a dethol a sut i wneud y gorau o'ch cais, ewch i'n tudalennau swyddi. The SRA is the independent regulator of solicitors and law firms in England and Wales, protecting consumers and supporting the rule of law and the administration of justice. We do this by overseeing all education and training requirements necessary to practise as a solicitor, licensing individuals and firms to practise, setting the standards of the profession and regulating and enforcing compliance against these standards. We offer an inclusive, supportive and friendly working environment and the chance to develop your career within a professional organisation. We are committed to the health and wellbeing of staff, helping everyone to strike a good balance between personal and professional life. Additionally, we provide a generous flexible benefits package, an excellent defined contribution pension scheme and an additional 3% of annual basic salary upon successful completion of probation. Attached Role Profile AML Investigation Officer - Role Profile Feb 2026 - Welsh.docx - 542KB Opens in a new window Converted File AML Investigation Officer - Role Profile Feb 2026 - Welsh.docx.pdf - 71KB Opens in a new window Vacancy closing date: 02/03/2026, 09:00 The Solicitors Regulation Authority is an Equal Opportunities Employer. Diversity and inclusion is central to everything we do. We are actively committed to promoting and participating in good practice in the way that we attract, recruit and retain staff. Everyone is encouraged to bring their whole self to work because we appreciate the value that a truly diverse workforce brings to an organisation. We celebrate difference, recognising the benefits this brings to our inclusive culture, including age, disability, gender identity and expression, religion, race, sex, sexual orientation and socio economic background.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Swyddog ymchwilio atal gwyngalchu arian (aml investigation officer)
Birmingham (West Midlands)
Permanent
Investigation officer
See more jobs
Similar jobs
jobs Birmingham (West Midlands)
jobs West Midlands
jobs England
Home > Jobs > Swyddog Ymchwilio Atal Gwyngalchu Arian

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2026 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save