Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Fel aelod o’r Tîm Cartrefi Fforddiadwy byddwch yn: Gweithredu fel y prif gyswllt cofrestr tai fforddiadwy. Cynorthwyo i ofalu bod y gwasanaeth a ddarperir i’r awdurdodau lleol, datblygwyr a phartneriaid eraill yn ein perthynas a nhw o weinyddu’r cofrestrau fforddiadwy yn wasanaeth rhagorol yn unol â pholisïau, gweithdrefnau, safonau a thargedau. Cynorthwyo i sicrhau fod darpar brynwyr / darpar denantiaid yn cael gwasanaetheffeithiol a phrydlon i’wenwebu igynlluniau tai fforddiadwy drwy Cytundeb Cynllunio Adran 106, yn ogystal â chynlluniau prynu a rhent fforddiadwy Grŵp Cynefin a’r partneriaid. Magu perthynas dda gydag asiantaethau allanol, ymgynghorwyr ariannol, cyfreithwyr a phriswyr. Gweithio’n effeithiol fel rhan o’r Tîm Cartrefi Fforddiadwy i ddarparu gwasanaeth rhagorol, yn unol â pholisïau, gweithdrefnau, safonau, targedau asafonau Gofal Cwsmer Grŵp Cynefin. Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw. Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Catrin Vaughan Roberts, Rheolwr Cartrefi Fforddiadwy, ar 0300 111 2122. Y Pecyn Math o gytundeb: Parhaol Cyflog: £28,911 - £32,539 (pro rata) Lleoliad: Penygroes / Gweithio o gartref Oriau Gweithio: 21 awr yr wythnos. Patrwm gwaith i'w gytuno ond bydd angen gweithio ar ddydd Mercher. Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd (pro rata) Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon Disgrifiad Swydd DS Swyddog Asesu Cartrefi Fforddiadwy 0126.pdf JD Affordable Homes Assessment Officer 0126.pdf Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf Datblygiad Personol: Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf Dyddiad y cyfweliadau: 05.02.26 Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.