Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Research associate - (nihr - creating healthy jobs)

London
Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
Research associate
Posted: 12h ago
Offer description

Cydymaith Ymchwil
allanol gan NIHR - Creu Swyddi Iach
Ysgol Busnes Caerdydd

Dyma gyfle arbennig i ymchwilydd meintiol ymroddedig ymuno â thîm ymchwil sy'n gweithio ar brosiect newydd a ariennir yn allanol gan NIHR - Creu Swyddi Iach. Mae'r rôl wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd dan arweiniad yr Athro Melanie Jones yn rhan o brosiect rhyngddisgyblaethol cyffrous dan arweiniad y Sefydliad Ymchwil Cyflogaeth ym Mhrifysgol Warwick. Bydd y rôl yn cynnwys dadansoddi microdata i drin a thrafod y berthynas rhwng ansawdd swyddi ac iechyd yn y DU, gan arwain at gyhoeddiadau academaidd o safon a’u rhannu i lywio polisïau ac ymarfer cyflogwyr. Yn ddelfrydol, byddai’n addas i rywun sydd ag arbenigedd ym maes iechyd ac/neu economeg llafur.

Os oes gennych ymholiadau am y rôl. Cysylltwch â'r Athro Melanie Jones: jonesm116@caerdydd.ac.uk.

Mae’r rôl amser llawn hon (35 awr yr wythnos) yn cael ei chynnig am gyfnod penodol o 1 Medi 2025 ymlaen (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny) am gyfnod o 12 mis.

Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)

Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 6 Hydref 2025
Dyddiad cau: Dydd Llun, 3 Tachwedd 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd


Prif Swyddogaeth

Gwneud ymchwil ar y berthynas rhwng ansawdd swyddi ac iechyd yn rhan o Brosiect Creu Swyddi Iach sydd wedi’i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR). Cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a'r Brifysgol gan gynnal gwaith ymchwil sy’n arwain at gyhoeddi mewn cyfnodolion o safon uchel. Bydd deiliad y swydd yn ymdrechu i wneud ymchwil o’r safon uchaf ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.


Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Ymchwil

* Gwneud ymchwil meintiol ar y berthynas rhwng ansawdd swyddi ac iechyd gan gyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol y prosiect, yr Ysgol a’r Brifysgol drwy sicrhau allbynnau mesuradwy, gan gynnwys ymgeisio am gyllid a chyhoeddi gwaith mewn cynadleddau a chyfnodolion academaidd cenedlaethol
* Datblygu amcanion ymchwil a chynigion ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys ceisiadau am gyllid
* Mynd i gynadleddau/seminarai lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau yn y rhain yn ôl yr angen
* Ymgymryd â thasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect ymchwil, gan gynnwys cynllunio a threfnu'r prosiect a rhoi’r gweithdrefnau sydd eu hangen ar waith er mwyn sicrhau bod adroddiadau cywir yn cael eu cyflwyno’n brydlon
* Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil, llywodraethu ymchwil a cheisiadau sy'n gysylltiedig â chyrchu data yn ôl yr angen
* Adolygu a chywain y llenyddiaeth ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes
* Cymryd rhan yng ngweithgareddau prosiect ac ymchwil yr Ysgol
* Rhannu canfyddiadau ymchwil ac adeiladu rhwydweithiau yn fewnol ac yn allanol i'r Brifysgol, dylanwadu ar benderfyniadau, archwilio gofynion ymchwil y dyfodol, a rhannu syniadau ymchwil er budd prosiectau ymchwil.

Arall

* Cydweithio’n effeithiol â phartneriaid prosiect, cyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill, ac ati, bydd angen gwneud hyn yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil yr Ysgol, meithrin partneriaethau strategol gwerthfawr, a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws amrywiaeth o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at y prosiect a’r Ysgol, a gwella ei phroffil cenedlaethol a rhyngwladol.
* Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella perfformiad.
* Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth y prosiect a’r Ysgol a gweithgareddau i hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ar draws y Brifysgol a thu hwnt
* Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd


Ysgol Busnes Caerdydd

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn ysgol fusnes a rheoli flaenllaw yn y DU, yn cynnal achrediadau AACSB ac AMBA ac yn y 1af safle 1af am ei Hamgylchedd Ymchwil a'i 2il ar Bŵer Ymchwil (REF2021). Mae gan yr Ysgol bwrpas Gwerth Cyhoeddus ac mae'n canolbwyntio ar gyd-greu addysg a gwybodaeth o ansawdd uchel, rhyngddisgyntafol sy'n darparu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylddol. Mae gweithgareddau'r Ysgol yn gogwyddo tuag at bum Her Fawr: Gwaith gweddus, economïau teg a chynaliadwy, sefydliadau yn y dyfodol, llywodraethu da, ac arloesedd cyfrifol.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addys

* Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn Economeg neu bwnc cysylltiedig.

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

* Arbenigedd a phortffolio diamheuol o ymchwil yn un o'r meysydd ymchwil canlynol:i. Economeg llafur
* ii. Economeg iechyd
* Gwybodaeth am statws cyfredol ymchwil yn eich maes arbenigol
* Gallu diamheuol i gyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol
* Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyllid ymchwil cystadleuol i allu paratoi ceisiadau i gyrff cyllido

Cyfathrebu a Gweithio’n Rhann o Dîm

* Gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol
* Gallu gweithio’n dda yn rhan o dîm ymchwil

Arall

* Gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos
* Sgiliau ac arbenigedd o ddadansoddi microdata yn feintiol

Meini Prawf Dymunol

* Tystiolaeth o gydweithio gyda sefydliadau anacademaidd.
* Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol byd Addysg Uwch.
* Tystiolaeth o allu cymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a'u defnyddio i wella gweithgareddau ymchwil y prosiect a'r Ysgol.

Gwybodaeth am y cais

Nodyn pwysig: Polisi'r Brifysgol yw defnyddio manyleb y person fel arf allweddol ar gyfer rhestru byr. Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn ogystal â'r rhai dymunol, lle bo hynny'n berthnasol. Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Sicrhewch fod y dystiolaeth yr ydych yn ei darparu yn cyfateb i'r meini prawf wedi'u rhifo a amlinellir uchod. Bydd eich cais yn cael ei ystyried yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir gennych o dan bob elfen.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Research associate - recruitment
London
Imperium People
Research associate
Similar job
Equity research associate – business services
London
Jefferies
Research associate
Similar job
Market research associate (scandinavian languages) - remote
London
QQFS (Qualitative & Quantitative Fieldwork Services)
Research associate
See more jobs
Similar jobs
Science jobs in London
jobs London
jobs Greater London
jobs England
Home > Jobs > Science jobs > Research associate jobs > Research associate jobs in London > Research Associate - (NIHR - Creating Healthy Jobs)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save