Disgrifiad Swydd
Cynnal ymchwil ym maes paleohinsawdd a gwyddoniaeth system hinsawdd a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a'r Brifysgol, gan wneud gwaith ymchwil a fydd yn arwain at gyhoeddi ymchwil o safon. Rhagori ym maes ymchwil ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
Ymchwil
* Cynnal gwaith ymchwil ym maes paleohinsawdd a gwyddoniaeth system hinsawdd a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a'r Brifysgol drwy gynhyrchu canlyniadau y gellir eu mesur gan gynnwys gwneud ceisiadau am arian, cyhoeddi mewn cynadleddau a chyfnodolion academaidd cenedlaethol, a recriwtio a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
* Datblygu amcanion ymchwil a chynigion ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys ceisiadau am gyllid
* Mynd i gynadleddau/seminarau lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau yn y rhain yn ôl yr angen
* Ymgymryd â thasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect ymchwil, gan gynnwys cynllunio a threfnu'r prosiect a rhoi’r gweithdrefnau sydd eu hangen ar waith er mwyn sicrhau bod adroddiadau cywir yn cael eu cyflwyno’n brydlon
* Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel sy’n briodol
* Adolygu a chywain llenyddiaeth ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes
* Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol.
* Datblygu a chreu rhwydweithiau yn y Brifysgol a’r tu allan iddi, gan gynnwys dylanwadu ar benderfyniadau, ystyried gofynion ymchwil yn y dyfodol a rhannu syniadau ar gyfer ymchwil er budd prosiectau ymchwil.
Arall
* Ymgysylltu’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol er mwyn codi proffil yr Ysgol, meithrin cysylltiadau strategol gwerthfawr a nodi cyfleoedd i gydweithio ar amrywiaeth o weithgarrach. Bydd disgwyl i'r gweithgareddau hyn gyfrannu at waith yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol.
* Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella perfformiad.
* Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith i’r Brifysgol ehangach a thu hwnt.
* Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
* Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes cysylltiedig neu gyfatebol, neu brofiad diwydiannol perthnasol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
* Arbenigedd sefydledig a phortffolio diamheuol o waith ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol yn y meysydd ymchwil canlynol:
o Palaeohinsoddeg a palaeoeigionegraffeg
o Geocemeg
o Gwybodaeth am statws cyfredol ymchwil mewn adlunio cyfaint iâ a/neu gylchrediad paleo-cefnforol
o Gallu diamheuol i gyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol
o Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyllid ymchwil cystadleuol i allu paratoi ceisiadau i gyrff cyllido
Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
* Y gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol
* Y gallu i oruchwylio gwaith pobl eraill i arwain ymdrechion y tîm ac ysgogi unigolion
Meini Prawf Dymunol
* Profiad gydag ystadegau Bayesaidd
* Profiad o weithio gydag ystod eang o gofnodion geocemegol dirprwyol, gan gynnwys dadansoddi isotopau metelau hybrin a neodymiwm fforaminifferaidd.
* Tystiolaeth o’r gallu i gymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio i wella gweithgarwch ymchwil yr Ysgol.
Cyflog: £40,497 - £45,413 y flwyddyn (Gradd 6)
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) ac am gyfnod penodol o 48 mis.
Am fwy o wybodaeth am weithio ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â Claudia Pena Becerra drwy e-bost earthhr@caerdydd.ac.uk
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 24 Medi 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchyd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau...
#J-18808-Ljbffr