Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Swyddog Gweinyddol Banc Bio Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Mae Banc Bio Prifysgol Caerdydd yn gyfleuster yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Mae’r Coleg hwn yn cynorthwyo ymchwil drwy hwyluso mynediad at samplau biolegol i’r y gymuned ymchwil fewnol ac allanol. Rydyn ni’n cynnig samplau biolegol dynol o ansawdd uchel i sefydliadau academaidd a masnachol ar gyfer ymchwil wedi’i chynnal er budd cleifion. Rydyn ni hefyd wedi sefydlu casgliadau sy’n gysylltiedig â nifer o wahanol feysydd afiechyd a rhai sydd wedi’u cyflawni gan wirfoddolwyr iach. Rydyn ni’n croesawu gwahoddiadau i ddechrau casgliadau newydd nad ydyn nhw wedi'u sefydlu eisoes yn y cyfleuster. Mae'r cyfleuster yn cydymffurfio â'r holl ofynion moesegol a rheoliadol (gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â meinweoedd dynol, data a moeseg) yn ogystal â safonau ansawdd perthnasol ym maes banciau bio. Mae Banc Bio Prifysgol Caerdydd wedi'i ardystio i fodloni gofynion ISO 9001: 2015 ar gyfer ein system rheoli ansawdd. Dyma gyfle cyffrous i Swyddog Gweinyddol Banc Bio ymuno â thîm Banc Bio Prifysgol Caerdydd. Bydd y Swyddog Gweinyddol Banc Bio yn gyfrifol am gydlynu pob agwedd weinyddol ar y Banc Bio a bydd yn helpu i sicrhau bod y Banc Bio yn cynnig gwasanaeth cyson ac o safon uchel. Mae rôl hon yn bwysig gan y bydd deiliad y swydd yn bwynt cyswllt cyntaf i nifer o bobl sy'n cyrchu’r Banc Bio, gan gynnwys ymchwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a rhoddwyr. Rydyn ni’n yn chwilio am rywun sy’n angerddol am ddarparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ac a fydd wir yn cael effaith gadarnhaol. Dyma gyfle anhygoel i’r ymgeisydd llwyddiannus helpu i gyflawni gweledigaeth dyfodol Banc Bio Prifysgol Caerdydd. Os hoffech chi ymuno â ni ar y daith hon, gallwn ni gynnig buddion rhagorol i chi, ynghyd ag amgylchedd gwaith gwych, a chyfle i fod yn rhan o rywbeth fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad sylweddol o weithio mewn rôl weinyddol a’r gallu i gydbwyso amcanion a blaenoriaethau niferus wrth weithio at derfynau amser. Bydd hefyd gan yr ymgeisydd wybodaeth arbenigol am reoli dogfennau a/neu ddatblygu gweithdrefnau a pholisïau. Swydd ran-amser (21 awr yr wythnos, wedi’u lledaenu dros bum niwrnod) a phenagored yw hon ac mae ar gael ar unwaith. Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn, pro rata am yr oriau sy’n cael eu gweithio (Gradd 4). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych sy’n cynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol, pro-rata (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio lle mae llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw. Dyddiad cau: Dydd Mercher, 7 Ionawr 2025 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydyn ni o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. O ganlyniad, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, ni waeth beth fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i gynnal cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu i rannu’r swydd. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Prif Ddyletswyddau Rhoi cyngor ac arweiniad manwl i gwsmeriaid mewnol ac allanol ar weithdrefnau Banc Bio Prifysgol Caerdydd gan ddefnyddio crebwyll a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol a chyfrannu at y gwaith o ddatrys materion sy’n fwy cymhleth. Cynorthwyo’r tîm i weithio ar y cyd er mwyn cyflawni amcanion cyffredin. Gweithio gyda phobl eraill i argymell ffyrdd gwell o weithio. Meithrin perthynas gynhyrchiol ag unigolion allweddol (cydweithwyr yn y Brifysgol a phwyntiau cyswllt allanol) i helpu i wella’r gwasanaeth y mae'r tîm yn ei ddarparu i’w gwsmeriaid. Cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i helpu'r tîm a'r adran i gyflawni eu nodau a’u hamcanion. Casglu a dadansoddi data ynglŷn â pherfformiad y Banc Bio a’i amcanion ansawdd fel y gall penderfyniadau gwybodus gael eu gwneud, gan nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a chreu adroddiadau ac argymhellion ar gyfer rheoli. Cyfarwyddo ac arwain cydweithwyr ar draws y Brifysgol ynghylch Banc Bio Prifysgol Caerdydd, drwy roi cyngor arbenigol a manwl ac arweiniad ar brosesau a gweithdrefnau y Banc Bio yn ôl y gofyn. Datblygu gwybodaeth arbenigol o safonau ISO priodol a deddfwriaeth HTA i gynorthwyo Rheolwr Gweithrediadau’r Banc Bio i sicrhau cydymffurfiaeth y sefydliad. Dyletswyddau Cyffredinol Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol. Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydyn nhw wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd. Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb iddyn nhw’n lleol. Sylwer: Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. SUT BYDDWN NI’N EICH HELPU I GYFLAWNI’R SWYDD HON Rydyn ni am eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd. Felly, byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i wireddu eich llawn botensial: Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas. Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich rheolwr llinell. Cynllun mentora staff. Cefnogaeth i ddysgu’r Gymraeg neu loywi sgiliau iaith. Gwiriadau gwirfoddol lles (yn achos swyddi yn y gwasanaethau Diogelwch a Chyfleusterau'r Campws). Meini Prawf Hanfodol Profiad o weithio mewn swydd neu gyd-destun gweinyddol a’r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wella’r rhain fel sy’n briodol. Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd TG da. Y gallu i gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol er mwyn datrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan nodi a chynnig atebion ymarferol. Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrywiaeth o gwsmeriaid, y gall eu dealltwriaeth o’r mater amrywio. Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth a chyflwyno gwaith mewn pryd, gan gynllunio, gosod a monitro eich blaenoriaethau chi a rhai’r tîm. Y gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu’r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu. Y gallu i gynghori a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol yn eich maes gwaith. Y gallu i ddadansoddi prosesau a gweithdrefnau, a chynghori ar welliannau Y gallu i gyfathrebu'n ysgrifenedig yn glir, yn gryno, ac yn effeithiol i roi cyngor manwl, arweiniad a chefnogaeth i aelodau'r tîm ac i gwsmeriaid ynghylch swyddogaethau gweinyddol a phrosesau’r Banc Bio Meini Prawf Dymunol Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch a/neu wyddorau biolegol/cyd-destun Banc Bio Y gallu i siarad/deall Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu’r iaith Sylwer: Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.