Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Learning support assistant level 2 - st nicholas

Barry
Learning support assistant
Posted: 12 September
Offer description

Amdanom ni Ysgol bentref fechan yw Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas, gydag ethos Cristnogol croesawgar. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu amgylchedd sy’n meithrin, lle mae plant yn teimlo'n hapus, yn cael eu cefnogi a'u hysbrydoli i ddysgu. Mae ein disgyblion yn gadarnhaol, yn siriol, ac yn ymddwyn yn dda, gan gyfrannu at gymuned ysgol dawel a pharchus. Ym mis Tachwedd 2023, symudon ni i adeilad newydd sbon yr 21ain ganrif, gan gynnig amgylchedd dysgu modern, gydag adnoddau da i'n plant, sy'n cefnogi addysgu o ansawdd uchel a chwricwlwm eang, diddorol. Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol. Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn. Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon. Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg. Am y Rôl Manylion Tâl: Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu Gradd 4 PCG 5-7 £25,583- £26,403 pro rata Oriau Gwaith / Wythnosau’r Flwyddyn / Patrwm Gwaith: 30 awr Prif Weithle: Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas eisiau penodi un cynorthwydd Addysgu brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n cymuned ysgol sy’n cefnogi ac yn meithrin. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn ysgol agos, sy'n canolbwyntio ar deuluoedd, gydag ethos cryf a chefnogol. Mae ein staff ymroddedig yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr a'u meithrin fel rhan o dîm gofalgar. Rydym yn ymdrechu am y gorau i bob disgybl yn ein gofal, gan gynnig cwricwlwm cyffrous a diddorol sy'n ysbrydoli cariad at ddysgu ac yn cefnogi pob plentyn i ffynnu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus: Â phrofiad o weithio gyda phlant mewn lleoliad ysgol gynradd Yn dangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu gwych Yn gallu ffurfio perthynas gadarnhaol ac effeithiol gyda disgyblion, staff, rhieni, a gweithwyr proffesiynol allanol Yn meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd cryf Yn hyblyg ac yn barod i weithio ar draws yr ystod oedran cynradd lawn, yn dibynnu ar anghenion yr ysgol Mae’r sgiliau a’r phrofiad dymunol (ond nid hanfodol) yn cynnwys: Ymyriadau o ddarparu ymyriadau therapiwtig fel Therapi CCLlE a Lego Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dda o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn arbennig Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASA), Anawsterau Dysgu Penodol (ADP) ac anawsterau ymlyniad Os ydych chi'n angerddol am gefnogi dysgu a lles plant, ac wedi ymrwymo i weithio fel rhan o dîm gofalgar a phroffesiynol, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol Amdanat ti Gwirio DBS Angenrheidiol: Gwell Manylion Cofrestru EWC: Mae'n ofyniad statudol bod ceiswyr am y swyddi hyn wedi'u cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg cyn iddynt allu dechrau gweithio mewn ysgol. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru, ar www.ewc.wales Sut i wneud cais Am Mwy o wybodaeth, cysylltwch â: Miss Evans Pennaeth 01446760239 Dull Dychwelyd e.e. e-bost / dychwelyd i'r ysgol: Dylid anfon pob cais i'r ysgol naill ai trwy e-bost StNicholasPS@valeofglamorgan.gov.uk neu trwy'r post cyn 4pm ar ddiwrnod cau.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Special needs learning support assistant
Weston-super-mare
Academics
Learning support assistant
£90 - £100 a day
Similar job
Learning support assistant
Caerphilly
Academics
Learning support assistant
£22,959 a year
Similar job
Special needs learning support assistant
Weston-super-mare
Academics
Learning support assistant
£90 - £95 a day
See more jobs
Similar jobs
Education jobs in Barry
jobs Barry
jobs Vale of Glamorgan
jobs Wales
Home > Jobs > Education jobs > Learning support assistant jobs > Learning support assistant jobs in Barry > Learning Support Assistant Level 2 - St Nicholas

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save