Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Gweithiwr cefnogaeth symudol cam-drin domestig - arfon - domestic abuse floating support worker

Penygroes
Floating support worker
Posted: 5h ago
Offer description

Chwilio am swydd ym maes cefnogi? Ydach chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau - dewch i weithio i Gorwel! ​ Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin sydd wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. ​ Mae Gorwel yn darparu gwasanaethau o safon i: gefnogi pobl sy’n dioddef trais yn y cartref gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir g ogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych. ​ Mae ein prosiectau’n cynnwys llochesi, cynlluniau tai â chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref. Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 650 o bobl yr wythnos ac mae gennym dros 70 o staff cyflogedig proffesiynol. ​ Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych a Dolgellau. ​ Gwasanaethau Trais yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Môn Llochesi a chefnogaeth mewn argyfwng Mae Gorwel yn darparu Gwasanaeth Trais yn y Cartref yng Ngwynedd ac Ynys Môn gan gynnwys pedair lloches mewn pedwar lleoliad cyfrinachol sydd yn llety argyfwng 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos i ferched a’u plant sydd yn dianc oddi wrth trais yn y cartref. ​ Cynllun Cefnogaeth Symudol Mae’r Cynllun Cefnogaeth Symudol yn cefnogi merched, dynion a’u teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn. ​ ​ Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. ​ ​ Y Swydd Math o gytundeb: Parhaol ​ ​ Cyflog: £24,493 - £26,762 y flwyddyn Lwfans ​ ar–alwad ​ £20 ​ y ​ diwrnod ​ / ​ £48 ​ ar ​ benwythnos ​ a gŵyl y banc. ​ Gwyliau: 36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau ​ banc statudol Teithio: Trwydded Yrru Gyfredol Lawn Pensiwn : Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) ​ Disgrifiad swydd: DS Gweithiwr Cefnogaeth Symudol Cam Drin Domestig Arfon 08.25.pdf Job Description: JD Domestic Abuse Floating Support Arfon 08.25.pdf ​ Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf ​ Sut i Ymgeisio am y swydd: ​ Canllawiau cwblhau cais.pdf ​ ​ Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) B yddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon. ​ Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. ​ Gwybodaeth Ychwanegol Ni allwn ystyried ceisiadau os ydych wedi dioddef o gam drin domestig a wedi derbyn gwasanaeth Gorwel am 2 flynedd ar ôl ir berthynas ddod i ben. Mae hyn i ddiogelu a gwarchod yr unigolyn a rhoi digon o amser iddynt ddod i dermau hefo y gamdriniaeth a chael symud ymlaen yn ei bywydau. Mae’r gwaith yn gallu bod yn anodd ac yn gallu effeithio ar llesiant pobl os yn ymgymryd a gwaith cefnogi yn rhy fuan. ​ Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â’r swydd a'r lleoliad yna mae croeso i chi gysyllt u â Elizabeth Ephraim, Rheolwr Gwasanaethau Cam-drin Domestig ar 0300 111 2121 neu 07789403122

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Housing & floating support worker/mentor
Haverfordwest
Floating support worker
See more jobs
Similar jobs
Healthcare jobs in Pembrokeshire
jobs Pembrokeshire
jobs Penygroes
jobs Wales
Home > Jobs > Healthcare jobs > Floating support worker jobs > Floating support worker jobs in Pembrokeshire > Gweithiwr Cefnogaeth Symudol Cam-drin Domestig - Arfon - Domestic Abuse Floating Support Worker

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save